Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Ymgorffori natur yn nyluniad strwythurau newydd
Wrth ddylunio elfennau strwythurol y rhaglen hon, byddwn yn ceisio cynnwys manteision i ecoleg yr ardal lle bynnag y bo modd.
Dylunio Pontydd
Gallai'r manteision hyn gynnwys mannau clwydo ar gyfer ystlumod yn y pontydd sy'n cael eu codi gennym, a sicrhau nad yw'r coridor dŵr yn cael ei atal, er mwyn sicrhau bod dyfrgwn yn gallu parhau i'w ddefnyddio'n ddiogel.
Yn ogystal, bydd angen tirlunio'r ardal gyfagos wrth adeiladu'r pontydd. Yn ystod y gwaith tirlunio hwn byddwn yn ymgorffori cynifer o welliannau â phosibl ar gyfer ecoleg yr ardal gan gynnwys plannu gwrychoedd llawn rhywogaethau a choed neu brysgwydd sy'n adlewyrchu'r rhywogaethau sy'n byw yn naturiol yn yr ardal. Bydd unrhyw ardaloedd amwynder sydd i'w plannu yn defnyddio palet o blanhigion brodorol sydd â gwerth i beillwyr.
Gwarchodfeydd Natur
Hefyd, mae potensial i ni ddarparu hyd at 6.8 hectar o warchodfeydd natur newydd â chynefin dŵr agored. Byddai'r rhain yn cael eu lleoli ar hyd y darn o gamlas rhwng ardal Llanymynech a'r Trallwng. Diben y cynefin ychwanegol hwn fyddai helpu i gynnal poblogaethau o'r rhywogaethau dyfrol pwysig, lle penderfynir y byddai angen y cymorth ychwanegol hwn ar y mesurau yn y sianel sy'n cael eu rhoi ar waith gennym.
Fel rhan o'r broses reoleiddio, byddai angen sicrhau bod unrhyw warchodfeydd sy'n cael eu creu yn cael eu sefydlu cyn ailgyflwyno cychod i'r gamlas. Byddai'r cyflwr yn cael ei asesu adeg cynnig mordwyo, wedi'i lywio gan fonitro trylwyr o'r nodweddion ecolegol. Ni fydd cychod yn cael defnyddio'r gamlas os nad yw'r rhywogaethau mewn cyflwr da.
Dylunio ar gyfer Rhywogaethau Penodol
Mae ein profiad blaenorol o greu gwarchodfeydd natur wedi dysgu llawer i ni. Mae dyluniad corff dŵr agored sy'n llethru o'r glannau hyd at ddyfnder tebyg i ddyfnder camlas yn y canol yn helpu i reoli proses feddiannu gan yr ymylon sy'n datblygu. Hefyd, mae'n creu cynefin sy'n cynnwys rhywfaint o symudiad a llif, sy'n cynorthwyo'r planhigion dyfrol llai o ran maint sy'n byw o dan y dŵr i wasgaru a chytrefu.
Byddem yn datblygu'r dyluniad hwn ar gyfer ein gwarchodfeydd diweddaraf, gan fynd un cam ymhellach i greu mosaig o amodau gwahanol yn y dŵr agored hwn trwy gynllunio llawr mwy cymhleth. Byddai hyn yn darparu mannau cysgodol ac agored, mannau dyfnach, mwy bas, cysgodol a heulog, i gyd wedi'u cynllunio o amgylch y rhywogaethau rydym am eu gweld yn ffynnu yno a'u cynefinoedd naturiol.
Last Edited: 30 June 2023
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration