Skip to main content

The charity making life better by water

Defnyddio'r Gamlas yn y Dyfodol

Heb yr ymyriadau mawr hyn, byddai ansawdd ecoleg y gamlas yn parhau i ddirywio, a chael ei golli yn y pen draw o bosibl.

Y nod terfynol ar gyfer Adfer Camlas Maldwyn yw adfer defnydd o'r gamlas gan gychod. Nid yw adran LUF y gwaith yn darparu camlas y gellir teithio ar hyd y cyfan ohoni mewn cwch, ond yn hytrach mae'n gweithredu fel catalydd i gysylltu'r darnau yn Lloegr y gellir eu teithio mewn cwch รข'r rhan y gellir mynd ar gwch arni yn y Trallwng. Ni ragwelir y bydd teithio mewn cychod yn ailddechrau ar y Gamlas yn y dyfodol agos. Yn y cyfamser, bydd y sianel sydd wedi'i charthu, a'r deunydd wedi'i luosogi sydd newydd ei gyflwyno, yn cael cyfle i ymsefydlu trwy broses fonitro reolaidd. Bydd hyn yn digwydd hefyd mewn unrhyw warchodfeydd newydd sy'n cael eu creu. Unwaith y byddwn yn hyderus bod y poblogaethau hyn mewn cyflwr da, bydd niferoedd bach o gychod yn cael eu cyflwyno'n raddol iawn.

The future management of the canal will be guided by it's ecology

Bydd gwaith monitro yn parhau er mwyn i ni asesu effeithiau ailgyflwyno cychod. Os yw gwaith monitro rhywogaethau yn dangos i ni ein bod wedi sicrhau cydbwysedd rhwng cychod ar lefel gynaliadwy yn ecolegol ac yn economaidd-gymdeithasol, cyflwynir terfyn ar nifer y cychod. Mae hyn yn ein galluogi i wireddu potensial cymdeithasol, economaidd ac ecolegol y gamlas, gan fabwysiadu dull gweithredu pwyllog wedi'i lywio gan yr ecoleg sensitif.

Last Edited: 30 June 2023

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration