Skip to main content

The charity making life better by water

Gwarchodfeydd Natur

Mae’r Strategaeth Rheoli Cadwraeth yn ganolog i bopeth mae’r tîm sy’n gweithredu’r prosiect yn ei wneud.

Mae’r Strategaeth yn datgan fod angen mesurau cadwraeth natur cadarnhaol i wneud iawn am unrhyw newidiadau andwyol a allai ddigwydd wrth adfer camlas Maldwyn a’i rhoi ar waith.

Wide shot of a pond a green plants around it

Mae adran Cymru o'r gamlas yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ar gyfer llyriad-y-dŵr arnofiol (Luronium natans) ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ar gyfer yr ymylon sy'n ymddangos, y casgliad o anifeiliaid di-asgwrn-cefn, a'r rhywogaethau o bwys cenedlaethol fel y dyfrllys cywasg (Potamogeton compressus). Mae angen i ni sicrhau cydbwysedd – adfer y sianel i safonau mordwyo gan wella'r cynefin ar gyfer rhywogaethau planhigion dyfrol prin a'r cyfosodiad o gynefinoedd yn gyffredinol.

Luronium natans in the Montgomery Canal

Mae prosiect y Gronfa Ffyniant Bro yn cyfuno gwaith i adfer y sianel i gyflwr lle y gall y rhywogaethau prin hyn ffynnu ynddo, fodd bynnag, mae potensial i greu ardaloedd newydd o gynefinoedd gwlyptir. Yn sgil dynodiad Ardal Gadwraeth Arbennig y gamlas, mae'r broses Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn berthnasol i'n cynlluniau. Rydyn ni'n cynnal gwaith ymchwil manwl i amlinellu'r sut beth yw ‘da' ar gyfer cynefin y gamlas, beth sydd ei angen ar y rhywogaethau pwysig, a sut rydym yn teilwra'n cynlluniau i gyd-fynd â hyn.

Byddwn yn penderfynu a yw'n bosibl lliniaru'n llawn unrhyw effeithiau posibl sy'n gysylltiedig â'r cynllun ar yr Ardal Gadwraeth Arbennig, neu a oes angen creu cynefin ychwanegol ar lan y gamlas i gynyddu gwytnwch y rhywogaethau fel bod modd cyflawni 'da'. Gan y gallai fod angen cynefin ychwanegol, rydyn ni'n gweithredu'n synhwyrol drwy feddwl nawr am ddichonoldeb creu'r gwarchodfeydd hyn oddi ar y safle pe bai angen.

O'u creu, byddai gan y cynefinoedd hyn gysylltiad hydrolegol â'r gamlas, gan gael eu hadeiladu i ddyfnder tebyg o tua 1.5 metr, ond byddent yn cael eu graddio i greu dyfnderoedd dŵr amrywiol a fyddai'n helpu i ddarparu amrywiaeth o gilfachau ecolegol. Byddai ardal o ddŵr dyfnach yn y canol yn atal yr ymylon newydd rhag ehangu a dominyddu.

Picture of a large pond during sunset

Os yw canlyniadau'r ymchwil dan arweiniad y broses Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn dangos nad yw mesurau lliniaru'n ddigon i gynnal yr ecoleg, byddai'r gwarchodfeydd hyn yn gweithredu fel cynefin gwerthfawr i amrywiaeth o rywogaethau gan gynnwys y planhigion dŵr gwarchodedig y gellir eu symud o'r gamlas ac i'r gwarchodfeydd.

Y weledigaeth yw camlas sy'n gweithredu er budd ecoleg, budd cymdeithasol ac economaidd. Rydyn ni'n gweithio i greu cynlluniau i geisio sicrhau'r cydbwysedd hwn, gan ddefnyddio mesurau lliniaru lle bynnag y bo modd i atal neu leihau effaith negyddol.

Last Edited: 01 March 2024

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration