Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Llwybr Camlas Maldwyn

Daw’r gamlas â bywyd gwyllt yn syth i ganol y Trallwng

Boats moored along grassy towpath of canal

View this page in English

Mae'r daith hon yn dilyn darn 1.2 milltir (2km) o Gamlas Maldwyn. Mae'n cynnwys 10 arosfa, pob un wedi'i marcio â chod QR.

Montgomery Canal QR Code sign 2

Rydych angen darllenydd QR am ddim (neu ffôn NFC) i ddarllen cynnwys y cod. Chwiliwch am ‘QR reader' yn storfa/marchnad App eich ffôn deallus, neu ewch i www.i-nigma.com.

Yna wrth bob arosfa, sganiwch y cod QR i dderbyn ffeithiau difyr am y gamlas a'i bywyd gwyllt.

Hwyl i'r plant

Os ydych chi'n cerdded gyda phlant, lawrlwythwch daflenni gweithgareddau am ddim iddynt.

[link to PDF activity sheets, plus image of what they look like].

Maen nhw'n llawn ffeithiau difyr am bopeth o rywogaethau goresgynnol i amffibiaid anhygoel, adar annifyr a physgod ffyrnig.

Map

Illustrated image of Montgomery Canal trail map

Diogelwch dŵr

Er bod hwyl i gael ar lan y gamlas, gall fod yn beryglus hefyd. Gair i gall:

  • Cadwch draw o ymyl y gamlas - mae'r dŵr yn ddwfn
  • Peidiwch byth â nofio yn y gamlas – mae pyllau nofio'n brafiach!
  • Peidiwch â mentro ar iâ, rhag ofn i chi ddisgyn drwyddo

Mynediad i bawb

Mae'r rhan fwyaf o'r gamlas yn hwylus a hygyrch i bramiau a chadeiriau olwyn, ond er mwyn osgoi'r 12 gris i lawr o arosfa 1, efallai y byddai'n well i chi ddechrau'ch taith yn arosfa 2. Gallwch gyrraedd arosfa 2 o'r parc/man picnic ger y bont ffordd dros y gamlas yn Stryd Hafren.

Ar ôl arosfa 3, mae yna lwybr cul serth ar i lawr o'r bont droed – gyda graddiant o 1:5 am 6.5m. Gallwch osgoi hwn trwy fynd ar lôn gul ger y cae rygbi, am lai na 100m, a dychwelyd i'r llwybr tynnu drwy'r giât mochyn (arosfa 4).

Cofiwch

  • Cadwch draw o ymyl y gamlas - mae'r dŵr yn ddwfn
  • Peidiwch byth â nofio yn y gamlas – mae pyllau nofio'n brafiach!
  • Peidiwch â mentro ar gamlas rewllyd, rhag ofn i chi ddisgyn drwyddo

Last Edited: 12 September 2023

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration