Dŵr o afon Hafren sy'n cyflenwi'r gamlas ger y Drenewydd, tra mai dŵr o afon Tanat sy'n ei chyflenwi ym mhen gogleddol y rhan o'r gamlas sydd yng Nghymru ger Carreghwfa. Mae'r gamlas hefyd yn cael ei chyflenwi gan wahanol ffosydd, nentydd a draeniau bach ar ei hyd tra bydd dyfrffosydd eraill yn mynd drwy gwlfertau o dan y gamlas.
Llygredd
Mae llawer o'r dyfrffosydd bach hyn yn draenio dŵr ffo oddi ar ffyrdd a thir amaeth gerllaw, gan gynyddu'r perygl o lygryddion yn mynd i'r gamlas. Mae'r effeithiau'n gallu bod yn hynod niweidiol i'r ecosystem ddyfrol. Yn ystod glaw trwm a di-baid, mae maint y dŵr sy'n llifo i lawr drwy'r dyfrffosydd hyn yn cynyddu, gyda mwy o ddŵr ffo'n cael ei wasgaru o dir amaeth i lawr y llethrau serth. Yn cynnwys lefelau uchel o faethynnau, gwaddodion a llygryddion eraill, gall hyn fod yn wenwyn pur i fywyd gwyllt a lleihau maint yr ocsigen sydd ar gael i blanhigion ac organebau sydd ei angen er mwyn iddynt oroesi. Gall ychwanegu llygryddion hefyd newid amodau amgylcheddol sy'n hybu twf planhigion sy'n fwy ymosodol, er anfantais i rywogaethau sy'n llai cystadleuol.
Byw'n ara' deg
Natur ara' deg llif lefelau dŵr a reolir yw beth sy'n creu'r cynefin unigryw hwn sy'n adnodd mor hanfodol i fywyd gwyllt. Fodd bynnag, mae cynnal yr amodau cywir yn hollbwysig i gynaliadwyedd yr ecosystem sensitif hon. Mae'r rhywogaethau sy'n ffynnu yma'n dibynnu'n arbennig ar sicrhau bod digon o ddŵr ar gael drwy gydol y flwyddyn i atal planhigion ymylol cystadleuol rhag mynd yn rhemp, wrth i waddod gronni'n raddol a lefelau'r dŵr ostwng.
Rhybudd rhag goresgynwyr!
Mae angen peth ymyrraeth er mwyn rheoli lefelau a llif y dŵr a chadw'r diddordeb ecolegol. Yn ystod yr haf, mae twf cyflym y chwyn mwyaf cystadleuol a goresgynnol yn gallu cymryd drosodd llawer o'r golofn ddŵr, gan atal goleuni sy'n hanfodol er mwyn i'r rhywogaethau planhigion mwyaf sensitif ffynnu. Gall hyn rhwystro ymhellach lif a maint y dŵr sydd eu hangen i gynnal y gamlas islaw. Rheolir chwyn y dŵr yn gyson i helpu i gynnal y cydbwysedd rhwng dŵr agored a'r ymylon a hybu'r amodau a ffefrir i'r rhywogaethau mwyaf arbenigol, wrth sicrhau anghenion gweithredol yr adnodd dŵr. Gellir hefyd carthu'r gamlas er mwyn targedu silt sydd wedi'i gronni yn y sianel.
Mae lefelau'r dŵr a chyfraddau'r llif yn y gamlas hefyd yn gallu cael eu rheoli gan adeiladweithiau fel coredau a llifddorau gorlifo, sy'n darparu sianel i ddwyn llif unrhyw ddŵr dros ben i ffwrdd o'r gamlas i'r dyfrffosydd o'i chwmpas.