Skip to main content

The charity making life better by water

Pont Ganol Ynysmeudwy

Mae gwirfoddolwyr wedi helpu i ailbwyntio Pont Ganol Ynysmeudwy ar Gamlas Abertawe.

Fe wnaethon nhw roi o’u hamser yn ystod yr wythnos hyfforddiant sgiliau treftadaeth fel rhan o ddathliadau 225 mlwyddiant y gamlas, a gynhaliwyd gan Glandŵr Cymru, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, a Chymdeithas Camlas Abertawe.

Treuliodd pymtheg o wirfoddolwyr amser yng nghwmni rheolwr tîm treftadaeth a’r amgylchedd Glandŵr Cymru, Morgan Cowles, y cynghorydd treftadaeth Kate Lynch a staff Tŷ Mawr Lime Limited yn dysgu sgiliau a thechnegau hanfodol wrth weithio gyda morter calch i gynnal a chadw ased treftadaeth pwysig.

Mae'r bont yn strwythur rhestredig Gradd II a bu’r cyfranogwyr, ynghyd â chydweithwyr o dîm gweithrediadau lleol Glandŵr Cymru, yn tynnu llystyfiant o'r bont cyn i'r gwaith ddechrau ar ailbwyntio’r ochr deheuol a rhan o barapet mewnol y canllaw.

Cyn y gwaith, fe wnaeth ecolegydd o Glandŵr Cymru chwilio am unrhyw adar neu ystlumod a oedd yno’n nythu o bosibl, a bu’r swyddog cadwraeth o Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn cymeradwyo’r gwaith gan fod gan y bont statws rhestredig.

Fe waeth myfyrwyr chweched dosbarth o Ysgol Ystalyfera a gwirfoddolwyr, gan gynnwys o Gymdeithas Camlas Abertawe, gynnig eu helpu gyda'r gwaith.

Placeholder for quotes
"Fe wnaethon ni fwynhau mas draw ac rydyn ni’n gobeithio cymryd rhan yn y dyfodol eto pan fydd y cyfle yn codi. Mae’n newid gwych i ni dorchi llewys i warchod ein hanes ac roedd y bechgyn wrth eu bodd."
Chweched Ysgol Ystalyfera

Rydyn ni’n ddiolchgar i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol Cymru am eu cefnogaeth i'r digwyddiad.

Gallwch ddysgu mwy am ein dathliadau 225 mlwyddiant ar gyfer Camlas Abertawe mewn partneriaeth â Chymdeithas Camlas Abertawe.

Placeholder for quotes
"Diolch o galon. Roedd Dan a Rowan wedi mwynhau'n arbennig! Roedd Ross yn anhygoel gydag nhw ac rydyn ni’n siŵr y bydd y profiad yn helpu Rowan i ddod o hyd i brentisiaeth law yn llaw â'r holl wirfoddoli y mae'n ei wneud gyda Chymdeithas y Gamlas."
Carly

Last Edited: 09 July 2024

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration