The charity making life better by water

Swansea Canal looking towards Coed Gwilym Park

Camlas Abertawe yn 225 oed

Mae SC225 yn ddathliad sy’n para blwyddyn sy’n cynnwys gweithgareddau a digwyddiadau i Glandŵr Cymru, mewn partneriaeth â Chymdeithas Camlas Abertawe, i ddathlu 225 mlynedd ers sefydlu Camlas Abertawe.

Adeiladwyd y gamlas rhwng 1794 a 1798, gyda 16.5 milltir yn cael eu cwblhau ym mis Hydref y flwyddyn honno. Dyma oedd y strwythur mawr cyntaf yn y dyffryn, ac roedd yn llwybr gwerthfawr ar gyfer trafnidiaeth, ynghyd â dŵr a phŵer, ar gyfer masnach a diwydiant. Cafodd ei adeiladu i gludo glo i lawr i ddiwydiannau yng Nghwm Tawe Isaf ac i'w allforio, a galluogodd y cyswllt newydd hwn â'r môr ddatblygiadau diwydiannol ar hyd y dyffryn a'r trefi rydyn ni'n eu hadnabod heddiw.

Am ganrif roedd y ddyfrffordd yn gwneud elw. Gelwid Abertawe yn ‘Copperopolis' yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Yn wir, ym 1820, roedd 90% o holl gapasiti mwyndoddi copr Prydain wedi'i leoli o fewn ugain milltir i'r ddinas ac roedd yn cael ei hystyried yn gyffredinol fel canolfan y byd ar gyfer mwyndoddi copr a gweithgynhyrchu metelau. Mae'n un o ganolfannau diwydiannol cynharaf Cymru.

A man and horse stood next to the Swansea Canal at Hafod copperworks

Daeth y traffig masnachol i ben ar y gamlas ym 1931 a'r tro olaf i gychod oedd yn cael eu tynnu gan geffylau gael eu cofnodi oedd ym 1958, yng Nghlydach. Dirywiodd y gamlas, ond ym 1981 sefydlwyd Cymdeithas Camlas Abertawe, ac mae'r gymdeithas wedi bod yn gweithio tuag at adfer y rhannau o'r gamlas sydd ar ôl.

Heddiw, dim ond pum milltir o Gamlas Abertawe y mae modd ei mordwyo'n llwyr, a hynny o Glydach i Bontardawe ac o Bontardawe i Ynysmeudwy. Mae'n parhau i fod yn llwybr cerdded a beicio gwyrdd a braf, yn swatio ar waelod Cwm Tawe a'i lethrau serth.

Sut byddwn ni'n dathlu 225 o flynyddoedd

I ddathlu 225 mlynedd o Gamlas Abertawe, mewn partneriaeth â Chymdeithas Camlas Abertawe, rydyn ni'n cynnal nifer o ddigwyddiadau a phrosiectau gyda'r gymuned leol i ddathlu 225 mlynedd ers sefydlu'r gamlas.

Dyma rai o'r dathliadau:

  • Prosiect ffilm ysgolion cynradd lleol - Ionawr i Chwefror
  • Wythnos o weithdai i ysgolion ar ddiogelwch dŵr - Ionawr - Mawrth
  • Prosiect hanes llafar yn cynnwys atgofion o'r gamlas - Ebrill - Awst
  • Arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Ebrill - Medi
  • Parti yn y Parc ym Mharc Coed Gwilym, Clydach - 28 Mai
  • Teithiau cerdded treftadaeth ar hyd y gamlas gyda chwmni theatr - Awst

Bydd yr holl wybodaeth ddiweddaraf a rhagor o fanylion am y dathliadau ar gael ar y dudalen hon drwy gydol y flwyddyn.

The partner logos for the Swansea 225 celebrations

Last Edited: 14 November 2023

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration