Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Gwaith Carthu Ecolegol Sensitif
Ar gyfer Camlas Maldwyn, rydym wedi mynd gam ymhellach i lunio rhaglen garthu safle-benodol a fydd yn ein helpu i sicrhau'r cydbwysedd sydd ei angen rhwng dŵr agored a'r cynefin ymylol.
Mae dyfnder o 1.35 metr yng nghanol y sianel, lle bo hynny'n bosibl, yn helpu i greu'r dŵr dyfnach sy'n gartref i'r rhywogaethau dyfrol arnofiol tanddwr. Hefyd, mae'r dŵr dwfn yn arafu gallu'r cynefin ymylol i ail-gytrefu'r sianel ganolog.
Mae carthu i'r dyfnder hwn yn cynorthwyo byd natur i fodoli ochr yn ochr â defnydd o'r sianel gan gychod; mae lleihau lefelau silt ar waelod y sianel fordwyo yn lleihau tyrfedd wrth i gwch symud drwodd. Hefyd, mae'n ein helpu i greu gofod dŵr agored er mwyn cynnal y rhywogaethau dyfrol.
Mae yna lawer o fanteision i'r broses o adael llain glustogi ar gyfer y cynefin ymylol. Mae'n creu coridor bioamrywiol ar gyfer nifer o infertebratau, adar, amffibiaid, ymlusgiaid a mamaliaid. Hon hefyd yw'r ffurf fwyaf naturiol o glustogi sydd ar gael ar gyfer amddiffyn glannau meddal y gamlas rhag erydiad, yn ogystal â gweithredu fel hidlydd naturiol ar gyfer dŵr sy'n dod o dir cyfagos i'r gamlas.
Mabwysiadu dull carthu fesul cam
Er bod modd cwblhau 4 milltir o waith carthu yn ystod un gaeaf mewn sawl man, rydym yn rhoi ystyriaeth i sensitifrwydd y safle er mwyn llunio dull gweithredu fesul cam. Bydd hyn yn golygu bod modd i ni gasglu a diogelu unrhyw un o'r rhywogaethau planhigion pwysig yn y sianel, yn barod i'w dychwelyd ar ôl y gwaith. Hefyd, mae'n rhoi amser i'r safle adfer rhwng y gwaith, gan sicrhau cyn lleied o aflonyddu â phosibl ar fywyd gwyllt yr ardal. Mae'n broses debyg i garthu rhannau eraill o'n rhwydwaith camlesi sydd â statws SoDdGA a/neu ACA, fel Camlas Rochdale.
Rydym yn rheoli 2,000 milltir o gamlas gan gynnwys 60 o safleoedd SoDdGA, ac yn gweithio gydag arbenigwyr â gwybodaeth ecolegol helaeth sy'n cynorthwyo ein holl waith. Rydym yn ffodus i gael tîm ymroddedig ar gyfer y prosiect hwn. Rydym yn gweithio'n agos hefyd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, y rheoleiddiwr, i sicrhau bod ein holl waith yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol a'r canllawiau amgylcheddol gofynnol, gan leihau unrhyw effeithiau negyddol ar yr ecosystem.
Last Edited: 30 June 2023
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration