Skip to main content

The charity making life better by water

Dadorchuddio placiau enwau pontydd ar Gamlas Abertawe

Mae placiau wedi'u gosod ar bum pont ar Gamlas Abertawe.

Fel rhan o brosiect SC225 sy'n nodi 225 mlynedd ers sefydlu'r gamlas, mae'r placiau'n helpu pobl i ailddarganfod enwau'r pontydd hanesyddol ar y ddyfrffordd.

Yn anterth y gamlas, roedd gan ei holl bontydd enwau, ac yn aml roedden nhw’n gysylltiedig â fferm neu unigolyn cyfagos. Dros amser rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r enwau ac aeth rhai yn angof.

Diolch i gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol Cymru, bu modd cynhyrchu placiau i’w gosod fel rhan o'r dathliadau pen-blwydd sy’n cael eu cynnal gan Glandŵr Cymru, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, a Chymdeithas Camlas Abertawe.

Mae pob plac yn ddwyieithog ac yn ymgorffori sêl Cwmni Camlas Abertawe, enw'r bont, logo Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol Cymru ac yn cyfeirio at 225ain mlwyddiant Camlas Abertawe.

Cynhaliwyd seremonïau i ddadorchuddio dau o'r placiau ar ddwy bont yng nghwmni dwy ysgol gynradd leol sydd wedi bod yn rhan o’r dathliadau pen-blwydd.

Mewn seremoni ym Mhont John, ymunodd disgyblion o Ysgol Sant Joseff, Clydach, â rheolwr datblygu Glandŵr Cymru, David Morgan, a'r cynghorydd treftadaeth David Viner, a Chymdeithas Camlas Abertawe, i ddadorchuddiad y plac newydd gan gadeirydd Cymdeithas y Gamlas, Gordon Walker.

Bu staff a disgyblion Ysgol Trebannws hefyd yn ymweld â Phont Trebannws gyda Glandŵr Cymru a Chymdeithas y Gamlas i ddadorchuddio’r plac ar y bont.

Bu’r ddwy ysgol yn cymryd rhan mewn ymarfer adeiladu pont fodel wrth ymyl y gamlas gan ddarganfod mwy sut roedd pontydd yn cael eu hadeiladu.

Mae placiau hefyd wedi'u gosod ar bont 7 Ynysmeudwy Isaf, pont 8 Ynysmeudwy Ganol, a phont 9 Ynysmeudwy Uchaf.

Mae SC225 yn ddathliad blwyddyn o hyd o hanes Camlas Abertawe. Mae’r digwyddiadau i nodi’r pen-blwydd arbennig wedi cynnwys y gymuned leol, ac wedi anadlu bywyd i bwysigrwydd y gamlas i Gwm Tawe dros gyfnod o ddwy ganrif a mwy.

Last Edited: 09 July 2024

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration