Skip to main content

The charity making life better by water

Lluosogi Rhywogaethau

Er mwyn helpu rhywogaethau planhigion sy'n fwy prin i ymestyn eu plwyf a sefydlu eu hunain yn y rhannau o'r gamlas sydd newydd eu carthu ac yn y gwarchodfeydd newydd os cânt eu creu, rydym yn cynnig cynllun casglu, lluosogi oddi ar y safle ac ailgyflwyno.

Potamogeton praelongus ready for transport to The Rare British Plants Nursery

Mae gwaith lluosogi i warchod y rhywogaethau yn eu hardaloedd presennol eisoes yn cael ei wneud, a bydd yn parhau. Bydd rhagor o luosogi ar gyfer gwarchodfeydd newydd yn cael ei archwilio yn y dyfodol pan fyddwn wedi symud ymhellach trwy'r broses reoleiddio. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth â Sw Caer, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Phlanhigfa Planhigion Prin Prydain.

Cynhaliwyd arolygon o safleoedd rhoi, sy'n cofnodi ehangder poblogaethau rhywogaethau. Dros yr haf, bydd y planhigion yn cael eu casglu yn barod i'w plannu mewn hambyrddau wedi'u leinio er mwyn eu lluosogi mewn tanciau dŵr. Unwaith y bydd y planhigion wedi gorffen tyfu, byddant yn cael eu cludo yn ôl i'r safle, yn barod i'w hailgyflwyno mewn lleoliadau wedi'u marcio yn y gamlas a'r gwarchodfeydd presennol. Byddant yn cael eu monitro'n ofalus wrth symud ymlaen er mwyn canfod llwyddiant y poblogaethau a gyflwynwyd.

Last Edited: 30 June 2023

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration