Skip to main content

The charity making life better by water

Deall cyflwr presennol y gamlas

Er bod Camlas Maldwyn yn gartref i fywyd gwyllt bendigedig, mae llawer o'r gamlas mewn cyflwr nad yw'n cyfiawnhau'r rhesymau dros ei dynodiad. Bob gwanwyn, mae ymchwydd newydd o lystyfiant yn dominyddu'r sianel ac yn cysgodi'r dŵr.

Water quality monitoring on the Montgomery Canal

Erbyn yr hydref, mae'r llystyfiant hwn yn marw, gan adael haen arall o ddeunydd sy'n pydru sy'n ychwanegu at yr haen o ddeilbridd llawn maethynnau sy'n cynnal tyfiant y flwyddyn ganlynol.

Os nad yw'r gamlas yn cael ei rheoli, bydd yn parhau i ddirywio yn y modd hwn, gyda rhywogaethau penodol yn cario'r dydd, a lleihau bioamrywiaeth yr ardal.

Gwaelodlin

Er mwyn datblygu cynllun, mae angen gwybod eich man cychwyn. Mae hyn yn berthnasol i ecoleg Camlas Maldwyn a'r ardaloedd cyfagos. Am y rheswm hwn, cynhaliwyd arolwg botanegol ar hyd y cyfan o Gamlas Maldwyn yn 2022. Mae hyn wedi rhoi gwybodaeth i ni am gyflwr ecolegol y rhywogaethau planhigion sy'n nodweddiadol o'r gamlas ac sy'n sail i'w dynodiad.
O'i gymharu â data hanesyddol o arolygon Camlas Maldwyn, mae modd creu darlun o sut mae'r gamlas wedi newid dros y degawdau, gan ystyried yr hyn sydd wedi sbarduno'r newid hwn hefyd.

Arolygon Rhywogaethau a Warchodir

Cyn gwneud unrhyw waith, boed yn garthu, creu gwarchodfa natur neu adeiladu pont, cynhelir arolygon o'r ardal ar gyfer y rhywogaethau canlynol (lle ceir cynefin addas):

  • Moch daear
  • Ystlumod
  • Madfallod Cribog
  • Llygod y Dŵr
  • Dyfrgwn
  • Amffibiaid
  • Ymlusgiaid
  • Adar sy'n Nythu
  • Pathewod y Cyll

Hefyd, cynhelir arolygiad o'r ardal i gofnodi'r cynefinoedd sy'n bresennol (Arolwg Cynefin Cam 1), er mwyn canfod a oes unrhyw gynefinoedd blaenoriaeth.

Lle bynnag y nodir bod y rhywogaethau hyn yn bresennol, neu y gallent fod yn bresennol, cynhelir rhagor o arolygon. Canlyniad yr holl arolygon hyn yw dull gweithredu penodol ar gyfer safleoedd unigol er mwyn sicrhau y gallwn gynllunio ein gwaith o amgylch y rhywogaethau lle bo hynny'n bosibl. Os nad oes modd cynllunio ein gwaith o amgylch rhywogaethau, mae mesurau lliniaru priodol yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu'r rhywogaethau yn ystod y gwaith. Fel y dewis olaf, os nad oes modd newid y cynlluniau gwaith, neu gymryd camau lliniaru yn ystod y gwaith, byddwn ni'n creu cynefin amgen ac yn trawsleoli rhywogaethau.

Grass snakes are often spotted along the canal

Astudiaeth Achos - Elyrch

Mae Camlas Maldwyn yn enwog iawn am ei phoblogaethau elyrch. Maent yn nythu ymysg y cynefin cyrs ar y naill ochr i'r gamlas.

Mae'r mesurau canlynol yn cael eu defnyddio yn ystod gwaith carthu er mwyn eu diogelu:

  • Trefnir bod gwaith carthu yn cael ei wneud y tu allan i'r tymor bridio er mwyn osgoi tarfu ar elyrch sy'n nythu
  • Dim ond sianel ganolog fydd yn cael ei chlirio, gan adael digon o gynefin ar gyfer nythu
  • Os yw adar yn arddangos ymddygiad nythu cynnar, mae'r gwaith yn cael ei atal, a chyflwynir llain glustogi o amgylch yr ardal. Caiff y gwaith hwn ei oruchwylio gan Glerc Gwaith Ecolegol dynodedig a fydd yn monitro unrhyw adar am arwyddion bod angen newid y llain glustogi
  • Pan sefydlir nyth, bydd unrhyw waith yn y cyffiniau yn dod i ben ar unwaith os oes unrhyw bosibilrwydd y bydd yn tarfu ar elyrch
  • Ni chaniateir unrhyw rwystrau i atal yr elyrch rhag cyrraedd yr ardal o'u dewis

Proffilio ac Ymchwilio i Rywogaethau

Nid oes digon o waith ymchwil wedi cael ei wneud i rai o'r rhywogaethau planhigion a warchodir sydd i'w cael yn y gamlas. O ganlyniad, mae gwaith rheoli rhywogaethau yn y gorffennol wedi bod yn seiliedig ar ddysgu trwy brofiad. Fel rhan o'r prosiect hwn, rydym yn gobeithio gwella dulliau gweithredu'r gorffennol, trwy ymchwilio i'r rhywogaethau planhigion hyn a'r amodau sydd eu hangen arnynt i ffynnu. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud ar ffurf adolygiad o safleoedd eraill sy'n gartref i'r rhywogaethau, gwerthuso'r dulliau rheoli a'u canlyniadau, ochr yn ochr â chofnodi'r amodau amgylcheddol lle mae'r rhywogaethau'n byw ac adolygu data arolwg hanesyddol ar safleoedd. Erbyn diwedd y gwaith hwn, rydym yn gobeithio y bydd gennym ganllawiau rhagnodol ar gyfer y rhywogaethau, y gellir eu cynnwys wedyn mewn cynlluniau rheoli ar gyfer safleoedd camlesi a gwarchodfeydd yn y dyfodol.

Long stalked pondweed is present but rare within the Montgomery Canal - Credit: www.biopix.com

Last Edited: 07 July 2023

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration