Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Llinell amser Camlas Abertawe
Mae gan Gamlas Abertawe hanes cyfoethog sy'n dyddio'n ôl 225 o flynyddoedd.
O'i dyddiau cynnar fel dyfrffordd hanfodol yn cysylltu Cwm Tawe ac Abertawe, â'i bodolaeth heddiw dan reolaeth Glandŵr Cymru, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, mewn partneriaeth â Chymdeithas Camlas Abertawe.
Edrychwch ar ein llinell amser sy'n edrych yn ôl ar gerrig milltir mawr y gamlas.
Gallwch hefyd ddysgu mwy gyda'n llinell stori fanwl o Gamlas Abertawe.
1793
Cynnal cyfarfod cyhoeddus i godi tanysgrifiadau ar gyfer camlas ar hyd Cwm Tawe
1794
Pasio deddf ar gyfer adeiladu Camlesi Abertawe a Threwyddfa
1796
Agor y gamlas Abertawe i Odre'r-graig
1798
Cwblhau Camlas Abertawe yn y derfynfa yn Hen Neuadd islaw Aber-craf
1828
Ychwanegu camlesi cangen ar gyfer Gwaith Haearn Ynyscedwyn a Glofa Waun Coed
1834
Ymestyn Tramffordd Fforest Brycheiniog i Lanfa'r Gurnos yn Ystradgynlais
1837
Adeiladu Bragdy Pontardawe gyda glanfa i ddanfon cwrw i dafarndai ar hyd y gamlas.
1838
Adeiladu Gwaith Haearn Ystalyfera - gyda'r mwyaf yn y byd mewn 20 mlynedd
1844
Agor Crochendy Ynysmeudwy gan ddefnyddio'r gamlas fel ei brif fodd o gludo nwyddau
1852
Cwblhau Doc y Gogledd yn Abertawe yn arwain at gynnydd sylweddol yn nhraffig y gamlas
1860
Gostwng tollau camlesi wrth i reilffyrdd gystadlu am fasnach
1873
Cwmni rheilffordd Great Western yn prynu Camlas Abertawe
1895
Y gamlas yn gwneud colled am y tro cyntaf ac yn dechrau adfeilio
1902
Bruner Mond Co. yn adeiladu'r burfa nicel fwyaf yn y byd yng Nghlydach
1904
Diwedd ar draffig masnachol ar y gamlas o Bontardawe i fyny
1918
Adeiladu'r 'Grace Darling', y cwch camlas olaf ar Gamlas Abertawe
1931
Diwedd traffig cychod masnachol a dechrau'r broses o gau.
1948
Perchnogaeth y gamlas yn trosglwyddo o ddwylo'r GWR i'r British Transport Commission.
1958
Cofnodi'r cwch camlas olaf i'w dynnu gan geffyl yng Nghlydach.
1962
Trosglwyddo'r 5 milltir o gamlas fordwyol sy'n weddill i ofal British Waterways
1981
Cymdeithas Camlas Abertawe newydd ei sefydlu yn dechrau ar y gwaith adfer
2012
Trosglwyddo Camlas Abertawe i ofal Glandŵr Cymru
Last Edited: 07 August 2024
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration