Teithiau cerdded ar Gamlas Aberhonddu i ddathlu 225 mlynedd ers iddi agor
Dewch i fwynhau taith gerdded ar hyd ein camlas 225 mlwydd oed, sydd â hanes cyfoethog a chamlas sy’n cysylltu cymunedau wrth iddi droelli trwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae rhywbeth i'w weld ar lan y gamlas bob cam o'r ffordd, o dreftadaeth sydd wedi cael lle amlwg yn y dirwedd ers dros ddwy ganrif i natur a bywyd gwyllt syfrdanol y mae’r gamlas yn gartref iddynt.
Gallwch ymuno â’r llwybr tynnu o unrhyw le ar hyd y Môn & Brec a mwynhau buddion arbennig treulio amser ger y dŵr.
Os ydych chi'n chwilio am syniadau, beth am gymryd golwg ar ein cyfarwyddiadau cam wrth gam. Maent yn eich tywys ar daith gerdded ac yn eich dysgu am rannau o’r gamlas, rhwng Gilwern ac Aberhonddu, sy’n dathlu 225 mlynedd ers ei hagor.

Taith gerdded 3.5 milltir - Cyfarwyddiadau Cam wrth Gam o Gilwern
Mae’r daith yn cychwyn yng Ngilwern, ac mae’n dilyn y gamlas am 3.5 milltir i Lan-ffwyst

Taith gerdded 3.3 milltir - Cyfarwyddiadau Cam wrth Gam o Dalybont
Mae’r daith yn cychwyn yng Nhalybont, ac mae’n dilyn y gamlas am 3.3 milltir

Taith gerdded 2.2 milltir - Cyfarwyddiadau Cam wrth Gam o Fasn Aberhonddu
Mae’r daith yn cychwyn ym Masn Aberhonddu ac mae’n dilyn y gamlas am 2.2 milltir i Ddyfrbont Brynich
Safleoedd picnic
Beth am fwynhau cinio bach, neu eistedd a mwynhau heddwch a llonyddwch y gamlas yn un o safleoedd picnic ein llwybr tynnu.
Mae nifer o safleoedd picnic ar lan Camlas Mynwy ac Aberhonddu, ac mae llawer ohonynt mewn lleoliadau sy'n llawn hanes neu mewn lleoliadau sy'n ddelfrydol ar gyfer gwylio cychod yn mynd heibio neu geisio cael cip olwg ar y bywyd gwyllt arbennig sy'n byw ar y gamlas.
Llangatwg
Mae safle picnic Llangatwg ar ben odyn galch restredig Gradd II*. Oddi yno gallwch fwynhau golygfeydd o'r gamlas a'r dirwedd gyfagos.
Mae meinciau’r man picnic wedi’u cynllunio mewn modd sy’n adlewyrchu sut y byddai car tram wedi edrych, gan mai’r rhain oedd yn cael eu defnyddio i gludo deunyddiau crai i'r safle. Roeddent yn rhedeg ar draws yr odynau lle mae'r meinciau bellach yn eistedd.





Llangattock picnic area on the Monmouthshire & Brecon Canal
Gilwern
Gyda chymorth cynllun gwella mynediad Cyngor Sir Fynwy, ym mis Ebrill 2025 uwchraddiwyd yr ardal bicnic yng Ngilwern a gwnaed gwelliannau i'r llwybr ac i’r ardal bicnic ei hun. Mae bellach yn fan picnic sy'n addas i gadeiriau olwyn.
Gwnaed y gwelliannau fel rhan o ddathliadau 225 mlynedd ers agor Camlas Aberhonddu gan fod y gwaith o adeiladu’r ddyfrffordd wedi dechrau nepell o Gilwern ym 1796.


Upgraded picnic area at Gilwern
Last Edited: 13 April 2026

Stay connected
Sign up to our newsletter and discover how we protect canals and help nature thrive