Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Sgyrsiau i ddathlu 225 mlynedd ers agor Camlas Aberhonddu

Mae'r ymgynghorydd treftadaeth David Viner a David Morgan o Glandŵr Cymru yn cynnal sgyrsiau am hanes a threftadaeth Camlas Brycheiniog a'r Fenni, 225 mlynedd ers iddi agor.

Mae'r sgyrsiau yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn ystod 2025 a 2026 i ddathlu 225 mlynedd ers i’r gamlas gael ei chwblhau ac ers i’r cargo cyntaf o lo gyrraedd Basn Aberhonddu ar noswyl Nadolig 1800.

Mae dwy gymdeithas Hanes - Cymdeithas Hanes Llangynidir a Chymdeithas Hanes Crughywel - wedi mwynhau'r cyfle i ddarganfod mwy am hanes cyfoethog y gamlas a'r rôl y mae wedi'i chwarae am dros ddwy ganrif, a’r ffordd y mae heddiw, yn dal i wneud cyfraniad pwysig i'r ardal leol fel cyrchfan bwysig i ymwelwyr yng nghalon cymunedau glan y gamlas, ac fel cynefin hanfodol i fywyd gwyllt amrywiol.

Os byddai gan eich sefydliad ddiddordeb mewn clywed y sgwrs yn ystod y flwyddyn o ddathliadau, 2025-26, yna anfonwch e-bost at [email protected] i gael rhagor o wybodaeth.

Last Edited: 13 April 2026

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our newsletter and discover how we protect canals and help nature thrive