Skip to main content

The charity making life better by water

Rheoli coed a llystyfiant

Mae coed yn adnodd naturiol hynod werthfawr, sy'n cynnal llawer o rywogaethau. Fodd bynnag, heb reoli coed, bydd eu canghennau yn lledaenu tuag allan ar draws sianel y gamlas, gan gysgodi'r dŵr islaw.

Managing our trees and hedges

Gall ychydig o hyn fod yn beth da, gan helpu i greu tymheredd sefydlog yn y gamlas ac atal y cynefin ymylol (sydd wrth ei fodd â'r haul) rhag datblygu gormod. Mae gwaith arsylwi wedi dangos bod rhai o'r rhywogaethau dyfrol yn gallu goddef ychydig o gysgod, felly mae'n gallu bod yn ffordd naturiol dda o leihau cystadleuaeth gan y cynefin ymylol. Fodd bynnag, os oes gormod o gysgod, mae'r golau sydd ei angen ar y planhigion yn y sianel i oroesi yn cael ei atal yn gyfan gwbl.

Yn ogystal â dylanwadu ar lefelau golau, mae coed yn dylanwadu ar lefelau'r maethynnau yn y dŵr pan fyddant yn colli eu dail. Mae'r cylch parhaus hwn o fewnbwn organig yn cyfoethogi lefelau maethynnau'r dŵr ac yn creu haen o ddeilbridd dros amser. Mae amgylchedd mwy cyfoethog mewn maethynnau yn yr is-haen hon yn fwy tueddol o weld datblygiad gormodol rhywogaethau mwy ymledol, fel rhai yn y cynefin ymylol. Dros amser, mae hyn yn cyfrannu at broses siltio ac at sefyllfa lle mae rhywogaethau ymylol yn drech yn y sianel gyfan.

Mae diogelwch yn peri pryder hefyd wrth ymdrin â choed wrth ymyl y dyfrffyrdd. Pan fydd coed yn cyrraedd diwedd eu cylch bywyd, yn cael eu heffeithio gan y tywydd, neu'n cael eu heffeithio gan glefydau (e.e. clefyd (Chalara) coed ynn), mae'n bosibl y bydd canghennau'n disgyn ac yn achosi niwed. Am y rheswm hwn, mae rhai coed yn cael eu dewis i'w cwympo yn gyfan gwbl os credir eu bod yn peri risg.

Fel sy'n wir am bopeth, bydd angen sicrhau cydbwysedd rhwng caniatáu rhywfaint o gysgod i helpu i reoli'r ymyl sy'n datblygu, ond nid i'r graddau bod y cysgod yn atal planhigion rhag tyfu islaw. Trwy gael gwared ar y canghennau trymach sy'n estyn allan ar draws y dŵr, bydd mwy o olau yn cyrraedd y sianel, heb orfod cael gwared â'r coed gwerthfawr. Bydd gwrychoedd yn cael eu rheoli i ryw raddau hefyd; trwy blygu gwrychoedd, rydym yn hyrwyddo gwrychoedd iach nad ydynt yn mynd yn denau neu'n noeth sydd â llai o werth i fioamrywiaeth.

Last Edited: 30 June 2023

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration