Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Carthu
Dydy’r adran 7km hon o Gamlas Maldwyn ddim wedi ei defnyddio ar gyfer mordwyo ers ei chau yn y 1960au.
Ers hynny, mae natur wedi cymryd drosodd, ond mae wedi gwneud hynny mewn ffordd sy’n golygu bod yr olyniaeth ecolegol yn brasgamu o blaid y rhywogaethau ymylol sy’n dominyddu, gan leihau’r fioamrywiaeth gyffredinol ac effeithio ar oroesiad rhai o rywogaethau prinnaf planhigion dyfrol y blaned.
Mae'r gamlas yn gadarnle i'r llyriad-y-dŵr arnofiol (Luronium natans) a'r dyfrllys cywasg (Potamogetons compressus), dwy rywogaeth brin iawn o blanhigion ac felly o werth cadwraeth uchel. Mae i'r ddau blanhigyn gilfach benodol o fewn y gamlas, a chyda'r adran hon yn ei chyflwr presennol, does dim modd iddyn nhw gystadlu â'r rhywogaethau trechaf.
Y dull mwyaf priodol a sensitif o fynd i'r afael â charthu'r adran hon o Lanymynech i'r Arddlîn yw peidio â dilyn y manyldeb ansawdd sydd ar waith gennym ar rannau eraill o'r rhwydwaith. Er y byddwn yn ceisio sicrhau amlen a dyfnder mordwyo i'r safon ofynnol, byddwn yn mynd ati mewn modd safle-benodol gan reoli llystyfiant a chysgod coed ymylol mewn ffordd a fydd yn hyrwyddo a diogelu amrywiaeth ecosystem y gamlas.
Bydd ein tîm yn ystyried pa lystyfiant a chyrs ymylol ddylai gael eu cadw, yn asesu strwythur y gamlas, yn cadw'r llystyfiant ymylol o boptu'r gamlas yn y darnau lletaf tra'n cadw'r gamlas yn fwy agored yn yr adrannau culach.
Mae llyriad-y-dŵr arnofiol yn tueddu i ddilyn llinell gysgod y gamlas, felly byddwn yn ystyried cadw'r canghennau bargodol lle mae'n ddiogel i ni wneud hynny er mwyn rhoi cynefin delfrydol iddo a hybu ei dwf. Pwrpas carthu yw creu amgylchiadau addas ar gyfer mordwyo, ond byddwn hefyd yn defnyddio'r gwaith hwn i sicrhau ein bod yn creu a chynnal cynefin eang ac amrywiol ar ei hyd, a thrwy hynny ysgogi amrediad o fywyd gwyllt i ddefnyddio'r ddyfrffordd.
Bydd ein carthu'n digwydd dros 3 – 4 cyfnod yn ystod y ddwy flynedd nesaf a bydd yn cynnwys atgyweirio'r ochrau lle mae angen gwneud hynny. Bydd hyn yn osgoi symud cynefinoedd y gamlas i gyd gyda'i gilydd ac yn caniatáu i rywogaethau adennill tir rhwng pob cyfnod, gan leihau'r effaith yn gyffredinol.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â phryd y bwriedir gwneud y gwaith cliciwch yma a dilynwch Grŵp Adfer Glandŵr Cymru ar Facebook am y wybodaeth ddiweddaraf.
Last Edited: 07 August 2024
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration