Ddoe a Heddiw – Camlas Aberhonddu
Drwy gydol 2025 a 2026, law yn llaw â'n sefydliadau partner a'r gymuned leol, rydym yn dathlu 225 mlynedd ers agor Camlas Aberhonddu.
Dechreuodd Camlas Mynwy ac Aberhonddu, neu’r Mon & Brec fel y caiff ei galw weithiau, ei hoes fel dwy gamlas wahanol, – Camlas Sir Fynwy a Chamlas Brycheiniog a’r Fenni. Er i'r ddwy gael eu cysylltu ym 1812 ym Mhont-y-moel, mae’r digwyddiadau eleni’n dathlu 225 mlynedd ers cwblhau Camlas Aberhonddu, rhan fwyaf ogleddol y gamlas, ddeuddeg mlynedd ynghynt.
Bob mis, bydd yr ymgynghorydd treftadaeth David Viner yn bwrw golwg yn ôl ar sut mae'r gamlas, ers iddi gael ei hadeiladu, wedi esblygu’n ddyfrffordd boblogaidd sy’n troelli trwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o Gilwern yr holl ffordd i Aberhonddu.
Mae llawer o'r delweddau a ddefnyddir i edrych yn ôl ar hanes y gamlas yn ddarluniau a grëwyd gan Michael Blackmore. Rydym yn ddiolchgar i Beacon Park Boats am roi caniatâd i ailddefnyddio'r delweddau hyn.
Gilwern
Ym 1793, pasiwyd Deddf ar gyfer creu Camlas Brycheiniog a’r Fenni, a fyddai’n rhedeg am 35 milltir (56 km) rhwng Aberhonddu a Chamlas Sir Fynwy ym Mhont-y-moel. Yn sgil y ddeddf hefyd rhoddwyd pwerau ychwanegol i'r cwmni adeiladu tramffyrdd o’r gamlas am hyd at wyth milltir.
Penderfynodd y cyfarwyddwyr ddechrau’r gwaith trwy adeiladu tramffordd yn gyntaf, roedd hyn yn anarferol ond fe’i gelwyd fel modd o greu refeniw ychwanegol.
O fewn blwyddyn, roedd 'drams' â dynnwyd gan geffylau yn cludo glo o bwll glo Gelli-felen ger Brynmawr i lawr dyffryn Clydach gan groesi Afon Wysg i efail haearn yng Nglangrwyney. Ni ddechreuodd y gwaith ar y gamlas ei hun nes 1797, a chychwynnwyd y gwaith yng Ngilwern lle'r oedd angen iddi groestorri â'r dramffordd cyn croesi ceunant dwfn ble llifai Afon Clydach.
Datrysodd peiriannydd y cwmni, Thomas Dadford, y broblem drwy gyflogi contractwr, Thomas Powell o’r Fenni, i adeiladu arglawdd o graig a phridd 100 metr o hyd a 25 metr o uchder, gan gladdu'r afon mewn twnnel dwfn.
Adeiladwyd twnnel arall drwy'r arglawdd er mwyn galluogi’r dramffordd i basio o dan y gamlas, a’r hyn a grëwyd trwy’r gwaith aruthrol hwn oedd Dyfrbont Gilwern, un o nodweddion pwysicaf y gamlas heddiw.




Construction of Gilwern Aqueduct by Michael Blackmore
Llangatwg
Pan ddechreuwyd y gwaith ar Gamlas Brycheiniog a’r Fenni yng Ngilwern ym 1797, dywedodd y cwmni camlas bod angen i’r rhan naw milltir ar ddeg at y derfynfa yn Aberhonddu gael ei hadeiladu yn gyntaf. Byddai’r rhan isaf, i gyffordd â Chamlas Sir Fynwy ym Mhont-y-moel yn cael ei hadeiladu yn nes ymlaen.
O fewn blwyddyn roedd y gamlas newydd wedi mynd heibio Llangatwg, lle'r oedd calchfaen eisoes yn cael ei chloddio ymhell uwchlaw y pentref yng Nghiliau Daren at ddibenion amaethyddiaeth a diwydiant.
Ar ôl llosgi mewn odynau gyda glo, roedd yn cael ei deneuo’n galch brwd ar gyfer ei ddefnyddio fel gwrtaith, morter adeiladu a chynhwysyn yn y broses o wneud haearn. Yn sgil y gamlas orffenedig a’r tramffyrdd a oedd yn ymestyn ohoni i'r pyllau glo a'r chwareli, bu gwelliannau sylweddol o ran y ffordd y cludwyd glo a chalchfaen, ac roedd y gwelliannau’n golygu y gellid cynhyrchu ar raddfa fawr mewn odynau newydd mewn glanfeydd.
Yna, storiwyd y calch brwd mewn casgenni er mwyn ei gludo ar gert neu gwch. Ymddangosodd yr odyn galch gyntaf yn Llangatwg ym 1815, ac ymhen amser hon oedd yr odyn fwyaf o’r deg a oedd ar lan y gamlas.
Er bod cynhyrchu calch yn ddiwydiant pwysig yn ystod oes y gamlas, bu dirywiad syfrdanol tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn sgil dyfodiad gwrteithiau a fewnforiwyd. Mae maint yr odynau calch sydd i’w gweld heddiw yn rhoi rhyw syniad i ni o pa mor bwysig oeddynt unwaith.




Llangattock lime kilns and wharf illustration by Michael Blackmore
Llangynidr
Aeth y gwaith o adeiladu'r gamlas rhagddo’n gyflym dan arweiniad peirianydd y cwmni, Thomas Dadford, ac erbyn diwedd 1797 roedd y rhan wyth milltir a hanner o Gilwern i bentref Llangynidr wedi’i gorffen.
Roedd hyn yn gynnydd rhagorol o ystyried y tir anwastad a bryniog yr oedd angen ei groesi ar y ffordd i Aberhonddu. Drwy osod llwybr y gamlas o amgylch amlinellau troellog y bryniau, llwyddodd Dadford i'w chadw ar un lefel, camp beirianyddol ryfeddol sy'n cynnig golygfeydd ysblennydd ar draws dyffryn Wysg.
Roedd Llangynidr hefyd yn ffynhonnell ddŵr ar gyfer llenwi'r gamlas, wrth iddi groesi’r Afon Crawnon fyrlymus. Y tu hwnt i'r pwynt hwn, roedd y tir yn codi’n serth a'i unig opsiwn oedd gosod cyfres o bum loc, a fyddai’n codi'r gamlas 55 troedfedd i gyd.
Rhwng y ddau loc uchaf, creodd bwll ochr, a oedd yn gwneud yn siŵr bod digon o ddŵr wrth gefn er mwyn eu gweithredu. Rhoddodd hyn gyfle i dafarn y pentref ddiwallu anghenion y 'navvies' a oedd yn gweithio ar y gamlas, ac yn nes ymlaen bobl y cychod a oedd yn aros am seibiant. Roedd yn lle defnyddiol hefyd i sefydlu depo’r cwmni, ac mae’r adeilad yno o hyd ger yr hyn a elwir heddiw’n Loc 65.





Construction of Llangynidr Locks illustration by Michael Blackstock
Torri'r gamlas
Yn y 1790au, roedd adeiladu dyfrffordd fewndirol yn dipyn o dasg, ac roedd hyn yn sicr yn wir yn achos y gamlas i Aberhonddu. Roedd yn rhaid i beiriannydd y cwmni Thomas Dadford wneud arolwg manwl gywir o’r dirwedd anodd gan ddefnyddio cyfarpar eithaf sylfaenol.
Er bod ei lwybr yn dilyn dyffryn Afon Wysg, roedd y sianel yn cael ei chloddio i mewn i lethrau bryniau serth er mwyn osgoi gorfod adeiladu lociau ychwanegol. Aeth ei gontractwr, Henry Harris, y Torrwr Camlas o Grughywel, ati i ymgymryd â'r dasg hon am dâl o dair ceiniog a hanner yr iard giwbig, ac roedd ganddo fyddin o lyw-wyr, neu ‘navvies’, a oedd yn defnyddio picau a rhawiau yn unig.
Roedd y dynion hyn yn adnabyddus am eu gwaith caled ond roeddynt yn adnabyddus hefyd am yr helynt y gallent ei greu ac am faint yr oeddynt yn ei yfed, ac roedd hyn, heb os, yn peri gofid mawr i'r cymunedau bach y byddent yn dod ar eu traws ar y daith.
Yn ogystal â thorri'r sianel, bu'n rhaid i Dadford adeiladu dros chwe deg o bontydd rhwng Gilwern ac Aberhonddu er mwyn caniatáu i ffyrdd groesi, ac er mwyn bodloni perchnogion yr oedd eu tir wedi’i rannu gan y gamlas newydd.
Yn y pen draw, rhoddwyd enwau lleol ar y pontydd hyn, ac yn ddiweddarach, rhoddwyd rhifau arnynt hefyd. Un enghraifft yw Pont y Wyrcws 136 ger Lociau Llangynidr, a oedd yn arwain at hen Wyrcws Llandetty, sy'n sefyll hyd heddiw ar lethr y bryn uwchben y gamlas.





Surveying the Monmouthshire & Brecon Canal by Michael Blackmore
Twnnel Ashford
Erbyn diwedd 1797, roedd y gwaith o adeiladu’r gamlas i Aberhonddu bron hanner ffordd, flwyddyn yn unig ers i’r gwaith gychwyn, cynnydd yr oedd cyfranddalwyr Cwmni Camlas Brycheiniog a’r Fenni yn fodlon iawn ag o fwy na thebyg. Fodd bynnag, ni chafwyd yr un llwyddiant yn ystod y cam nesaf. Yn Ashford, dair milltir o Langynidr, roedd arolwg 1794 wedi argymell adeiladu twnnel: "er mwyn osgoi glan serth a llithrig yr afon, lle na allai’r gamlas gael ei chludo, ond byddai cost sylweddol ac ni ellid bod yn sicr y gellid ei gynnal".
Dyma’r unig dwnnel a oedd ei angen rhwng Gilwern ac Aberhonddu. Nid oedd lle i lwybr tynnu, felly arweiniwyd ceffylau dros ben y twnnel a byddai cychod yn cael eu tynnu gan ddynion a fyddai’n gorwedd ar fwrdd yn gwthio gyda’u coesau yn erbyn wal y twnnel.
Roedd llu o broblemau’n codi wrth adeiladu twneli cynnar, ac nid oedd hwn yn eithriad. Pan oedd y gwaith o greu dwy ran o dair o’r twnnel wedi'i orffen, cwympodd rhan o'r to oherwydd tir ansefydlog a bu'n rhaid ailadeiladu rhan hir ohono.
Cwynodd y contractwr, Thomas James, yn chwerw ei fod wedi gwneud popeth yn unol â gofynion y peiriannydd ac mai’r dyluniad ac ymdrechion Dadford i arbed arian oedd ar fai mewn gwirionedd. Ni chwblhawyd y twnnel 375 llath nes hydref 1799, ac fe gostiodd bron i dri chwarter yn fwy na'r amcangyfrif gwreiddiol.




A boat being legged out of Ashford Tunnel by Michael Blackmore
Tramffordd Brinore ac odynau calch Talybont
Er gwaethaf y problemau y bu i Thomas Dadford eu hwynebu wrth adeiladu Twnnel Ashford, aeth y gwaith o dorri'r gamlas tuag at Aberhonddu yn ei flaen. Ym mis Chwefror 1799, ar ôl dwy flynedd o waith, cyrhaeddodd ei ‘navvies’ bentref Talybont, wedi cwblhau bron i ddwy ran o dair o'r llwybr. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, daeth Talybont yn fan pwysig ar gyfer trosglwyddo cargo glo, haearn a chalchfaen o gwch i gwch.
Comisiynodd Benjamim Hall, perchennog Union Ironworks yn Rhymni, a oedd yn chwilio am ffordd arall o gludo ei gynhyrchion i Aberhonddu, y peiriannydd George Overton i adeiladu tramffordd a oedd yn defnyddio ceffylau dros y bryn er mwyn croestorri â’r gamlas. Roedd hon yn dramffordd a oedd yn rhedeg am wyth milltir o Dalybont i Drefil. O dan y Ddeddf Camlesi 1793 ni fyddai’r dramffordd wedi cael mynd dim pellach ar dir cyhoeddus ac felly defnyddiodd Hall ei dir preifat, trwy bwll glo Bryn Oer, i ymestyn y dramffordd i Rhymni. Yn ffodus, roedd gan Overton les ar y cyd yn y pwll glo ac roedd eisoes wedi ennill ei blwyf fel adeiladwr tramffyrdd mewn mannau eraill yn Ne Cymru.
Yn 1815, cwblhaodd Dramffordd Brinore, gan ychwanegu hefyd nifer o odynnau calch ar hyd glan y gamlas a fyddai’n defnyddio calchfaen o Chwarel Trefil. Yn ystod y flwyddyn hon hefyd, symudodd i Llandetty gerllaw, ac yno y bu nes iddo farw ym 1825. Gellir gweld odynau calch trawiadol Overton hyd heddiw a gellir cerdded y dramffordd i goffáu deucanmlwyddiant ei farwolaeth.





Brynhyfryd limekilns at Talybont - credit Michael Blackmore
Pontydd Codi Camlas Aberhonddu
Ar ôl iddi fynd heibio Talybont, mae'r gamlas i Aberhonddu’n llifo drwy dir mwy agored a bu modd i Thomas Dadford arbed arian wrth adeiladu rhai o'r pontydd. Yn y mannau ble roedd y gamlas yn rhedeg ar hyd glan uchel uwchben y caeau cyfagos, yn hytrach nac adeiladu pont fwa o garreg, roedd modd iddo ddewis gosod pont godi neu lifft. Roedd y rhain yn strwythurau pren gyda dec lefel isel ar draws y gamlas a ffrâm wrthbwyso uwch ei ben. Gellid eu codi'n rhwydd gan un person.
Roedd pontydd codi yn ateb delfrydol ar gyfer croesfannau heb lawer o draffig, megis ffyrdd bach a thraciau fferm. Adeiladodd Dadford bump o’r pontydd hyn dros y gamlas rhwng Talybont a'r pentref nesaf, Pencelli. Mae'r bont sydd i’w gweld yn Nhalybont heddiw wedi'i hailadeiladu sawl gwaith ac mae’n gweithio â thrydan bellach, ond mae'r pedair nesaf, er eu bod wedi'u gwneud o ddur, yn dal i gael eu gweithredu â llaw ac maent yn debyg iawn i'r patrwm gwreiddiol.
Yn wreiddiol, roedd mwy o bontydd codi ar hyd y gamlas, ond wrth i gerbydau modur llawer trymach gymryd lle ceffyl a throl yn yr ugeinfed ganrif, mae rhai ohonynt wedi cael eu disodli. Mae Pont 128 yn Llangynidr yn dal i gael ei galw'n Bont Godi Panteague, er iddi gael ei hailadeiladu'n bont dros y gamlas ar ôl i'r dec codi gwympo yn y 1950au, gan anafu ffermwr a lladd ei gi.





Lift bridge on the Monmouthshire & Brecon Canal - credit Michael Blackmore
Castell Pencelli
Ddwy filltir o Dalybont, wynebodd Thomas Dadford rwystr arall o ran llwybr ei gamlas - twmpath sylweddol Castell Pencelli. Amddiffynfa mwnt a beili oedd yma’n wreiddiol ond erbyn y 1300au roedd wedi tyfu’n gastell mawr. Mae'r olion wedi hen ddiflannu, ond mae'r gamlas yn dal i ddilyn cwrs y ffos, gan droelli o amgylch llethr bryn coediog serth. Enwyd y bont wasanaethau wrth ei throed, a adeiladwyd er mwyn i weithwyr yr ystâd allu croesi'r gamlas, yn Bont y Castell.
Wrth ei hochr mae strwythur a ychwanegwyd 80 mlynedd yn ddiweddarach wrth i fasnach y gamlas ildio i draffig rheilffordd. Mae'r arwydd cyfyngiad pwysau haearn siâp diemwnt yn dystiolaeth mai’r Great Western Railway Company a oedd berchen ar y gamlas ar ôl 1880. Tua'r un adeg, roedd peiriannau tyniant wedi'u gyrru gan stêm yn dechrau cael eu defnyddio i weithredu peiriannau amaethyddol.
Byddai’r cewri hyn yn teithio o fferm i fferm ac roedd y perchnogion newydd yn pryderu’n fawr na fyddai’r pontydd llai dros y gamlas, a adeiladwyd ar gyfer ceffyl a throl, yn gallu dal eu pwysau. Gosodwyd dau arwydd pwysau, a oedd gynt ar rannau o hen reilffyrdd, ar bob pont, gyda phlatiau y gellid eu tynnu yn nodi'r pwysau uchaf ar gyfer pob lleoliad. Mae llawer ohonynt yn dal i sefyll heddiw, yn gymaint o ran o dreftadaeth y gamlas â'r pontydd cerrig gwreiddiol.




Castle Bridge 152 Monmouthshire & Brecon Canal north facing
Pont Bell Ear
Dim ond 3½ milltir sydd rhwng Pencelli ac Aberhonddu fel yr hed y fran, ond roedd angen i’r gamlas wneud tro mawr er mwyn osgoi tir corslyd. Ychwanegodd hyn filltir arall at lwybr Dadford. Ar hyd y rhan hon mae pont sydd â’r enw rhyfedd Bell Ear. Yn wreiddiol, dim ond rhifau a roddwyd i’r pontydd, yn dechrau yn Aberhonddu, ond yn raddol fe gawsant enwau. Rhoddwyd enwau ffermydd neu gymunedau cyfagos ar nifer ohonynt, megis Llwyncelyn, neu fe'u henwyd ar ôl unigolion, Pont Parson ger Llandetty er enghraifft, sydd â llwybr troed sy'n arwain at yr eglwys.
Mae enwau eraill yn cyfeirio at y tirlun, er enghraifft Pont Dan-y-Graig, ond mae bron yn amhosibl egluro enw ambell i un. Mae'n debyg bod enw Dark Bridge yn deillio o'r ystâd leol Dan-y-Parc, ac mae'n rhaid bod Pont Old House yn ymwneud ag adeilad fu yno gynt, er i hwn ddiflannu o leiaf 150 mlynedd yn ôl. Mae tarddiad Snake Bridge yn ddirgelwch hyd heddiw. Mae'n debyg bod cysylltiad rhwng y bont sydd â’r enw rhyfeddol Pont Spiteful Inn a Spiteful Lane, ond nid oes unrhyw gofnod bod tafarn erioed wedi bod yno. O ran Pont Bell Ear, mae'n debyg mai'r esboniad llai diddorol yw mai enw wedi’i seisnigeiddio’n anghywir ydyw, gan bod y bont yn arwain at hen chwarel yng Nghoed y Balia.





John Frederick Tennant 1857 view of Llwyncelyn Bridge near Llangattock with Cwm Du in the background
Dyfrbont Brynich
Erbyn haf 1799, roedd navvies y gamlas wedi cyrraedd Brynich, dwy filltir yn unig o'u cyrchfan derfynol yn Aberhonddu. Yr un her fawr oedd gan y peiriannydd Thomas Dadford ar ôl oedd dod o hyd i ffordd o gario'r gamlas ar draws Afon Wysg. Ei ateb oedd dyfrfrbont garreg fawreddog oedd â phedwar bwa, y strwythur mwyaf ar y gamlas gyfan.
Mae cofnodion y cwmni ar gyfer 8 Gorffennaf 1799 yn cofnodi bod Benjamin James a Walter Walters wedi cael contract i adeiladu dyrfrbont dros Afon Wysg am £2200, a bod angen ei chwblhau erbyn 29 Medi 1800. Mae'n ymddangos yn swm bychan iawn heddiw, ond i roi hyn mewn cyd-destun, roedd James hefyd yn adeiladu'r pontydd gwasanaethau niferus am £38 yr un. 225 mlynedd yn ddiweddarach, mae campwaith Dadford yn dyst i sgil y saer maen ac mae’n nodwedd ragorol mewn tirwedd ysblennydd.
Er mai at ddibenion diwydiannol yr adeiladwyd y gamlas, does dim dwywaith ei bod yn hardd hefyd. Yn 1840, daliodd yr arlunydd Joseph Murray Ince yr olygfa ganllath neu ddwy o Ddyfrbont Brynich. Mae ei baentiad dramatig yn dangos cwch yn cael ei thynnu ar hyd y gamlas ar arglawdd ymhell uwchlaw Afon Wysg, ac yn y cefndir mae copaon uchel y Bannau Brycheiniog.




Constructing Brynich Aqueduct - credit: Michael Blackmore
Watton
Erbyn troad y ganrif ym 1800, dair blynedd ar ôl i'r gwaith ddechrau yng Ngilwern, roedd Camlas Brycheiniog a’r Fenni wedi cyrraedd cyrion tref Aberhonddu. Wrth agosáu at y dref, rhedai ochr yn ochr â ffordd dyrpeg newydd o’r Fenni a ger tollborth Watton adeiladodd Dadford un o'r pontydd camlas olaf yr oedd eu hangen.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ym 1811, pan ddechreuwyd gwaith ar dramffordd Aberhonddu i’r Gelli Gandryll, y defnyddiwyd ceffylau i dynnu arni, estynnwyd y bont hon er mwyn cynnwys ail fwa er mwyn galluogi’r dramffordd i gyrraedd pen ei thaith ar lan y gamlas yng Nglanfa Watton. Mae'r bont dau fwa hon yn dystiolaeth hyd heddiw bod y rheilffordd gynnar hon wedi bodoli. Roedd y rheilffordd hefyd yn cynnwys lein gangen a oedd yn rhedeg ychydig gannoedd o fetrau yn ôl i fyny glan y gamlas at odynau calch Watton.
Roedd llosgi calch er mwyn cynhyrchu gwrtaith amaethyddol a morter adeiladu yn un o ddiwydiannau pwysig y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd cludo'r deunyddiau crai a'r calch llosg ar dramffordd neu gamlas yn galluogi’r diwydiant i gynhyrchu llawer mwy. Lai na phymtheg mlynedd ar ôl cwblhau'r gamlas yn Aberhonddu, roedd llu o odynau calch glan camlas wedi ymddangos yn Watton, Talybont, Llangynidr, Llangatwg a Gilwern. Yn union fel y tramffyrdd, mae’r holl weithgarwch wedi hen ddod i ben, ond yma maent yn dal i sefyll - pob un yn gofeb i'r gorffennol.




The double-arched bridge at Watton by Michael Blackmore
Cyrraedd Aberhonddu
Ym mis Rhagfyr 1800, ar ôl bron i bedair blynedd o waith, cyrhaeddodd Camlas Brycheiniog a’r Fenni ei therminws yn Aberhonddu. Ar y 24ain o'r mis hwnnw, Noswyl y Nadolig, tynnwyd y llwyth cyntaf o lo i fyny i lanfa cwmni’r gamlas. Roedd y lanfa wedi'i lleoli yn y man ble mae iard y Cyflenwyr Adeiladu Robert Price bellach, ar Ffordd Dan y Gaer.
Does dim arwydd heddiw bod yr hen gamlas wedi bodoli yma ac mae’r linell sydd wedi’i hadfer yn gorffen ddau gan metr yn nes i lawr ger y theatr ym Masn Aberhonddu. Er mawr syndod, dim ond yn 1996 y cafodd ei greu, ond mae un nodwedd hanesyddol yn dal i fodoli yno. Swyddfa Pwyso a Mesur y Cwmni oedd yr adeilad bach gwyn gyferbyn â'r theatr, a oedd yn cael ei ddefnyddio i gofnodi tollau ar lwythi cychod.
Ychydig iawn o gynlluniau cynnar o’r gamlas yn Aberhonddu sydd ar gael, ond mae map manwl iawn o'r dref a grëwyd gan John Wood ym 1834 yn dangos ei llwybr gwreiddiol. O ystyried holl heriau a ddaeth yn sgil y tirwedd, roedd adeiladu naw milltir ar ddeg o gamlas o Gilwern mewn cyfnod mor fyr yn gamp aruthrol i'r peiriannydd Thomas Dadford Junior; fodd bynnag, mae'n ddigon posibl bod yr holl ymdrech wedi cael effaith ar ei iechyd. Yn anffodus, bu farw’r flwyddyn ganlynol ym 1801 cyn iddo allu dechrau ar y cam nesaf, sef cario’r gamlas yn ei blaen i gyfeiriad y de o Gilwern i Bont-y-moel.






1845 photo of the Public Wharf near Watton Bridge by Calvert Jones - Amgueddfa Cymru - Museum Wales
Last Edited: 9 April 2026

Stay connected
Sign up to our newsletter and discover how we protect canals and help nature thrive