Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Pontydd
Ar ôl rhoi’r gorau i ddefnyddio’r gamlas yn y 1940au, roedd nifer o enghreifftiau o ffyrdd a oedd wedi cael eu hadeiladu yn union dros ben y gamlas.
Ar hyn o bryd, mae dau leoliad yng Ngharreghofa lle mae hyn yn wir, a fyddai'n rhwystro unrhyw bosibilrwydd o fedru mordwyo yn y dyfodol. Bydd prosiect Adfer Camlas Maldwyn y Gronfa Ffyniant Bro yn ceisio mynd i'r afael â'r rhwystrau presennol hyn trwy greu pontydd newydd.
Ym Mhont Walls (rhif. 93), mae'n debyg y bydd pont newydd dros y gamlas yn caniatáu symud y ffordd sy'n ei chroesi ar hyn o bryd. Adeiladwyd y ffordd yn bennaf fel y gallai gwagenni gwastraff, a oedd wedi cael trafferth i ddefnyddio pont wreiddiol y gamlas, i gyrraedd tai cyfagos. Bydd pont wreiddiol y gamlas yn cael ei chadw, a phont newydd, fwy modern, yn cael ei hadeiladu ar gyfer traffig y ffordd.
Ym Mhont Williams (rhif. 96), gwaredwyd y bont wreiddiol – dim ond y pentanau, y gellir eu gweld o hyd, sydd wedi goroesi. Mae'r lleoliad hwn yn llawer mwy cymhleth gyda'r ffordd bresennol yn croesi'n union dros ben y gamlas a'r dynesfeydd ar y ddwy ochr yn serth. Rydym yn trafod posibiliadau niferus er mwyn dod o hyd i'r ateb cywir a fydd yn ein galluogi i newid trefniant y ffordd bresennol mewn modd a fydd yn caniatáu iddi gario traffig, tra ar yr un pryd yn galluogi cychod i fordwyo o dani.
Un opsiwn fyddai codi uchder y ffordd dros y gamlas yn ddigon uchel fel y gall cychod fordwyo yn y sianel o dani. Opsiwn arall sy'n cael ei ystyried yw pont y gellir ei symud, a fyddai'n agor neu godi, a fydd yn caniatáu i draffig basio dros y bont ar y lefel bresennol. Mae gan bob opsiwn ei fanteision a'i anfanteision ac maen nhw'n cael eu hystyried fel rhan o'r broses gynllunio.
Mae llawer o strwythurau ar hyd adran y gamlas sy'n cael ei hadfer ac maen nhw'n hanfodol i weithrediad llwyddiannus y gamlas, y coredau, y llifddorau, a'r dyfrbontydd. Mae pob un o'r rhain yn cael ei archwilio a bydd gwaith atgyweirio'n cael ei wneud er mwyn sicrhau ei bod yn bosib gweithredu'r gamlas yn ddiogel i'r dyfodol.
Last Edited: 16 October 2023
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration