Brwyn, cyrs a hesg yw'r planhigion pennaf ymysg y casgliad cyfoethog o eginblanhigion sy'n ffynnu yn y dŵr bas ochr yn ochr â rhywogaethau nodweddiadol fel yr ellesgen felen, llysiau'r-milwr coch a mintys y dŵr. Lloches hanfodol yw ymylon y dŵr fan hyn i adar, amffibiaid, ymlusgiaid, mamaliaid bach, infertebratau'r dŵr a physgod. Maent yn darparu:
- lloches ac amddiffyniad rhag ysglyfaethwyr
- hafan ddiogel i adeiladu nythod, bridio a magu rhai bach
- ffynhonnell fwyd gyfoethog.
Yn eu tro, mae'r ardaloedd hyn yn darparu heldiroedd rhagorol i'r ysglyfaethwyr mwyaf megis dwrgwn y mae'r gamlas yma'n gynefin iddynt. Mae eu pwysigrwydd i fywyd gwyllt yn cyfrannu'n sylweddol at gyfoeth bioamrywiaeth Camlas Trefaldwyn, gyda 12 rhywogaeth o weision neidr a mursennod sy'n bridio yma gan gynnwys rhywogaethau prin megis y gwas neidr tindrwm, y fursen lygatgoch fawr a'r fursen goeswen.
Clustogfa
Ar hyd y rhannau y gellir llywio cwch hyd-ddynt, mae'r ymylon llinellol hyn yn cyflawni swyddogaeth arall sef diogelu'r glannau pridd meddal rhag tonnau a grëir gan y cychod. Mae hyn yn helpu i ddal gwaddodion a gwasgaru ynni a fydd yn ei dro'n lleihau erydiad y glannau. Maen nhw hefyd yn chwarae rôl bwysig wrth:
- amddiffyn a gwella ansawdd dŵr yr amgylchedd dyfrol
- arparu clustogfa ffiltro naturiol rhag gwaddodiad ac erydiad a gwasgaru dŵr ffo oddi ar lethrau'r bryniau oddi amgylch.
Mae hyn yn annatod i weithrediad ecosystem y dŵr a goroesiad y planhigion dŵr mwyaf sensitif, yn arbennig llyriad-y-dŵr arnofiol sy'n cael ei warchod o dan reoliadau Ewrop.
Prosiect Ucheldiroedd Hafren
Nodau prosiect Ucheldiroedd Hafren oedd gwella cynefinoedd ac ansawdd dŵr yr amgylchedd arbennig hwn drwy nifer o fentrau ac amddiffyn poblogaethau macroffytau, gan gynnwys llyriad-y- dŵr arnofiol a'r dyfrllys cywasg prin, wrth sicrhau buddion ehangach i ecoleg a bywyd gwyllt y gamlas. Roedd y rhain yn canolbwyntio ar wella cynefinoedd glannau afonydd a lleihau effeithiau gwaddodion a llygryddion o'r tir oddi amgylch.
Fodd bynnag, yn nodwedd a wnaed gan bobl, mae camlas hefyd yn ecosystem sy'n newid yn barhaus. Heb lif cyflym na fawr o gychod yn teithio arni, yn aml ceir silt yn crynhoi ar y gwaelod. Heb ymyrraeth neu'i rheoli, golygai hyn y byddai'r ymylon yn ymestyn yn raddol gan droi'n gynefin tirol yn y pen draw, ac y byddai rhywogaethau nodweddiadol y dŵr yn cael eu colli. Yr allwedd i gynnal yr amgylchedd dynamig hwn yw cynnal y cydbwysedd sylfaenol rhwng yr ymylon a chynefin y dŵr agored.