Bydd y gwaith adfer ar y ddyfrffordd hanesyddol hon o waith dyn yn parhau gan ddiogelu’r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.
Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
The charity making life better by water
Making life better by water
Gweledigaeth hirsefydledig Glandŵr Cymru a’n partneriaid ar gyfer Camlas Maldwyn yw ei hadfer i fod yn gamlas ffyniannus a chynaliadwy - camlas a fydd o fudd i bobl a byd natur.
Bydd y gwaith adfer ar y ddyfrffordd hanesyddol hon o waith dyn yn parhau gan ddiogelu’r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.
Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Mae'r rôl y gall Camlas Maldwyn ei chwarae i wella bioamrywiaeth yn ganolog i bwrpas ein helusen – fel ag y mae cefnogi treftadaeth ddiwylliannol y gamlas a'r swyddi ychwanegol a'r hwb i'r economi a ddaw yn sgil y gwaith adfer. Mae adfer yn hanfodol i sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy y gamlas. Gyda mwy o bwrpas economaidd a chymdeithasol, gellir rheoli a diogelu'r gamlas yn well, a'i harbed rhag dirywio i gyflwr a fyddai'n niweidio ei phlanhigion gwarchodedig.
Mae dynodiad arbennig Camlas Maldwyn fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac fel Ardal Gadwraeth Arbennig yn nodwedd warchodedig a sylfaenol o waith adfer y gamlas. Yn wir, mae cynllun cadwraeth arbennig y cytunwyd arno gan dros ddwsin o sefydliadau, gan gynnwys Cyngor Sir Powys, Cyngor Swydd Amwythig a Chyfoeth Naturiol Cymru, sy'n cynnwys adfer adarn bellach o'r gamlas fel y gall cychod deithio arni, yn rhan allweddol o sicrhau dyfodol y gamlas a'i statws amgylcheddol gwarchodedig.
Fel elusen camlesi'r genedl, mae gennym y profiad a'r arbenigedd i helpu i sicrhau buddiannau i fywyd gwyllt a phobl. Mae ein dealltwriaeth o'r ecosystemau unigryw a chymhleth yn aml a ffurfir o fewn ein camlesi yn rhoi'r cyfle i ni sicrhau cydbwysedd rhwng ecoleg hynod bwysig Camlas Maldwyn a'r mordwyo a fydd yn helpu i ddiogelu dyfodol y gamlas.
Mae gan lawer o'n camlesi ddynodiad amgylcheddol gwarchodedig pwysig, yn cynnwys Camlas Rochdale sy'n gartref i'r un Llyriad-y-dŵr Arnofiol â Chamlas Maldwyn. Mae'r enghraifft hon yn dangos bod adfer camlas fel y gellir ei mordwyo o fudd i rywogaethau yn y pen draw. Heb y rheolaeth hirdymor sy'n cael ei sicrhau drwy waith adfer, bydd y planhigion gwarchodedig a gynhelir gan y gamlas yn debygol o gael eu trechu gan blanhigion cryfach.
Unwaith eto, fel rydyn ni wedi'i weld mewn mannau eraill, bydd lefel wedi'i rheoli o deithio gan gychod o fudd i blanhigion o dan y dŵr, gan reoli'r ymylon cyrs amrywiol, tra bydd tair gwarchodfa natur sylweddol newydd ger y gamlas yn cyflwyno budd i'r rhywogaethau gwarchodedig ac i'r mathau eraill o fywyd gwyllt sydd mewn perygl ac yn agos at ein calon.
Mae'r cais llwyddiannus i'r Gronfa Ffyniant Bro gan Gyngor Sir Powys yn gyfle gwych i gyflawni'r weledigaeth ar gyfer camlas sydd wedi'i hadfer - un sy'n cyflawni'r pwrpas economaidd a chymdeithasol cynyddol sy'n hanfodol i sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy Camlas Maldwyn a dyfodol y planhigion ar hyd y gamlas. Fel y partner cyflawni, edrychwn
ymlaen at weithio gyda'r gymuned, ein partneriaid, ynghyd â llu o wirfoddolwyr a chefnogwyr dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
Rydyn ni wrth ein bodd o gael symud ymlaen i gam nesaf y gwaith adfer a fydd yn cynnwys sawl maes gwaith, diolch i gais llwyddiannus i'r Gronfa Ffyniant Bro, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys a chefnogaeth Partneriaeth Camlas Maldwyn.
Dydy'r adarn 4.4 milltir o gamlas rhwng Llanymynech a'r Arddlîn ddim wedi bod ar agor i gychod ers y 1930au, a bwriad y cam adfer hwn yw adnewyddu'r sianel fel y gall cychod ei defnyddio unwaith eto. Er na fydd y gwaith hwn yn gallu cysylltu'r adran hon ag adrannau eraill sydd wedi'u hadfer o'r gamlas, bydd yn cyflawni rhan hollbwysig o'r prosiect.
Am ragor o wybodaeth am y gwaith y byddwn yn ei wneud dros y ddwy flynedd nesaf, cliciwch ar y bocsys isod.
Last Edited: 07 August 2024
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration