Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Archwilio trysorau cudd camlas Maldwyn: Y dyfrllys dirgel
Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English Lleolir Camlas Maldwyn yng nghanol Sir Drefaldwyn, ac mae wedi bod yn hafan heddychlon ers amser maith i'r rhai sy'n mwynhau byd natur, gan gynnig amrywiaeth o fywyd dyfrol diddorol.
Mae'r fflora amrywiol sy'n ffynnu yn nyfroedd tawel y gamlas yn cynnwys Potamogeton, sbesimenau rhyfeddol sy'n fwy adnabyddus fel dyfrllys. Mae'r planhigion dyfrol tanddwr hyn yn chwarae rhan hollbwysig yng nghydbwysedd bregus yr ecosystem ffyniannus hon, gan swyno gwyddonwyr a chadwraethwyr fel ei gilydd.
Mae potamogetonau, sy'n rhan o'r teulu Potamogetonaceae, yn genws o blanhigion dyfrol sy'n cynnwys dros 100 o rywogaethau ledled y byd. Maen nhw'n adnabyddus am eu dail tanddwr neu arnofiol, ac yn ffynnu mewn cynefinoedd dŵr croyw fel llynnoedd, pyllau ac afonydd sy'n llifo'n araf. Mae'r planhigion hyn yn gwneud cyfraniad hanfodol at yr amgylchedd dyfrol, gan wella ansawdd dŵr, darparu lloches i organebau dyfrol, a gweithredu fel prif ffynhonnell fwyd ar gyfer adar dŵr a physgod.
Mae Camlas Maldwyn, gyda'i rhwydwaith helaeth o ddyfrffyrdd a gwlyptiroedd, yn gynefin delfrydol ar gyfer Potamogetonau. Mae dyfroedd araf y gamlas, sy'n llawn maethynnau a golau'r haul, yn creu'r amodau perffaith i'r planhigion hyn ffynnu. Yn ogystal, mae arwyddocâd hanesyddol y gamlas fel llwybr cludo wedi helpu i lunio ei bioamrywiaeth, gan ddarparu amgylchedd lle mae'r dyfrllys prin hyn yn gallu ffynnu.
Ymysg y rhywogaethau Potamogeton sy'n byw yng Nghamlas Maldwyn, mae dwy rywogaeth benodol yn brin iawn: Potamogeton Praelongus a Potamogeton friesii. Mae gan Potamogeton praelongus, neu'r dyfrllys hirgoes fel y'i gelwir, ddail hir, main a blodau cain sy'n ychwanegu elfen o harddwch at wyneb y dŵr. Yn y cyfamser, mae Potamogeton friesii, neu ddyfrllys Fries, yn rhywogaeth fregus gyda dail cul, tryloyw sy'n creu golygfa weledol gyfareddol o dan y dŵr.
Mae'r ddau fath hyn o ddyfrllys yn cael eu hystyried yn brin ac maen nhw wedi wynebu sawl her i'w goroesiad am nifer o resymau. Mae gweithgareddau pobl, fel dinistrio cynefinoedd, llygredd dŵr, a chyflwyno a lledaenu rhywogaethau goresgynnol, wedi cael effaith niweidiol ar eu poblogaethau. Mae statws gwarchodedig Camlas Maldwyn wedi darparu hafan i'r rhywogaethau prin hyn, gan ganiatáu iddynt barhau a chadw'u harwyddocâd ecolegol, ond mae eu poblogaethau yn parhau i fod yn fach. Yn ystod y degawdau diwethaf, mae ecosystem y gamlas wedi cael ei thrawsnewid gan arwain at ostyngiad yn nifer y cynefinoedd addas sydd ar gael ar gyfer rhai planhigion. Er mwyn gwrthweithio rhagor o newidiadau amgylcheddol sy'n rhwystro goroesiad y planhigion hyn, mae Glandŵr Cymru a'i phartneriaid wrthi'n adfer Camlas Maldwyn. Un o'n hamcanion, ochr yn ochr ag ailgyflwyno lefelau mordwyo cyfyngedig, yw diogelu'r ecosystem a chreu amodau sy'n caniatáu i'r planhigion ffynnu unwaith eto.
Mewn cydweithrediad â Phlanhigfa Planhigion Prin Prydain yn Llanfair-ym-Muallt, mae Glandŵr Cymru'n cynnal astudiaeth gynhwysfawr o'r dyfrllys hyn. Prif amcan y gwaith ymchwil hwn yw asesu pa mor hawdd yw lluosogi'r rhywogaethau hyn a fydd yn helpu i gyfrannu at fentrau adfer rhywogaethau ledled y byd. Mae'r rhywogaethau penodol hyn o ddyfrllys nid yn unig yn brin, ond hefyd nid ydynt wedi'u cofnodi'n ddigonol yn y DU ac ar raddfa fyd-eang. Er enghraifft, rhestrir P. friesii fel "Bron dan fygythiad" ar Restr Goch Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur y DU, ar ôl dirywiad sylweddol o 20% mwy o'r cyfnod cyn y 1930au hyd at 2019. Mae hyn yn golygu bod y rhywogaeth hon yn agos at fod yn y categori dan fygythiad yn y dyfodol agos.
Mae gwaith ymchwil ar luosogi Potamogetonau, gan gynnwys rhywogaethau prin P. praelongus a P. friesii, yn bwysig iawn am sawl rheswm. Yn gyntaf, mae deall cylchoedd bywyd, mecanweithiau atgenhedlu, a gofynion ecolegol y planhigion hyn yn galluogi gwyddonwyr i ddatblygu strategaethau cadwraeth effeithiol. Trwy nodi a lliniaru'r bygythiadau sy'n eu hwynebu, gallwn sicrhau goroesiad hirdymor y rhywogaethau cain hyn a chynnal bioamrywiaeth Camlas Maldwyn.
Yn ogystal, gall gwaith ymchwil ar luosogi Potamogetons helpu ymdrechion adfer ecolegol ehangach. Gan fod planhigion dyfrol yn chwarae rhan hanfodol o ran puro dŵr, gall y broses o'u hailgyflwyno helpu i wella ansawdd dŵr ac adfer ecosystemau sydd wedi diraddio. Yn ogystal, trwy feithrin dealltwriaeth well o'u patrymau twf a'u dewisiadau cynefin, gall gwyddonwyr wella rheolaeth gyffredinol o gynefinoedd dŵr croyw, sydd o fudd i nifer o rywogaethau sy'n dibynnu ar yr amgylcheddau hyn i oroesi.
Mae potamogetonau, rhywogaethau dyfrllys hudolus Camlas Maldwyn, yn cynnig cipolwg difyr ar ryfeddodau cudd ein hecosystemau dyfrol. Mae eu presenoldeb yn y gamlas yn tanlinellu pwysigrwydd diogelu a gwarchod cynefinoedd bregus. Mae prinder rhywogaethau fel Potamogeton praelongus a Potamogeton friesii yn amlygu'r angen am waith ymchwil pwrpasol ar eu lluosogi. Trwy astudio'r planhigion hyn, rydym yn datgloi gwybodaeth bwysig am gydbwysedd bregus ecosystemau dyfrol, ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer mesurau cadwraeth effeithiol. Gadewch i ni drysori harddwch ac arwyddocâd y trysorau tanddwr hyn, gan sicrhau bod eu gwaddol yn parhau am genedlaethau i ddod.
Last Edited: 30 June 2023
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration