Skip to main content

The charity making life better by water

Diweddariadau prosiect

Cael y newyddion diweddaraf.

Diweddariad: 11 Ebrill 2024

Mae tîm y prosiect wedi parhau i ddatblygu cynllun y ddwy bont a gwarchodfa natur sy’n cael eu creu fel rhan o brosiect y Gronfa Ffyniant Bro. Nid oes dyddiad wedi’i bennu eto ar gyfer cyflwyno unrhyw geisiadau cynllunio, a bydd cyfnod ymgynghori statudol cyn ymgeisio yn dechrau cyn cyflwyno unrhyw geisiadau cynllunio. Rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu ein cynigion gyda chi, a bydd y manylion diweddaraf yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon maes o law.

Mae’r tîm wedi bod yn edrych ar gyfleoedd i weithio ar draws cynefinoedd mewn mannau eraill, y tu hwnt i’r gamlas, gan greu gwarchodfeydd sy’n gwella’r amgylchedd naturiol ar raddfa ehangach. Rydyn ni’n bwriadu creu gwarchodfa ar orlifdir, a fydd yn cael ei bwydo gan yr afon ac a fydd yn destun amrywiaethau naturiol o ran lefel dŵr yr afon. Mae ymchwil wedi dangos bod Luronium natans (llyriad-y-dŵr arnofiol) wedi tyfu a sefydlu yn y math hwn o gynefin. Bydd y cynllun yn cyfuno’r adferiad afon a’r buddion cynefin/bioamrywiaeth gorau, a hynny heb gynyddu’r perygl o lifogydd lleol a llifogydd ymhellach i lawr yr afon. Rydyn ni’n cydweithio’n agos gydag ymgynghorwyr arbenigol i lunio opsiynau cynllunio ymarferol ar gyfer yr elfen hon.

Rydyn ni’n falch o allu cyhoeddi bod y gwaith carthu ar gyfer Cam 2a a Cham 2b bellach wedi’i gwblhau. Yn ystod y broses, achubwyd ar y cyfle i fynd i’r afael ag erydu ar lan y gamlas a gwneud atgyweiriadau, a rhoi mesurau ar waith i ddiogelu’r glannau rhag difrod pellach. Agwedd nodedig ar y dull adfer oedd defnyddio rholiau rhisgl cnau coco i sefydlu ymyl “wyrddach” mwy naturiol mewn lleoedd a oedd wedi cael eu hatgyfnerthu’n flaenorol gan bolion metel. Dros amser, roedd y pyst hyn wedi dechrau diffygio, a hynny’n arwain at beryglu sefydlogrwydd glannau’r gamlas. Drwy leoli rholiau rhisgl cnau coco ar hyd ymyl y dŵr ac ôl-lenwi â deunydd wedi’i garthu, rydyn ni nid yn unig wedi mynd i’r afael â’r pryderon brys ynghylch sefydlogrwydd ond hefyd wedi cofleidio ateb gwyrddach, mwy cynaliadwy.

Mae’r dull hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i stiwardiaeth amgylcheddol, gan ddarparu dewis amgen eco-gyfeillgar i ddulliau peirianneg “caled” traddodiadol. Mae’n atal erydiad pellach, yn cynnig ateb mwy cyfeillgar i gynefinoedd i drafferthion sydd wedi codi eisoes, ac yn annog ffyniant planhigion ac anifeiliaid lleol. Wrth ddewis peidio â hadu yn yr ardaloedd hyn, rydyn ni’n caniatáu i blanhigion lleol dyfu’n naturiol yno. Mae’r dull hwn yn sicrhau y bydd ardaloedd sydd wedi’u maethu â gwaddodion y gamlas yn llawn bywyd cyn bo hir, gan integreiddio’n ddi-dor gyda thirwedd y gamlas. Mae disgwyl i’r rholiau rhisgl cnau coco greu lleoliad i blanhigion newydd ffynnu hefyd, a’u galluogi i doddi i’r amgylchedd naturiol a gwella bioamrywiaeth y gamlas.

Bydd y cam olaf i garthu’r rhan 4.4 milltir hon o Gamlas Maldwyn yn digwydd yn ystod gaeaf 24/25. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i gwblhau’r cynllun ar gyfer y gwaith, a bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu yma ar ôl eu cadarnhau.

Diweddariad: 27 Chwefror

Y mis yma, cafodd tîm prosiect y Gronfa Ffyniant Bro ymweliad cyffrous gan Matt Baker a thîm Countryfile y BBC. Ymunodd â ni ar y safle i fwrw golwg dreiddgar ar ein cyfnod carthu parhaus, ac i dorchi llewys mewn sawl ymdrech gadwraethol bwysig sy'n tanlinellu cenhadaeth ddeuol ein prosiect o gadwraeth ecolegol ac adfer treftadaeth. Cyfrannodd Matt Baker a chriw Countryfile at dri gweithgaredd allweddol yn ystod eu hymweliad:

Gosod argae sy'n gollwng: Gyda'n gilydd, aethom ati i adeiladu argae sy'n gollwng yn un o'r llednentydd fel rhan o gam strategol i arafu llif y dŵr. Mae'r ymdrech hon yn hanfodol ar gyfer lleihau dyddodiad silt yn y gamlas a gwella ansawdd y dŵr yn gyffredinol.

Gosod rholiau rhisgl cnau coco i sefydlogi'r glannau: Mewn ymgais i atal erydiad ac amddiffyn glannau'r gamlas rhag gwaddodion ffo, dangoswyd i dîm Countryfile sut rydyn ni'n gosod rholiau rhisgl cnau coco ecogyfeillgar. Mae'r rholiau hyn, a gaiff eu hymgorffori gan lystyfiant brodorol, yn dyst i'n hymroddiad i greu cynefin ffyniannus i fywyd gwyllt gan ar yr un pryd sicrhau uniondeb y llwybr tynnu.

Achub llyriad-y-dŵr arnofiol: Gyda help llaw criw Countryfile, buom yn casglu sbesimenau o lyriad-y-dŵr arnofiol (Luronium natans) yn ofalus o ymylon y gamlas. Mae'r cam hynod ofalus hwn yn rhan o'n hymdrech ehangach i amddiffyn bioamrywiaeth y gamlas, gan sicrhau bod y planhigion hyn yn cael eu hadleoli'n ddiogel yn ystod y broses garthu a'u dychwelyd i'w cynefin naturiol wedi hynny.

Gwelir penllanw yr ymdrech gydweithredol hon ar raglen Countryfile y BBC nos Sul, 3 Mawrth. Bydd yn denu sylw haeddiannol iawn i'r prosiect, gan fwrw goleuni ar ein hymdrechion i gydbwyso arwyddocâd ecolegol Camlas Maldwyn â'n huchelgeisiau ar gyfer ei hadfer.

Diweddariad: 21 Rhagfyr

Mae'r rhaglen garthu yn gwneud cynnydd mawr, wrth i Gam 2a gael ei gwblhau'n ddiweddar o Bont 99 (Pombren Ffeirad) i Ddyfrbont Newbridge, sy'n cwmpasu tua 1,330 metr. Mae ymdrechion ymroddedig ein contractwr, Ebsford Environmental, wedi arwain at gael gwared ar waddodion, gan fynd i'r afael â rhwystrau yng nghoridor y gamlas a choed heintiedig neu beryglus ar hyd y gamlas. Mae'r tîm wedi gosod blychau ystlumod ar sawl coeden a nodwyd gan ein Hecolegydd ac wedi sicrhau bod ymyl y gamlas yn cael ei chadw ar y ddwy ochr, gan ddarparu coridor bioamrywiol ar gyfer infertebratau, adar, amffibiaid, ymlusgiaid a mamaliaid. Mae'r cynefin ymylol hwn hefyd yn darparu byffer naturiol ardderchog, gan amddiffyn glannau meddal y gamlas rhag erydu ac mae'n gweithredu fel hidlydd naturiol ar gyfer dŵr sy'n mynd i mewn i'r gamlas o dir cyfagos.

Heb garthu, gall maethynnau, llygryddion a halogyddion gronni yn y gwaddod, gan greu anghydbwysedd yn ecosystem y gamlas. Trwy wella ecosystemau dyfrol, mae carthu yn cefnogi iechyd planhigion, anifeiliaid a bodau dynol sy'n dibynnu ar y gamlas. Mae'r deunydd a garthwyd wedi'i storio'n ofalus mewn ardal wedi'i fwndio, gan ei baratoi ar gyfer ailgylchu ac adfer yn ystod misoedd cynnar y flwyddyn newydd. Estynnwn ein gwerthfawrogiad i dîm y prosiect, y rhanddeiliaid a'r gymuned am eu cefnogaeth drwy gydol Cam 2a. Wrth i ni ddathlu'r hyn sydd wedi'i gyflawni, edrychwn ymlaen at lwyddiant parhaus prosiect adfer Camlas Maldwyn a'r effeithiau cadarnhaol y mae'n eu cyflwyno i'n hamgylchedd a'n ecosystem leol trwy gydol 2024 a thu hwnt. Bydd rhan nesaf gwaith carthu'r gaeaf hwn yn dechrau ym mis Ionawr 2024 gyda ffocws mawr ar wella ochrau’r sianel ar gyfer amrywiaeth o fywyd gwyllt. Cadwch lygad am yr wybodaeth ddiweddaraf wrth i ni symud ymlaen tuag at gamau nesaf adfywio coridor y gamlas hanesyddol hon yn gynaliadwy.

Diweddariad: 20 Tachwedd

Gweithio gyda'n bywyd gwyllt

Rydym yn ofalus iawn wrth ymdrin â lles y bywyd gwyllt sy'n defnyddio ein camlesi trwy gynllunio a darparu gweithgareddau carthu.

Cynhelir arolygon trylwyr ar bob rhywogaeth yn ystod y misoedd cynhesach pan fydd ystlumod a mamaliaid eraill yn weithredol, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr ar gyfer rheoli mewn ffordd gyfrifol. Mae misoedd y gaeaf yn well ar gyfer carthu a gwaith ar goed oherwydd bod llai o weithgarwch bywyd gwyllt. Mae pysgod yn symud llai; mae ystlumod yn gaeafgysgu, ac nid yw adar yn nythu. Mae arolygon, yn rhai mewnol ac yn rhai a gynhelir gan arbenigwyr trydydd parti, yn sicrhau dull rhagweithiol o leihau unrhyw straen ac aflonyddwch posibl. Ers cyrraedd ar y safle, mae ein contractwyr wedi defnyddio offer a chyfarpar ac mae bwnd wedi'i godi i gynnwys y deunyddiau a gynhyrchir o'r gwaith carthu. Mae gweithgareddau carthu wedi cychwyn o Bont 99 (Pombren Ffeirad) ac mae cynnydd mewn gwaith ar goed wedi cyrraedd 99% wedi'i gwblhau o Bompren Ffeirad i Ddyfrbont Newbridge. Pan maen nhw ar y safle, mae ein contractwyr a'n timau lleol yn cynnal gwaith monitro dyddiol ar sut mae bywyd gwyllt yn rhyngweithio â'r gweithrediadau carthu a'r gwaith coed. Ers i'r gwaith carthu hwn gychwyn, mae’r elyrch a'r cywion elyrch yn yr ardal i weld yn dawel a digynnwrf. Mae'r elyrch sydd â chywion elyrch yn symud drwy'r ardal garthu ac mae’r contractwyr yn gadael iddyn nhw basio gan roi'r gorau i weithio i ganiatáu hyn. Byddwn yn parhau i fonitro'r elyrch, a bywyd gwyllt arall, wrth i waith fynd rhagddo a byddwn yn rhoi mesurau ychwanegol ar waith os oes angen. Dylai unrhyw un sy'n pryderu gysylltu â'r Glandŵr Cymru yn uniongyrchol neu ffonio 0303 040 4040.

Diweddariad: 16 Hydref

Gwaith carthu a llystyfiant Prosiect Camlas Maldwyn y Gronfa Ffyniant Bro - Cam 2

Ar ôl gweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Powys, rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod Cam 2 gwaith carthu’r Gronfa Ffyniant Bro a gwaith cysylltiedig ar lystyfiant ar Gamlas Maldwyn ar fin dechrau, yn dilyn penodiad ein contractwr, Ebsford Environmental, yn ddiweddar. Fel rhan o'r prosiect ehangach, nod yr elfen sylweddol hon yw adfywio Camlas Maldwyn, gan sicrhau ei hiechyd hirdymor a'i chynaliadwyedd ecolegol. Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n rhanddeiliaid a phartïon sydd â diddordeb ar y gwaith sydd ar y ffordd.

Trosolwg o Gam 2

Bydd Cam 2 prosiect Camlas Maldwyn yn cael ei rannu'n ddwy ran, pob un â'i ffocws a'i nodau unigryw: Cam 2A: Pont 99 (Pont Parsons) i Ddyfrbont Newbridge

  • Hyd: Tua 1,330 metr.
  • Amcangyfrif o gyfaint y carthu: 2,250 metr ciwbig.
  • Cwmpas: carthu gwely'r gamlas a llystyfiant a gwaith coed cysylltiedig
  • Amcan: Dileu gwaddod a llystyfiant yn y brif sianel i broffil carthu y cytunwyd arno (Cyfoeth Naturiol Cymru) er mwyn cyflawni sianel >1.2m o ddyfnder a chadw rhimyn 1m o leiaf ar bob ochr i'r gamlas. Bydd hyn yn gwella ansawdd y dŵr (cynyddu ocsigen wedi’i hydoddi), lleihau solidau crog (gan wneud y dŵr yn gliriach), gan wella'r cynefin ar gyfer pob bywyd gwyllt ac infertebrat. Byddwn hefyd yn mynd i'r afael â choed heintiedig neu beryglus gan agor rhai ardaloedd cysgodol i annog y gamlas i ffynnu.
  • Rheoli Deunydd: Bydd deunydd wedi'i garthu yn cael ei storio mewn ardal wedi'i fyndio er mwyn iddo sychu'n ddigonol i gael ei ailgylchu/adfer mewn safle tirlenwi. Bydd y broses hon yn dechrau yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Dargyfeirio Llwybrau Troed Cyhoeddus: Yn ystod Cam 2A y prosiect, bydd gwyriad llwybr troed cyhoeddus ar waith lle mae'r llwybr troed yn croesi llwybr tynnu'r gamlas ar draws tir y fferm ym Mhont-y-Person. Bydd y dargyfeiriad hwn yn sicrhau diogelwch a hwylustod i gerddwyr tra bo'r gwaith yn mynd rhagddo.

**Cam 2B: Pont 101 i Bont 102 (Croesfan Maerdy) **

  • Hyd: Tua 1,005 metr
  • Amcangyfrif o gyfaint y carthu: Tua 875 metr ciwbig.
  • Dull Arloesol: Yn ogystal â charthu, rydym yn archwilio gosod ymyl meddal ar hyd ymyl y gamlas gan ddefnyddio rholiau rhisgl coconyt a pholion pren. Bydd y mesur ecogyfeillgar hwn yn creu cynefin, yn meddalu ymyl y gamlas, ac yn darparu amgylchedd i fywyd gwyllt ac ecoleg leol ffynnu.
  • Gwaith Coed a Llystyfiant: Yn debyg i Gam 2A, bydd Cam 2B hefyd yn cynnwys gwaith coed a llystyfiant hanfodol i wella cydbwysedd ecolegol y gamlas.

Amserlen

Disgwylir i Gam 2A ddechrau tua diwedd mis Hydref, gyda disgwyl i garthu a gwaith cysylltiedig barhau tan y flwyddyn newydd.

Bydd Cam 2B yn dilyn yn y flwyddyn newydd, gan ddechrau gyda charthu ac o bosib gosod ymyl meddal.

Rydyn ni wedi ymrwymo i roi gwybod i’n rhanddeiliaid a'r gymuned am bob cam o gynnydd y prosiect pwysig hwn. Mae eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad yn amhrisiadwy wrth i ni weithio i adfer Camlas Maldwyn i'w llawn ryfeddod.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn, ac edrychwn ymlaen at weld yr effeithiau cadarnhaol y bydd yr agwedd hon o'r prosiect yn eu cael ar y gamlas a'r ecosystem o'i chwmpas.

Gyda'n gilydd, rydyn ni’n creu dyfodol mwy bywiog a chynaliadwy i'r ddyfrffordd hanesyddol hon. Cadwch lygad am fwy o ddiweddariadau ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol wrth i ni gychwyn ar y daith gyffrous hon o adfer ac adfywio.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau neu ddiweddariadau, mae croeso i chi gysylltu â ni yn [email protected].

Last Edited: 15 April 2024

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration