Cuddfan yn y gwrychoedd
Gwrychoedd sy'n darparu'r prif gynefin terfyn ar hyd y gamlas. Plannwyd llawer o'r rhain gan y cwmnïau a gloddiodd y gamlas yn wreiddiol. Heddiw, y cynefin sefydledig hynaf ydyn nhw o hyd ac maent yn nodweddiadol o goridor y gamlas. Wedi'u plannu'n wreiddiol â rhywogaethau brodorol fel y ddraenen wen i ddarparu rhwystr rhag da byw, ond ers hynny wedi'u cytrefu gan amrywiaeth o lwyni a phlanhigion eraill, mae'r nodweddion terfyn hanesyddol hyn wedi dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer bioamrywiaeth, yn enwedig drwy gyfnod o ddwysáu dulliau ffermio a datblygu cynyddol sydd wedi gweld hen wrychoedd yn diflannu o weddill cefn gwlad.
Mae'r blodau llawn neithdar yn y gwanwyn yn cynnig ffynhonnell fwyd i infertebratau, gydag aeron yr hydref yn cynnal adar drwy'r misoedd ar ddiwedd y flwyddyn. Mae adar y coed a'r amaethdir fel yr aderyn du, robin goch, dryw, llwydfron, titw tomos las a'r bras melyn yn nythu yn y deiliach ac i'w gweld ac i'w clywed yn aml yn ystod y gwanwyn a'r haf.
Nodweddion pwysig ynddyn nhw eu hunain yw cloddiau'r gwrychoedd, sy'n cynnig cynefin i rywogaethau adar sy'n nythu ar y ddaear fel y betrisen, yn ogystal â bwyd a lloches hanfodol i famaliaid bach fel draenogod, y llygoden bengron goch a'r llŷg. Hefyd, bydd amffibiaid ac ymlusgiaid yn chwilio am safleoedd llaith diogel i aeafgysgu yng nghanol y gwreiddiau, wrth i rwydwaith y gwrychoedd gynnig llwybrau cymudo hollbwysig i ystlumod rhwng safleoedd clwydo a bwydo.
Cysylltedd y gamlas
Nodwedd linellol unigryw yn y dirwedd yw coridor y gamlas, wedi'i leinio â mosäig o gynefinoedd daearol sy'n cynnwys cyfoeth o blanhigion glan yr afon, lleiniau'r llwybr tynnu, gwrychoedd a choed. Yn ogystal â bod yn nodweddion cynefin pwysig ynddyn nhw eu hunain, gyda'i gilydd mae'r cynefinoedd hyn yn creu adnodd sylfaenol i oroesiad bywyd gwyllt mewn tirwedd sy'n gynyddol dameidiog.
Ar y cyd, mae'r gwrychoedd, lleiniau a chynefinoedd y glannau ar hyd ein camlesi'n ffurfio ‘coridor gwyrdd' di-dor sy'n cysylltu bywyd gwyllt â chynefinoedd. Mae hyn yn cynnig ffordd o gael bwyd a lloches i lawer o rywogaethau, wrth ddarparu rhwydwaith diogel sy'n cysylltu cynefinoedd i adael i fywyd gwyllt symud yn rhwydd rhwng cynefinoedd a thirweddau eraill fel coetir, gwlyptir, adeiladweithiau ac amgylcheddau trefol i ddiwallu eu hanghenion goroesi.
Un o'r nodweddion cysylltu pwysicaf ar lan y gamlas yw'r gwrychoedd sy'n cynnig mynediad i fwy o ardaloedd chwilota, magwrfeydd a safleoedd nythu a chlwydo i lawer o adar, ystlumod, amffibiaid, ymlusgiaid, mamaliaid bach a phryfed. Mae rheoli priodol felly yn hanfodol i gynnal gwerth ynodweddion hyn i fioamrywiaeth. Gellir cyflawni hyn drwy hybu technegau traddodiadol fel bondocio a phlygu perthi i wella iechyd ein gwrychoedd, yn ogystal â phlannu yn y bylchau ac ailblannu gwrychoedd coll i gadw'r cysylltiadau pwysig hyn yn y dirwedd.