Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Luronium Futures - Man lle gall rhywogaethau a warchodir ffynnu.
Mae Camlas Maldwyn, sydd wedi’i lleoli yng Nghymru a Lloegr, yn llawn gwaddol hanesyddol sylweddol sy'n dyddio'n ôl i ddechrau'r 19eg ganrif.
A hithau'n wreiddiol yn ddyfrffordd ddiwydiannol brysur, llithrodd yn raddol i esgeulustod ac adfeiliodd dros amser, gan wynebu heriau niferus. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae prosiect o'r enw Luronium Futures wedi dod i'r amlwg gyda'r nod o adfywio a gwarchod amgylchedd naturiol y gamlas hanesyddol hon.
Mae'r rhan o Gamlas Maldwyn sydd yng Nghymru yn arbennig o nodedig, gan ei bod wedi'i dynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) oherwydd ei phoblogaeth helaeth o lyriad-y-dŵr arnofiol Luronium natans. Yn ogystal, fe'i cydnabyddir fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn sgil presenoldeb cymunedau o blanhigion dyfrol, planhigion ifanc ac ymylol eithriadol. Fodd bynnag, heb reolaeth briodol, gelai'r cymunedau hyn o blanhigion gael eu gorlethu gan lystyfiant newydd, gan beri bygythiad i'w goroesiad.
Mae'r gamlas yn croesi trwy dirweddau godidog, gan arddangos amrywiaeth amrywiol o fflora a ffawna. Gan gydnabod arwyddocâd ecolegol y gamlas a'i chyffiniau, mae prosiect Luronium Futures wedi gweithredu mesurau i warchod a gwella treftadaeth naturiol yr ardal. Mae hyn yn cynnwys gwarchod cynefinoedd bywyd gwyllt, mabwysiadu arferion cynaliadwy, a hyrwyddo bioamrywiaeth, a thrwy hynny sicrhau bod y gamlas a'i hamgylchedd naturiol yn cydfodoli'n gytûn.
Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar wella amodau sianel y gamlas er budd y planhigion prin a gwella statws cadwraeth yr ACA. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau amrywiol, megis cynnal arolygon cyflwr sylfaenol i lywio ymdrechion adfer a galluogi mesur effaith. Yn ogystal, mae gwaith clirio'r llystyfiant a thocio'r coed sy'n bargodi yn cael ei wneud mewn rhai rhannau allweddol. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys gwaith ar dair gwarchodfa natur gysylltiedig, carthu mewn mannau penodol i gynnal sianel agored, a thrawsleoli llyriad-y-dŵr arnofiol i ailboblogi rhannau wedi'u clirio. Ar ben hynny, gwneir ymdrechion i alluogi hyd a dyfnder ail-ddyfrio pellaf yng nghangen Cegidfa.
Diolch i gefnogaeth hael y Gronfa Treftadaeth a Llywodraeth Cymru, drwy'r Gronfa Rhwydweithiau Natur, mae prosiect Luronium Futures yn cynnig cyfle trawsnewidiol i Gamlas Maldwyn, gan roi bywyd newydd i'r ddyfrffordd hanesyddol ac arwyddocaol hon. Drwy gyfuno mentrau adfer, cadwraeth amgylcheddol, ymgysylltu â'r gymuned, ac arferion cynaliadwy, mae'r prosiect yn ceisio creu camlas sy'n gynefin addas i lawer o rywogaethau bywyd gwyllt poblogaidd a phrin Prydain.
Last Edited: 02 June 2023
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration