Skip to main content

The charity making life better by water

Camlas Abertawe - Beth sydd ar ôl?

Beth am chwilota yn hanes cyfoethog Camlas Abertawe a darganfod rhai o'r tirnodau pwysig sydd yno o hyd, fel rhan o'r prosiect Beth sydd ar ôl?

Fel rhan o weithgareddau SC225, i ddathlu 225 mlynedd ers sefydlu'r gamlas, mewn partneriaeth â Chymdeithas Camlas Abertawe, mae Beth sydd ar ôl? yn cynnig cipolwg hanesyddol diddorol ar rai o'r strwythurau allweddol sydd yno o hyd ar y gamlas a fu gynt yn 16.5 milltir o hyd.

Er mai dim ond pum milltir o'r gamlas sydd â dŵr ynddi heddiw, mae nifer o strwythurau yn adrodd hanes y gamlas a'i gwreiddiau o gael ei hadeiladu'n wreiddiol i wasanaethu pyllau glo, gweithfeydd haearn a gweithfeydd copr yng nghwm Tawe.

Gan ddefnyddio'r marcwyr treftadaeth ar y map, gallwch ddysgu mwy am y strwythurau sydd yno o hyd gyda'r oriel ddelweddau a gwybodaeth am bob tirnod isod.

A map showing the landmarks on the What Remains trail for the Swansea Canal

1. Odyn galch yr Hafod

Defnyddiwyd calch yn eang yn y 19eg ganrif ar gyfer gwella pridd amaethyddol ac ar gyfer gwaith adeiladu a'r broses mwyndoddi copr hefyd. O blith y 54 o odynau calch oedd ar lannau Camlas Abertawe, dyma'r unig un sy'n sefyll o hyd.

Hafod Limekiln

2. Olion traphont dros y gamlas yng ngwaith copr yr Hafod

Arferai'r waliau hyn, a adeiladwyd o flociau slag copr, gludo tramffordd ar draws y gamlas o Waith Copr yr Hafod

The remains today of the Swansea Canal over Hafad Works

3. Trosbont Treforys

Dyma enghraifft o ‘bont newid ochr' sydd wedi'i lleoli lle mae'r llwybr halio'n newid i ochr arall y gamlas. Roedd ceffyl yn tynnu cwch yn gallu croesi i'r ochr arall ac yna o dan y bont heb orfod datod y llinell.

Morriston Overbridge

4. Traphont Ddŵr Clydach Isaf

Mae'r draphont ddŵr restredig Gradd II hon wedi'i chyfuno â chored gorlif i gadw'r gamlas ar lefel gyson a dyna lle mae'r rhan sydd â dŵr ynddi o hyd yn dechrau.

Lower Clydach Aqueduct Swansea Canal

5. Pont John

Enghraifft unigryw o dollbont haearn ac mae'n rhestredig Gradd II. Cafodd ei adeiladu yn y 1880au i alluogi gweithwyr i groesi dros y gamlas o Glydach i Waith Tunplat Ynyspenllwch ar yr ochr arall.

Pont Jon Bridge Grade II on Swansea Canal

6. Pont y Mond

Fe'i hadnabyddir hefyd fel Pont Nant Lowrog, pont garreg fwaog sy'n cludo'r hen ffordd dyrpeg dros y gamlas. Wedi iddi gael ei lledu ar ddechrau'r 20fed ganrif, bu'n rhaid addasu gatiau'r loc ychydig tu hwnt i'r bont.

Mond Bridge

7. Loc y Mond Rhif 6

Wedi'i enwi ar ôl Gwaith Purfa Nicel y Mond gerllaw, roedd gatiau isaf y loc hon mor agos at y bont fel nad oedd lle i symud trawstiau cydbwyso. Yn hytrach, roedd y gatiau'n cael eu hagor a'u cau gyda system ddyfeisgar o raffau a phwlïau.

Mond Lock 6 Swansea Canal

8. Pont Coedgwilym

Mae'r llwybr halio'n mynd o dan y bont hon sydd wedi'i lledu ar y naill ochr a'r llall ers iddi gael ei hadeiladu, ond mae'r bwa gwreiddiol i'w weld yn glir o hyd.

Coedgwilym Bridge Swansea Canal

9. Loc Isaf Rhif 8 Trebanos

Green Lock yw'r enw a roddir i'r loc yn lleol ar ôl y fferm gyfagos Green Farm, ac mae'r strwythur wedi cael ei adfer yn sylweddol gan wirfoddolwyr y gamlas yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Green Lock 8 Swansea Canal

10. Pont Trebanos

Roedd y bont garreg fwaog hon sy'n gwahanu Lociau Uchaf ac Isaf Trebanos yn darparu mynediad o'r anheddiad i Waith Tunplat Pheasant Bush ar ochr ddwyreiniol y gamlas ar un adeg.

Trebanos Bridge Swansea Canal

11. Loc Uchaf Rhif 9 Trebanos

Adwaenir yn lleol fel Duke's Lock ar ôl ei leoliad yng Nghraig-y-Duke. Mae'r loc hwn hefyd wedi cael ei adfer yn sylweddol gan wirfoddolwyr y gamlas yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Trebanos Lock 9 Swansea Canal

12. Arllwysfa a Llifddor Trebanos

Gorlif rhestredig Gradd II sy'n cludo dŵr dros ben o'r gamlas i lawr i Afon Tawe. Roedd yn darparu ffynhonnell bŵer ar gyfer Gwaith Tunplat Pheasant Bush yn ymyl Lociau Trebanos slawer dydd hefyd.

Trebanos Outlet and Sluice Swansea Canal

13. Traphont Ddŵr Clydach Uchaf

Mae'r strwythur rhestredig Gradd II hwn yn cludo'r gamlas dros y Clydach Uchaf yng nghanol Pontardawe. Yn y 19eg ganrif roedd camlas gangen ychydig islaw'r draphont ddŵr yn arwain at lanfeydd ar gyfer Gwaith Tunplat Pontardawe a thramffordd o Lofa Primrose.

Upper Clydach Aqueduct Swansea Canal

14. Olion Odyn Galch yn Holly Street

Dim ond bwa mynedfa'r hen odyn galch hon sydd wedi goroesi yn Holly Street sy'n rhedeg ychydig islaw ac yn gyfochrog â'r gamlas. Byddai'r odyn yn cael ei llwytho o'r llwybr halio uwchlaw gyda haenau o graig galchfaen a glo a gludwyd mewn cychod o'r chwareli a'r glofeydd.

Remains of the line kiln at Holly Street, Swansea Canal

15. Pont Fferm Ynysmeudwy Isaf

Un o dair pont â mynediad at fferm neu lety rhwng Pontardawe ac Ynysmeudwy, i gyd yn rhestredig Gradd II. Mae hon yn y Fferm Isaf.

Ynysmeudwy Isaf Farm Bridge 7 Swansea Canal

16. Pont Fferm Ynysmeudwy Ganol

Mae'r bont hon yn y Fferm Ganol. Roedd yn cael ei hadnabod fel Pont Niclas hefyd ar ôl y môr-gapten Nicholas, perchennog y fferm o'r 1890au ymlaen.

Ynysmeudwy Ganolf Farm Bridge 8 Swansea Canal

17. Loc Isaf Rhif 12 Ynysmeudwy

Adferwyd y loc hon yn helaeth gan wirfoddolwyr y gamlas yn y 1980au. Mae mewn lleoliad tawel erbyn hyn, ond am hanner can mlynedd tan 1920 roedd wrth ymyl gwaith prysur Tanwydd Patent oedd yn cywasgu glo o ansawdd gwael gyda phyg.

Ynysmeudwy Upper Lock 13 Swansea Canal

18. Cwt Fforddiolwr Ynysmeudwy

Yr enghraifft olaf o gwt fforddiolwr camlas, a gofnodwyd ym 1826 yn Llyfrau Cofnodion cwmni'r gamlas fel preswylfa un ystafell i geidwad y loc. Roedd ganddo do llechi ar un adeg sydd wedi'i ddisodli gan do metel erbyn hyn.

Lengthsman’s Hovel Ynysmeudwy Swansea Canal

19. Loc Uchaf Rhif 13 Ynysmeudwy

Er bod y loc hon wedi'i pharu â'r Loc Isaf, fe'i hadeiladwyd gan gontractwr gwahanol ac mae'n wahanol o ran lled, un o beryglon cyflogi sawl saer maen i weithio ar wahân ar y gwaith cychwynnol o adeiladu camlas.

Ynysmeudwy Lower Lock 12 Swansea Canal

20. Pont Fferm Ynysmeudwy Uchaf

Roedd y bont hon yn rhoi mynediad i'r Fferm Uchaf. Oddi tani, i'w chryfhau, mae llinellau rheilffordd a ffurfiwyd ymlaen llaw i ddarparu ar gyfer cerbydau trwm oedd yn teithio i Waith Tunplat Bryn gerllaw.

Ynysmeudwy Uchaf Farm Bridge 9 Swansea Canal

21. Traphont ddŵr Nant Du

Traphont ddŵr fach rhestredig Gradd II sy'n cario'r gamlas dros nant Nant Du wedi'i lleoli bron gyferbyn â hen Grochendy Ynysmeudwy a oedd ar waith o 1845 tan 1877.

Nant Du Aqueduct Swansea Canal

22. Arllwysfa a Llifddor Cwmdu

Nodwedd hanesyddol arall i reoli dŵr sydd hefyd wedi'i rhestru'n Radd II ond heb fod yn hawdd i'w gweld gan fod ei strwythur carreg wedi'i orchuddio gan blatiau dur a blwch rheoli modern erbyn hyn.

Cwmdu Outfall and Sluice

23. Pont Corbwyll

Roedd y bont, a elwid hefyd yn Drosbont Cilmaengwyn, yn darparu mynediad i dyddyn Corbwyll. Mae'r rhan hon o'r gamlas wedi'i dynodi'n Warchodfa Natur Leol gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Corbwyll Bridge Swansea Canal

24. Loc Cilmaengwyn Rhif 14

Loc sydd wedi goroesi a oedd yn gysylltiedig â chymuned Cilmaengwyn tua 1900, ond yn wreiddiol fe'i gelwid yn Loc Cwm-Tawe-Isaf ar ôl y fferm gyfagos.

Cilmaengwyn Lock 14 Swansea Canal

25. Pont Fferm Cwmtawe Isaf

Pont lety restredig Gradd II sy'n darparu mynediad i'r fferm gyfagos gyda chamfa slabiau cerrig ar ben y grisiau o'r llwybr halio. Daw'r llwybr halio i ben ychydig uwchben y pwynt hwn ac mae'r gamlas mewn ceuffos yn rhannol.

Cwmtawe Isaf Farm Bridge Swansea Canal

26. Loc Thick Rhif 17

Wedi'i enwi ar ôl Mr Thick, perchennog fferm gyfagos, roedd hwn yn lleoliad pwysig ar un adeg gyda doc sych ac iard atgyweirio gerllaw'r loc, ond erbyn hyn mae yna ordyfiant sylweddol ac mae wedi'i orchuddio'n rhannol gan rwbel. Mae'r safle'n rhestredig Gradd II ac yn heneb gofrestredig.

Thick Lock 17 Pant-y-ffynon Scheduled Monument Swansea Canal

27. Traphont Ddŵr Twrch

Mae'r strwythur mwyaf arwyddocaol sydd wedi goroesi ar Gamlas Abertawe wedi'i restru'n briodol fel Gradd II* yn ogystal â bod yn heneb gofrestredig. Mae'n croesi Afon Twrch yn Ystalyfera ac mae ar Lwybr 43 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (Bae Abertawe) bellach.

Twrch Aqueduct Swansea Canal

28. Bythynnod Loc Ystradgynlais

Pâr o fythynnod loc yn Ynys Uchaf ar ochr ogleddol Ystradgynlais, gyferbyn â llinell y gamlas sydd wedi'i gorchuddio gan brif ffordd yr A4067 ers hynny. Gellir gweld yr anheddau sy'n eiddo preifat yn hawdd o'r briffordd gyhoeddus.

Ystradgynlais Lock Cottages on Swansea Canal

29. Doc Gwaun-clawdd ac olion Wal y Gamlas

Dyma oedd terfynfa uchaf y gamlas. Cafodd y doc ei lenwi ac mae'n safle diwydiannol erbyn hyn ond gellir gweld tystiolaeth hanesyddol fel rhan o wal y gamlas ar ochr y briffordd i Aberhonddu.

Gwaunclawydd Dock Swansea Canal

30. Cored a sianel fwydo Aber-craf

Rhoddai'r gored a adeiladwyd dros Afon Tawe gyflenwad dŵr parhaol ar gyfer y gamlas, gyda sianel fwydo i gario'r dŵr 1200 metr i lawr i'r derfynfa yn Noc Gwaun-clawdd. Mae'r gwaith carreg wedi goroesi yn ogystal â'r dyddiad 1842 wedi'i gerfio mewn carreg ar wyneb y gored, sy'n dangos pryd y cafodd ei hailadeiladu. Ceir mynediad ar lwybr troed o bentref Aber-craf.

Abercraf Weir and Feeder Swansea Canal

Last Edited: 22 April 2024

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration