Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Camlas Abertawe yn 225 oed
Yn 2023, roedd SC225 yn ddathliad blwyddyn o weithgareddau a digwyddiadau mewn partneriaeth â Chymdeithas Camlas Abertawe i ddathlu 225 mlynedd ers sefydlu Camlas Abertawe.
Adeiladwyd y gamlas rhwng 1794 a 1798, gyda 16.5 milltir yn cael eu cwblhau ym mis Hydref y flwyddyn honno. Dyma oedd y strwythur mawr cyntaf yn y dyffryn, ac roedd yn llwybr gwerthfawr ar gyfer trafnidiaeth, ynghyd â dŵr a phŵer, ar gyfer masnach a diwydiant. Cafodd ei adeiladu i gludo glo i lawr i ddiwydiannau yng Nghwm Tawe Isaf ac i'w allforio, a galluogodd y cyswllt newydd hwn â'r môr ddatblygiadau diwydiannol ar hyd y dyffryn a'r trefi rydyn ni'n eu hadnabod heddiw.
Am ganrif roedd y ddyfrffordd yn gwneud elw. Gelwid Abertawe yn ‘Copperopolis' yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Yn wir, ym 1820, roedd 90% o holl gapasiti mwyndoddi copr Prydain wedi'i leoli o fewn ugain milltir i'r ddinas ac roedd yn cael ei hystyried yn gyffredinol fel canolfan y byd ar gyfer mwyndoddi copr a gweithgynhyrchu metelau. Mae'n un o ganolfannau diwydiannol cynharaf Cymru.
Daeth y traffig masnachol i ben ar y gamlas ym 1931 a'r tro olaf i gychod oedd yn cael eu tynnu gan geffylau gael eu cofnodi oedd ym 1958, yng Nghlydach. Dirywiodd y gamlas, ond ym 1981 sefydlwyd Cymdeithas Camlas Abertawe, ac mae'r gymdeithas wedi bod yn gweithio tuag at adfer y rhannau o'r gamlas sydd ar ôl.
Heddiw, dim ond pum milltir o Gamlas Abertawe y mae modd ei mordwyo'n llwyr, a hynny o Glydach i Bontardawe ac o Bontardawe i Ynysmeudwy. Mae'n parhau i fod yn llwybr cerdded a beicio gwyrdd a braf, yn swatio ar waelod Cwm Tawe a'i lethrau serth.
Sut rydym wedi dathlu 225 o flynyddoedd
I ddathlu 225 mlynedd o Gamlas Abertawe, mewn partneriaeth â Chymdeithas Camlas Abertawe, rydyn ni'n cynnal nifer o ddigwyddiadau a phrosiectau gyda'r gymuned leol i ddathlu 225 mlynedd ers sefydlu'r gamlas.
Dyma rai o'r dathliadau:
- Prosiect ffilm i ysgolion cynradd lleol (Ionawr – Chwefror)
- Wythnos o weithdai mewn ysgolion ar ddiogelwch dŵr (Ionawr – Mawrth)
- Parti yn y Parc ym Mharc Coed Gwilym, Clydach – (28 Mai)
- Arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (Ebrill - Medi)
- Arddangosfa deithiol (Medi - Tachwedd)
- Prosiect hanes llafar sy'n cynnwys atgofion o'r gamlas (Medi – Rhagfyr)
- Goleuo’r gamlas, gweithdai gwneud llusernau (30 Hydref - 3 Tachwedd)
- Goleuo'r Gamlas – (18 Tachwedd ym Mharc Coed Gwilym, Clydach)
- Lansio llyfrau newydd Camlas Abertawe – (1 Rhagfyr yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau)
Bydd yr holl wybodaeth ddiweddaraf a rhagor o fanylion am y dathliadau ar gael ar y dudalen hon drwy gydol y flwyddyn.
Camlas Abertawe 225, her fideo ysgolion
Last Edited: 30 September 2024
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration