Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Cwestiynau Cyffredin
Darllenwch ein hatebion i'n cwestiynau mwyaf cyffredin.
Pa fuddiannau a ddaw yn sgil adfer y gamlas?
Mae'n dyfrffyrdd yn gallu cynnig llu o fanteision economaidd a chymdeithasol i'w cymunedau cyfagos, gan ddarparu mynediad i'r awyr agored, gwella lles ac ymgysylltu â natur. Drwy adfer camlesi segur, gallwn gynyddu cyfleoedd hamdden sy'n helpu i adfywio ardal a dod â gwerth i'r economi.
Gall y camlesi hyn ar eu newydd wedd fod yn goridorau pwysig ar gyfer bywyd gwyllt, gan ddarparu gofodau gwyrdd a glas mewn tirwedd sy'n fwyfwy darniog, yn anffodus. Yn ddiweddar, mae'r Gymdeithas Dyfrffyrdd Mewndirol wedi cyhoeddi ei hadroddiad Waterways For Today, sy'n dangos y manteision enfawr y gellir eu cyflawni drwy adfer camlesi. Gallwch hefyd ddarllen ein hadroddiad Water Adds Value, a gyhoeddwyd yn 2014, i gael rhagor o wybodaeth am effaith gadarnhaol gwaith adfer ar gymunedau lleol.
Sut galla i gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith adfer?
Mae'r newyddion diweddaraf ar gael ar dudalennau gwe Adfer Camlas Maldwyn, a fydd yn cael eu diweddaru'n rheolaidd yn ystod cyfnod y prosiect. Os ydych chi'n aelod o'r gymuned leol, cofiwch lyfrnodi ein tudalen gweithgareddau a digwyddiadau, gan y byddwn yn postio manylion am ymgynghoriadau a gweithgareddau ymgysylltu yma. Os ydych chi ar Facebook, dilynwch grŵp Canal & River Trust Restoration. Bydd y grŵp hwn yn rhoi cipolwg i chi ar lawer o brosiectau adfer eraill mae grwpiau gwirfoddol yn gweithio arnyn nhw ledled Cymru a Lloegr, a byddwn yn rhannu unrhyw ddiweddariadau i'n tudalennau gwe neu erthyglau newyddion yn y grŵp hwn.
Pa fath o waith ymgynghori sydd ar y gweill?
Er bod camlas Maldwyn yn un wledig, mae'n llifo naill ai drwy neu gerllaw sawl cymuned yn y Canolbarth. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r cymunedau hyn i sicrhau eu bod yn parhau i gael gwybod am unrhyw waith sydd ar y gweill neu waith arfaethedig, ac yn mynychu cyfarfodydd y Cyngor Cymuned yn rheolaidd i drafod a mynd i'r afael ag unrhyw bryderon. Hefyd, byddwn yn cynnal rhai ymgynghoriadau cyn ein cais cynllunio ar gyfer pontydd newydd a rhai sesiynau galw heibio ar y llwybr tynnu rhwng Llanymynech a Phont Walls. Cynhelir yr ymgynghoriadau a'r sesiynau galw heibio ym misoedd Ionawr a Chwefror 2023.
Lle alla i weld map o Gamlas Maldwyn?
Mae rhagor o fanylion ar gael ar ein tudalen Camlas Maldwyn.
Alla i gerdded ar hyd Camlas Maldwyn yn ystod gwaith adfer?
Mae ein prosiect LUF yn adfer y darn rhwng Llanymynech ac Ardd-lin, felly mae llawer o'r llwybr tynnu ar hyd Camlas Maldwyn ar agor. Fodd bynnag, ar gamau gwahanol o'r prosiect, bydd y gwaith adfer yn cael rhywfaint o effaith ar ddefnydd o'r gamlas a'r ardaloedd cyfagos, yn enwedig pontydd Walls a Williams. Gall hyn gynnwys cau rhannau penodol o'r llwybr tynnu, a dargyfeiriadau traffig posibl, yn ystod gwaith ar y pontydd.
Fydd y gamlas neu'r llwybr tynnu ar gau yn ystod gwaith adfer?
Efallai y bydd rhaid cau'r llwybr tynnu am gyfnod byr, ac y bydd y traffig yn cael ei effeithio rhywfaint, wrth inni reoli'r gwaith adeiladu.
Pa adran fydd yn cael ei hadfer?
Byddwn yn adfer y rhan o Lanymynech i Ardd-lin. Mae rhannau eraill o Gamlas Maldwyn yn cael eu hadfer hefyd, fel yr adran ger Crickheath, gan wirfoddolwyr y Shropshire Union Canal Society. Mae rhannau eraill o'r gamlas sydd heb eu hadfer eto, ac eraill sy'n agored ac yn bosib eu mordwyo.
Unwaith y bydd ein prosiect wedi'i gwblhau, bydd angen gwneud rhywfaint o waith pellach i adfer y gamlas yn llawn, gan ei chysylltu â'r Trallwng ac yna'r Drenewydd, felly ni fydd modd mordwyo ar hyd y darn newydd yn syth bin. Fodd bynnag, bydd y prosiect LUF hwn yn sbardun i'r cam nesaf a fydd, gobeithio, yn agor drysau eraill ar gyfer sicrhau'r cyllid sydd ei angen.
Pa mor hir fydd gwaith adfer Camlas Maldwyn yn ei gymryd?
Mae ein cyllid prosiect LUF yn gofyn i'r gwaith gael ei gwblhau o fewn 24 mis.
Sut mae dysgu mwy am y gwaith adfer yn ei gyfanrwydd?
Gallwch ddarllen strategaeth adfer camlas Maldwyn sydd â chyfoeth o wybodaeth wych am y rheswm mae cymaint o bobl yn ymroi i adfer y gamlas hanesyddol hon.
Sut bydd y prosiect hwn o fudd i natur leol a bywyd gwyllt?
Mae Camlas Maldwyn yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Mae'r dynodiadau hyn o ganlyniad i'r rhywogaethau planhigion prin, llyriad-y-dŵr arnofiol, yn ogystal ag ystod amrywiol o byllau dŵr prin lleol, infertebratau a mwy. Mae angen cilfach arbennig ar y rhywogaethau hyn i fodoli; cilfach a fyddai heb reolaeth yn diflannu yn sgil olyniaeth ecolegol (y newid o gilfach a grëwyd o'r newydd, trwy gyfnodau gwahanol tan, er enghraifft, y bydd coed wedi sefydlu a chynefin coetir wedi ei greu).
Mae'r prosiect hwn yn cyfuno gwaith i adfer y sianel i gyflwr y gall y rhywogaethau prin hyn ffynnu ynddo, gyda'r potensial i greu ardaloedd newydd o wlyptir i helpu i hybu poblogaethau. Os bydd angen, bydd y cynefinoedd sydd wedi'u hadfer a'r cynefinoedd newydd hefyd yn helpu i gynnal y bywyd gwyllt lleol drwy gysylltu cynefinoedd sy'n gyfeillgar i natur yn y dirwedd a chreu ecosystem i gynnal ystod eang o rywogaethau.
Sut ydych chi'n gwarchod bywyd gwyllt yn ystod y gwaith hwn?
Cyn dechrau'r gwaith, fe wnaethom ni gynnal arolwg helaeth i gofnodi'r cynefinoedd, y planhigion a'r anifeiliaid sydd ar hyd Camlas Maldwyn a'r cyffiniau. Bydd canlyniadau'r arolygon hyn yn llywio pob rhan o'n gwaith, gan wneud yn siŵr bod enillion net cadarnhaol i'r ardal.
Yn achos gwaith penodol, fel carthu ac adeiladu gwarchodfeydd natur, mae arolygon o rywogaethau a amddiffynnir a gwaith mapio cynefinoedd wedi'u cynnal. Bydd unrhyw rywogaethau gwarchodedig neu gynefinoedd blaenoriaeth yn cael eu gwarchod gan barthau neilltuedig lle nad yw'r gwaith yn effeithio'n uniongyrchol arnyn nhw.
Lle bydd gwaith yn effeithio ar yr ardaloedd/rhywogaethau hyn, bydd mesurau lliniaru priodol ar waith fel yr argymhellir gan ecolegydd gan gynnwys trawsleoli bywyd gwyllt ymhell cyn i'r gwaith ddechrau. Os bydd angen, bydd y cynefin ychwanegol yn cael ei greu i wneud iawn am unrhyw golli cynefin, fodd bynnag, ceisir unrhyw gyfle i wella ac ehangu cynefin yn ystod y prosiect hwn. Bydd yr holl waith yn cael ei asesu gan ecolegydd a'i wneud yn unol â'r arfer gorau, o dan y trwyddedu a'r caniatâd cywir.
Sut mae carthu camlas yn gwella bioamrywiaeth?
Mae unrhyw ecosystem gwlyptir yn newid yn gyson. Mae proses o'r enw olyniaeth yn golygu bod rhywogaethau arloesol yn dechrau cytrefu ardal o ddŵr agored pan gaiff ei chreu. Dros amser, bydd mwy a mwy o blanhigion yn dechrau cytrefu a bydd mater planhigion sy'n pydru yn creu haen o silt lle gall rhywogaethau ymylol sefydlu. Yn y gamlas, mae'r lefel silt yn caniatáu i'r sianel gyfan gael ei dominyddu gan y rhywogaethau ar yr ymylon hyn fel cyrs a hesg.
Er ein bod ni am gadw peth o'r cynefin gwerthfawr hwn, hoffem weld mosaig sy'n cyfuno dŵr agored a'r cynefinoedd ar yr ymylon fel bod gennym fwy o amrywiaeth o rywogaethau planhigion. Bydd y rhain yn eu tro yn cefnogi mwy o amrywiaeth o fywyd gwyllt. Trwy garthu'r gamlas, gan adael rhai o'r ymylon yn gyfan, byddwn ni'n efelychu prosesau naturiol sy'n troi'r cloc olyniaeth yn ôl. Mae hefyd yn gyfle i ni reoli rhywogaethau ymledol a fyddai fel arall yn dominyddu ac yn drech na'r rhywogaethau lleol.
Pam ydych chi'n creu gwarchodfeydd natur?
Mae'r gamlas ym Mhowys wedi'i dynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ar gyfer y rhywogaethau planhigion prin, Llyriad-y-dŵr arnofiol, yn ogystal ag ystod amrywiol o ddyfrllys sy'n brin yn lleol. Mae'n bosibl y bydd y cynllun adfer yn gofyn am greu cynefin ychwanegol, a fydd yn caniatáu i'r planhigion hyn gael eu cadw a ffynnu. Ar hyn o bryd rydym yn archwilio'r posibilrwydd o greu gwarchodfeydd natur all-lein, os bydd ein cynllun yn penderfynu y bydd eu hangen, a fydd yn cael eu cysylltu â'r gamlas i ddarparu'r cynefin hwn.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaethom ni adeiladu 3 gwarchodfa natur yn Queen's Head o'r enw gwarchodfeydd natur Aston, ar y cyd â gwaith adfer camlesi cam 1. Mae'r gwarchodfeydd natur hyn wedi profi'n llwyddiannus i blanhigion ac yn darparu ardaloedd gwych ar gyfer bywyd gwyllt a llefydd hyfryd i bobl fynd am dro ac ymlacio.
Beth ydych chi'n mynd i'w wneud â'r holl bridd gwastraff o'r gwarchodfeydd?
Rydyn ni'n mynd i orfod palu llawer iawn o bridd er mwyn creu'r gwarchodfeydd. Rydyn ni'n awyddus i osgoi anfon pridd i safle tirlenwi, felly byddwn yn chwilio am ffyrdd o ailddefnyddio'r pridd ar y safle trwy waith tirlunio neu'n chwilio am gynlluniau lleol sydd angen uwchbridd. Byddwn yn cyflawni'r gwaith hwn yn unol â'r Rheoliadau Gwastraff.
Pa mor fawr fydd y pontydd?
Bydd y pontydd ond mor fawr ag y mae angen iddyn nhw fod. Bydd y lled mordwyo yn mesur 2.5m (8'2") gyda drafft aer o 1.83m (6'). Byddan nhw'n cario ffordd dwy lôn dros y gamlas. Efallai y bydd hi'n anodd cyflawni hyn yn safle Pont Williams, felly rydyn ni'n ystyried opsiynau pont symudol fel ateb amgen.
Beth fydd gwneuthuriad y pontydd?
Mae'n debygol y bydd Pont Walls yn cael ei chreu o adrannau blwch concrit a gastiwyd ymlaen llaw, er mwyn hwyluso'r gwaith adeiladu. Byddai'r pyrth yn cael eu ffurfio o goncrit cyfnerth ac mae penseiri wrthi'n ystyried golwg a gorffeniadau'r bont fel rhan o'r broses ddylunio. Byddai'r un peth yn wir ar gyfer yr opsiwn sefydlog ar gyfer pont Williams hefyd. Byddai opsiynau pont symudol yn Williams yn cynnwys sianel fordwyo concrit cyfnerthu a dec metel symudol ychydig uwchlaw'r dŵr.
Last Edited: 15 May 2023
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration