Prosiectau gwirfoddoli
Fel rhan o'n gweithgareddau sy’n dathlu 225 mlynedd ers agor Camlas Aberhonddu, mae ein tîm ymroddedig o wirfoddolwyr yn rhoi eu hamser i wella a gofalu am y ddyfrffordd arbennig hon.
Trwy gydol y flwyddyn o ddathliadau maent yn gweithio ar nifer o brosiectau ar hyd rhannau o'r gamlas gan ymgymryd â thasgau cynnal a chadw pwysig sy'n parhau i roi bywyd i'r gamlas 225 mlynedd ar ôl ei hagor.
Dyma rai o'r prosiectau y mae ein gwirfoddolwyr wedi cymryd rhan ynddynt fel rhan o ddathliadau Aberhonddu 225:
Basn Aberhonddu
Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio ym Masn Aberhonddu er mwyn helpu i gyflwyno bywyd yn ôl i'r basn. Gyda gwaith sydd wedi'i gymeradwyo gan ein ecolegydd ar y gamlas, maent wedi bod yn mynd i'r afael â'r twf o laswellt rhwng cerrig y palmant, tynnu buddleia a phaentio bolardiau angori.




Ceidwaid Lociau Gwirfoddol
Cyn yr haf pan fydd y gamlas yn gweld cynnydd o ran traffig cychod, mae ceidwaid lociau gwirfoddol wedi bod yn derbyn hyfforddiant ar sut i weithio'r lociau yn Llangynidr er mwyn cynorthwyo’r cychod sy’n eu defnyddio ar eu taith.




Talybont-ar-Wysg
Mae gwirfoddolwyr wedi cael gwared ar ffensys oedd wedi pydru ar lwybrau yn Nhalybont-ar-Wysg, ac maent wedi adeiladu ffensys newydd yn eu lle.




Gilwern
Gyda chefnogaeth cyllid gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Cyngor Sir Fynwy a Llywodraeth Cymru, mae gwirfoddolwyr wedi uwchraddio'r ardal bicnic yng Ngilwern er mwyn ei wneud yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.




Odynau Calch Watton
Mae gwirfoddolwyr wedi torri llystyfiant ac wedi clirio'r ardal yn odynau calch Watton ger Aberhonddu.




Llangynidr
Mae gwirfoddolwyr Towpath Taskforce wedi gosod dwy fainc newydd yn ardal bicnic Llangynidr diolch i gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru a chronfa Y Pethau Pwysig Cyngor Sir Powys.




Loc 65, Llangynidr
Mae ein tîm Towpath Taskforce wedi cael gwared ar hen feinciau uwchben ac o dan loc 65, sy’n rhan o res o lociau yn Llangynidr, ac maent wedi adeiladu meinciau newydd i gymryd eu lle.
Mae hyn wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru a chronfa Y Pethau Pwysig Cyngor Sir Powys.




Last Edited: 13 April 2026

Stay connected
Sign up to our newsletter and discover how we protect canals and help nature thrive