Mae'n bwysig atal difrod i adeiladweithiau'r gamlas er mwyn cadw lefelau'r dŵr yn y gamlas mor sefydlog ag sy'n bosibl. Felly, ar adegau glaw trwm ac amserau eraill pan fydd mwy o ddŵr yn dod i mewn i'r gamlas nag arfer, ceir sawl cored a llifddor y gellir eu defnyddio i adael y dŵr allan.
Weithiau bydd y dŵr yma'n mynd yn syth i ffos neu nant, ond pe bai perygl y byddai hyn yn achosi llifogydd yna byddai'r dŵr yn mynd i gronbwll fel hwn yn gyntaf. Bydd dŵr yn goferu dros gored neu drwy lifddor o dan y llwybr tynnu drwy bibell ac i mewn i'r pwll lle bydd yn cael ei ddal yn ôl am gyfnod byr gan leihau'r pwysau ar y system ddraenio leol.
Pwll bywyd gwyllt
Yn ogystal â bod yn ddefnyddiol iawn i reoli dŵr, mae'r pwll hefyd yn dda iawn ar gyfer bywyd gwyllt. Yn y pyllau hyn y mae rhai o'r planhigion sy'n rhoi statws pwysig i'r gamlas, megis dyfrllys crych a blaenllym.
Mae ymlusgiaid yn defnyddio'r pyllau ar gyfer bridio ac yn y gwanwyn mae llwythi o rifft brogaod a llyffantod dafadennog i'w gweld, gyda phenbyliaid di-rif yn cymryd eu lle'n nes ymlaen yn y flwyddyn. Os ydych yn craffu'n ofalus iawn efallai y byddwch hefyd yn gweld madfallod dŵr sydd hefyd yn bridio yn y pyllau.
Bydd larfau gweision neidr yn byw ymysg y cyrs. Bydd yr ysglyfaethwyr arswydus hyn yn bwydo ar unrhyw beth bron gan gynnwys penbyliaid a physgod bach hyd yn oed! Unwaith maen nhw wedi treulio 2-3 blynedd o dan y dŵr maen nhw'n mynd ar daith hir a pheryglus i fyny coesyn corsen, lle byddant yn troi'n was y neidr llawndwf. Bydd hwn yn treulio gweddill ei fywyd (ychydig wythnosau'n unig) yn bwydo wrth hedfan a bridio.