Skip to main content

The charity making life better by water

Gwerthfawrogi natur ar Faldwyn

Mae Camlas Maldwyn wedi'i dynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ar gyfer y planhigyn dyfrol tanddwr Llyriad-y-dŵr Arnofiol (Luronium natans), ac mae'n gartref i un o'r poblogaethau mwyaf ohono yn y DU.

Hefyd, mae wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ar gyfer y casgliad o infertebratau sy'n byw ar yr ymylon ac yn codi o'r dŵr, a rhywogaethau sydd o bwysigrwydd cenedlaethol fel Dyfrllys Camlaswellt (Potamogeton compressus). Hefyd, mae'n gartref i lu o rywogaethau eraill gan gynnwys y dyfrgi, glas y dorlan ac ystlumod. Mae camlesi yn gynefin artiffisial wedi'u gwneud gan bobl sy'n darparu amodau tebyg i gynefinoedd naturiol y rhywogaethau hyn, a dyna pam eu bod yn gartref i rai o'r planhigion a'r anifeiliaid hyn.

photo of canal channel at Carreghofa

Fodd bynnag, fel cynefin gwlyptir, mae'n newid yn gyson ac mewn perygl o newid cymaint fel na fydd modd ei adnabod. Gelwir hyn yn olyniaeth ac mae'n gallu arwain at newid o fod yn gynefin dŵr agored gydag ymylon cyfagos, i fod yn sianel sych sydd wedi'i mewnlenwi lle mae coed yn dechrau bwrw gwreiddiau. Er bod dynodiad SoDdGA Camlas Maldwyn yn amlygu'r cynefin ymylol fel nodwedd, mae gordyfiant yr ymylon yn golygu bod y sianel yn siltio. Mae colli'r dŵr agored yn golygu nad yw'n gallu parhau i gynnal y rhywogaethau dyfrol sydd o bwysigrwydd cadwraeth mwyach. Er mwyn atal olyniaeth rhag cyrraedd y pwynt hwn, mae angen gwaith rheoli hirdymor gofalus. Un dull posibl o wneud hyn yw trwy aflonyddu a reolir, sy'n atal cystadleuaeth gan rywogaethau planhigion dyfrol eraill. Gallai aflonyddu o'r fath fod ar ffurf carthu rheolaidd neu ddull mwy cynaliadwy o reoli symudiadau cychod.

Meithrin natur: adfer Camlas Maldwyn a chroesawu stiwardiaeth ecolegol

Dechreuodd y gwaith i'r ddyfrffordd segur hon ym 1969 fel rhan o brosiect Adfer Camlas Maldwyn, ac yna datblygiad y Strategaeth Rheoli Cadwraeth ar sut i fwrw ymlaen â gwaith adfer cynaliadwy. Cymeradwywyd y strategaeth gan 15 o sefydliadau, gan gynnwys elusennau byd natur, cynghorau lleol, a chyrff statudol. Ers hynny, mae grwpiau a phrosiectau gwahanol wedi ceisio adfer rhannau o'r sianel i gyflwr lle mae dŵr agored yn gallu cynnal rhywogaethau dyfrol pwysig, ochr yn ochr â defnydd cyfyngedig gan gychod yn y dyfodol.

Mae'r holl waith i adfer Camlas Maldwyn yn cael ei arwain gan y Strategaeth Rheoli Cadwraeth a, lle bo angen, mae'n cael ei ddatblygu i adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth gyfoes o'r safle pwysig hwn.

Heb y gwaith adfer, bydd dŵr y gamlas yn fwy agored i bwysau cynyddol o'r newid yn yr hinsawdd a dŵr ffo sy'n llygru, gan arwain at ddirywiad mewn ansawdd dŵr a cholli llawer o rywogaethau pwysig.

Arfarniad Amgylcheddol

Mae ein holl waith ar rwydweithiau'r ddyfrffordd yn mynd trwy broses a elwir yn arfarniad amgylcheddol. Mae hyn yn golygu bod arbenigwyr yn yr Ymddiriedolaeth yn edrych ar effeithiau posibl y gwaith ar elfennau amgylcheddol, ecolegol a threftadaeth yr ardal. Mae'r rhain yn cael eu hystyried yn y camau cysyniad, cynllunio a gweithredu, gan sicrhau ein bod yn cynllunio i gynnal y safonau ym mhob un o'r agweddau hyn.

Montgomery Canal near Four Crosses

Mae prosiect y Gronfa Ffyniant Bro yn canolbwyntio ar y darn o'r gamlas sy'n rhedeg o'r ffin yn Llanymynech i Arddlîn. Er mwyn sicrhau bod dŵr agored yn y sianel, ochr yn ochr â gwaredu rhwystrau peirianyddol, nod y prosiect yw gwneud gwaith carthu fesul cam, ynghyd â gwaith ar lystyfiant a choed dethol, gwaith peirianneg i adeiladu pont newydd ac adleoli pont arall, a'r posibilrwydd o greu bron i 7 hectar o warchodfeydd natur. Mae'r wybodaeth ar y tudalennau hyn yn amlinellu'r gwaith ecolegol sy'n mynd rhagddo, sy'n cynorthwyo'r broses adfer ac yn sicrhau bod yr ecoleg yn llywio'r broses.

Last Edited: 28 July 2023

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration