Skip to main content

The charity making life better by water

Rheoli yn y Dyfodol

Fel y dangosir yn ein diagram 'Olyniaeth Gwlyptir', mae angen rheoli gwlyptiroedd er mwyn atal olyniaeth ecolegol.

Ecological succession within a wetland habitat

Mae Camlas Maldwyn a'r gwarchodfeydd wedi'u creu gan bobl. Mewn cynefin naturiol, mae'n bosibl y gallai digwyddiadau naturiol fel llifogydd sgwrio cynefin a'i adfer i'w gyfnodau cynnar. Mewn cynefin sydd wedi'i wneud gan bobl, mae'n rhaid i ni weithredu fel y digwyddiad naturiol, gan ymyrryd trwy ddull rheoli a ragnodir. Wrth i ni archwilio opsiynau ar gyfer gwarchodfeydd newydd, rydym yn ceisio datblygu cynlluniau rheoli ar gyfer y safleoedd fel rhan o'u proses gynllunio. Byddai hyn yn cynnwys camau gweithredu fel rhaglen fonitro bwrpasol i lywio'r unwaith waith rheoli gofynnol, waeth a yw hynny'n waith coed, carthu mannau penodol, neu reoli rhywogaethau goresgynnol.

Astudiaeth Achos: Adfer Camlas Gul Huddersfield a Chamlas Rochdale yn 2001

Mae'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd wedi ymwneud â gwaith adfer safleoedd camlesi ACA a SoDdGA eraill ers dros 20 mlynedd.

  • Mae'r safleoedd hyn yn cynnwys yr un rhywogaethau dyfrol megis llyriad dŵr arnofiol a mathau gwahanol o ddyfrllys
  • Gwaith trawsleoli helaeth wedi'i wneud
  • Deunydd planhigion wedi'i gasglu o'r ardaloedd sydd wedi cael eu hadfer, a'u trawsleoli i rannau o'r gamlas sydd heb eu cyffwrdd ond wedi'u hadfer, cronfeydd mewnol, cronfeydd allanol a chronfeydd dŵr
  • Deunydd planhigion yn gyffredin iawn yn lleol yn y cronfeydd dŵr
  • Deunydd planhigion yn ehangu'n araf tuag allan o gronfeydd mewnol y gamlas
Floating Water Plantain in Brunclough reservoir and Rochdale Canal

Ecoleg Ehangach

Nid ydym yn canolbwyntio ar y rhywogaethau dyfrol yn unig yn ardal camlas Maldwyn – ar gyfer yr holl waith sy'n cael ei wneud, byddwn yn chwilio am gyfleoedd i ymestyn coridorau bywyd gwyllt trwy waith addas. Er enghraifft, adfer gwrychoedd, creu noddfeydd bywyd gwyllt a phlannu'r coed cywir yn y mannau cywir.

Last Edited: 30 June 2023

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration