Camlas Maldwyn
Mae bywyd gwyllt yn ffynnu ar hyd Camlas Maldwyn. Hon yw un o’r camlesi pwysicaf yn y wlad o ran byd natur, ac mae rhan helaeth ohoni’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, gyda rhan Cymru o bwysigrwydd rhyngwladol ac wedi’i dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig am ei phlanhigion dyfrol.
Y gamlas yw'r lleoliad gorau yn y byd ar gyfer llyriad nofiadwy. Gellir gweld dyfrgwn a llygod y dŵr yno hefyd. Mae sawl gwarchodfa natur yn ffinio â'r gamlas, sy'n llawn blodau gwyllt a phryfaid, yn cynnwys gweision y neidr a mursennod.
Mae cerdded neu feicio ar hyd y llwybr tynnu'n ffordd wych o fwynhau tawelwch a llonyddwch y gamlas wledig hon. Mae llwybr tynnu'r gamlas rhwng y Drenewydd a'r Trallwng wedi cael wyneb newydd yn ddiweddar ac mae'r gwaith yn parhau i'r ffin yn Llanymynech.
Mae'r gamlas hefyd yn boblogaidd ymhlith canŵ-wyr – mae padlo'n hamddenol trwy gefn gwlad yn ffordd wych o weld bywyd gwyllt.
Mae'r gamlas yn gartref i 126 o strwythurau rhestredig yn cynnwys gwaith calch Llanymynech sy'n cynnwys yr Odyn Hoffman a'r simnai brin a adferwyd, y ddau'n nodweddion o orffennol diwydiannol yr oes a fu a oedd yn cynnwys chwareli, odynnau calch a diwydiannau gwlân.
Er i'r gamlas fod ar gau i gychod am flynyddoedd lawer, mae wrthi'n cael ei hailagor fel llwybr mordwyo drwy'r Gororau gogoneddus. Mae un rhan o'r gamlas yn cysylltu â Chamlas Llangollen, gyda llithrfa yn y Trallwng yn rhoi mynediad i'r rhan arall. Mae gwaith yn parhau i uno'r ddwy ran, diolch i ymdrech gwirfoddolwyr a gwaith y bartneriaeth adfer.
Dod o hyd i ataliadau, cyfyngiadau a chyngor arall ar fordwyo ar gyfer y ddyfrffordd hon. (Saesneg yn unig)
Llwybr Camlas Maldwyn
Mae Camlas Maldwyn yn dod â bywyd gwyllt i ganol tref y Trallwng ac rydym wedi llunio llwybr camlas gwych fel y gallwch chi a'ch teulu fwynhau'r ddyfrffordd gyffrous hon.
Yr hanes
Adeiladwyd y gamlas o Gyffordd Frankton ar Gamlas Llangollen, drwy'r Trallwng i'r Drenewydd er mwyn cludo calchfaen a chwarelwyd yn Llanymynech i odynau ar hyd y gamlas yn bennaf. Yno roedd yn cael ei boethi gyda glo o'r Waun neu ardal Croesoswallt i greu calch brwd i'w wasgaru ar gaeau i wella'r cnydau – gan gynyddu incwm rhent i'r tirfeddianwyr.
Adeiladwyd y rhan o'r gyffordd i Garreghofa, ychydig i'r de o Lanymynech, gan Gamlas Ellesmere yng nghanol yr 1790au. Camlas annibynnol Maldwyn a agorodd o Garreghofa i Garthmyl ym 1797 oedd y gweddill, ond nid oedd arian ar ôl erbyn hynny. Ariannwyd y chwe milltir olaf i'r Drenewydd ar wahân o dan Ddeddf 1815, ac fe agorwyd y rhan honno ym 1819.
Cludo llwythi
Calchfaen a'i lo cysylltiedig oedd dau draean o'r llwythi; roedd llwythi sylweddol eraill yn cynnwys coed, cerrig adeiladu a llechi. Wrth i'r diwydiant amaeth ddirywio yn ail hanner y 19eg ganrif, ac i ffermwyr ddefnyddio mwy o wrteithiau amgen, roedd llai o deithio ar y gamlas, a dim ond prin talu costau cynnal a chadw y gellid ei wneud erbyn 1870. Roedd y gamlas yn rhan o'r Shropshire Union erbyn hynny a goroesodd â chryn drafferth nes 1936, pan dorrodd y gamlas ei glannau ger dyfrbont Afon Perry gan roi cyfle i drafod cau'r gamlas. Talwyd yr un defnyddiwr rheolaidd i beidio â gwrthwynebu a chafodd y gamlas ei chau'n ffurfiol yn Neddf 1944.
Sychodd y rhan i'r gogledd o Lanymynech ond roedd y rhan fwyaf o'r gweddill yn rhan annatod o'r draeniad tir lleol felly ni chymerwyd camau i'w llenwi na gwerthu'r tir. Arweiniodd cynllun ar ddiwedd y 1960au i ddefnyddio llinell y gamlas yn y Trallwng ar gyfer ffordd osgoi at brotestiadau wedi'u trefnu'n dda a chynigion i adfer y gamlas. Argymhellodd yr arolygydd yn yr ymchwiliad cyhoeddus y dylid cadw'r gamlas fel ‘amwynder lleol pwysig'. Dros y deng mlynedd ar hugain nesaf adferwyd y rhan un ar ddeg milltir drwy'r Trallwng gyda chefnogaeth weithredol Pwyllgor Tywysog Cymru. Yn y pen gorllewinol, cafodd Lociau Frankton eu hailagor ym 1987, y rhan i Queens Head ym 1996 ac i Gronwen yn 2003.
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration