Lleisiau'r gamlas
Darganfod Lleisiau Camlas Maldwyn: Llwybr Sain Rhyngweithiol
Croeso i'n prosiect llwybr sain rhyngweithiol, taith dwymgalon sy'n cysylltu Camlas Maldwyn ddoe a heddiw trwy leisiau'r gymuned. Mae'r prosiect unigryw hwn yn harneisio atgofion annwyl trigolion lleol, gan eu plethu â chwilfrydedd ieuenctid plant ysgol lleol i greu profiad i bawb ymgolli ynddo.
Mae Camlas Maldwyn yn lle arbennig yng nghalonnau'r rhai sy'n byw gerllaw, ac mae’n gyfoethog o straeon personol ac arwyddocâd hanesyddol. Gan gydnabod pwysigrwydd diogelu’r naratifau hyn, aethom ati’n bwrpasol i hel y straeon hyn cyn iddyn nhw ddiflannu.
Buom yn cydweithio ag ysgolion lleol i addysgu plant ar werth y straeon cymunedol hyn. Dysgodd y disgyblion sgiliau cyfweld hanfodol, gan eu rhoi ar waith trwy ymgysylltu ag aelodau o'r gymuned, cofnodi eu hatgofion byw a'u cysylltiadau personol â'r gamlas.
Mae'r cyfnewid hwn rhwng cenedlaethau nid yn unig wedi helpu i warchod treftadaeth leol ond hefyd wedi meithrin mwy o werthfawrogiad o bwysigrwydd diwylliannol a hanesyddol y gamlas ymhlith y genhedlaeth iau.
Penllanw’r prosiect hwn yw ein llwybr sain difyr, lle mae lleisiau’r plant yn dod â'r straeon a gasglwyd o'r gymuned yn fyw. Gellir mwynhau'r daith sain hon wrth gerdded ar hyd llwybrau tawel Camlas Maldwyn, a theimlo mwy o gyswllt â'r dirwedd a'i straeon. Fel arall, gall gwrandawyr gael mynediad at y llwybr ar-lein, gan ganiatáu i straeon Camlas Maldwyn gael eu clywed ym mhedwar ban byd.
Sut i brofi'r llwybr:
- Ar hyd y Gamlas: Dewch â chlustffonau. Wrth i chi gerdded, chwaraewch y recordiadau er mwyn cael blas ar straeon yr ardal leol.
- O’ch cartref: Ewch i'n tudalen we i ffrydio'r llwybr sain. Ymlaciwch a dychmygwch ddyfroedd tawel y gamlas wrth i chi wrando ar y tapestri cyfoethog o leisiau o'n cymuned.
Mae'r llwybr sain hwn yn fwy na dim ond casgliad o straeon; mae'n ddathliad o ysbryd a hanes ein cymuned. Ein gobaith yw y bydd yn ysbrydoli pobl leol ac ymwelwyr i archwilio Camlas Maldwyn, gan feithrin cysylltiad dyfnach â'r ardal a gwerthfawrogiad o'r straeon sy'n atseinio ar hyd ei glannau.
Llwybr sain: Hanes
Llwybr sain: Twristiaeth Hamdden
Llwybr sain: Natur
Llwybr sain: Bonws
Llandysilio School recording
Last Edited: 24 April 2025
Stay connected
Sign up to our newsletter and discover how we protect canals and help nature thrive