Llinell amser Camlas Brycheiniog a'r Fenni
Mae hanes Camlas Brycheiniog a'r Fenni yn cychwyn yn ôl yn y 1700au pan awgrymwyd y dylid adeiladu camlas i gysylltu Aberhonddu gyda Chamlas Sir Fynwy.
Chwaraeodd y gamlas ran bwysig yn ein treftadaeth ddiwydiannol a gellir gweld olion y dreftadaeth hon, gan gynnwys glanfeydd ac odynau calch, ar lan y gamlas hyd heddiw.
Beth am gymryd golwg ar ein llinell amser sy'n edrych yn ôl ar gerrig milltir pwysig y gamlas.
1792
Cynigion yn cael eu cyflwyno ar gyfer camlas i gysylltu Aberhonddu â Chamlas Sir Fynwy ym Mhont-y-moel
1793
Pasiwyd deddf ar gyfer adeiladu Camlas Brycheiniog a'r Fenni (B & A). Roedd y Ddeddf yn cynnwys yr hawl i adeiladu tramffyrdd cysylltiedig hyd at wyth milltir o hyd.
1795
Thomas Dadford Junior yn cael ei benodi’n beiriannydd ar gyfer y gamlas newydd
1794
Yn gyntaf, mae’r cwmni camlas yn adeiladu tramffordd o Ellifelen i Langrwyney
1797
Ym mis Chwefror mae gwaith ar y gamlas yn cychwyn gan ddechrau gyda Dyfrbont Gilwern dros Afon Clydach. Erbyn mis Tachwedd mae’r gwaith o adeiladu wyth milltir o gamlas a phum loc yn Llangynidr wedi'i orffen
1798
Twnnel Ashford yn cael ei adeiladu ond mae rhan ohono’n cwympo
1799
Mae’r gamlas yn cyrraedd Talybont ac mae'r gwaith yn dechrau ar Ddyfrbont Brynich dros Afon Wysg
1800
Mae’r gwaith o adeiladu’r gamlas i Aberhonddu wedi'i orffen ac mae’r llwyth cyntaf o lo yn cyrraedd ar gwch ar Noswyl Nadolig
1801
Thomas Dadford yn marw ac yn cael ei gladdu ym mynwent eglwys Llanarth
1802
Y Cwmni Camlas yn adeiladu'r odyn galch gyntaf yn Watton
1812
Mae camlas B & A yn ymuno â Chamlas Mynwy ym Mhont-y-moel. Mae’r ddwy gamlas wedi cysylltu Aberhonddu â Chasnewydd
1815
Tramffordd Brinore yn agor gydag odynau calch newydd yn Nhalybont a Llangatwg
1816
Mae Rheilffordd y Gelli yn agor, tramffordd o'r gamlas yn Aberhonddu i'r Gelli Gandryll
1840
Masnach ar y gamlas ar ei anterth wrth iddi gario llwythi o lo, haearn, calch a physt ar gyfer pyllau
1865
Camlas B & A yn cael ei phrynu gan The Monmouthshire Railway & Canal Company
1880
Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu’n cael ei gwerthu i Great Western Railway
1915
Traffig cychod rheolaidd olaf rhwng Aberhonddu a Chasnewydd
1930
Caewyd rhannau o'r gamlas islaw Pont-y-moel yn raddol
1948
Perchnogaeth y gamlas yn trosglwyddo o GWR i Gomisiwn Trafnidiaeth Prydain
1962
Trosglwyddo’r 35 milltir o gamlas a oedd yn weddill i Ddyfrffyrdd Prydain mewn cyflwr gwael.
1964
Gwirfoddolwyr yn dechrau adfer y gamlas
1970
Y gamlas yn ailagor o gyrion Aberhonddu i Bont-y-moel
1995
Basn newydd yn Aberhonddu yn agor a’r gamlas i mewn i’r dref yn cael ei hadfer
2012
Trosglwyddwyd Camlas Mon a Brec o Ddyfrffyrdd Prydain i Glandŵr Cymru
Last Edited: 13 April 2026

Stay connected
Sign up to our newsletter and discover how we protect canals and help nature thrive