Mae ein 'nant yn y nen', Dyfrbont Pontcysyllte ac 11 milltir o gamlas Llangollen yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO (sy'n golygu eu bod cyn bwysiced â'r Taj Mahal) am reswm da iawn.
Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Dyfrbont Pontcysyllte a Chanolfan Ymwelwyr Basn Trefor
Y ddyfrbont, sy'n cario Camlas Llangollen dros uchelfannau Dyffryn Dyfrdwy, yw un o brif gampweithiau peirianneg y rhwydwaith camlesi. Gallwch gerdded ar draws y ddyfrbont neu sbario'ch coesau a mynd ar gwch - cofiwch eich camera a gadewch eich ofn uchder gartref!
Ein Canolfan Ymwelwyr ym Masn Trefor sy'n rhad ac am ddim yw'r lle gorau i ddechrau'ch diwrnod i'r teulu cyfan yn Nyfrbont Pontcysyllte, ac mae yno fodelau y gallwch eu cyffwrdd, fideos, gwybodaeth am yr ardal ac anrhegion lleol.
Mae dau gwmni yn cynnig teithiau cwch ar draws y ddyfrbont, Anglo Welsh a Llangollen Wharf
Pethau i'w gwneud a'u gweld ger Dyfrbont Pontcysyllte
Llefydd i fwyta:
Teithiau cwch:
Llefydd picnic:
Mae byrddau picnic ar gael hyd at y ddyfrbont ac o gwmpas ein canolfan ymwelwyr
Llwybrau:
Bywyd gwyllt:
Efallai y gwelwch chi elyrch, cwtieir, ieir dŵr a hwyaid. Cofiwch - dydy bara ddim yn dda i foliau hwyaid, felly helpwch ni i'w cadw nhw'n iach drwy brynu ein bwyd hwyaid arbennig o'n canolfan ymwelwyr.
Sut i gyrraedd yma
Oeddech chi'n gwybod bod rhoddion gan Gyfeillion yr Ymddiriedolaeth wedi ein helpu i adfer Basn Trefor? Dysgwch sut gallwch ein helpu i wneud mwy
Yn y car - SATNAV LL14 3SG. Cadwch lygad am yr arwyddion brown yn yr ardal er mwyn osgoi llwybrau cul a serth. Mae lle parcio Dyfrbont Pontcysyllte a Basn Trefor bellach yn faes parcio talu ac arddangos.
Mae arwyddion i dri maes parcio oddi ar yr A539:
- un maes parcio oddi ar Heol yr Orsaf ar gyfer deiliaid bathodyn glas anabl a hawlebau yn unig (LL20 7TY)
- mae'r prif faes parcio ar Stryd y Frenhines (LL14 3SG) ger Cefn Mawr
- mae maes parcio wrth gefn ac i fysiau ym Mhorth Wimbourne, Heol y Frenhines, Cefn Mawr (LL14 3NP)
Mae'r ddau faes parcio o fewn pellter cerdded hwylus i'r ddyfrbont.
Sylwch mai 8am - 8pm yw oriau agor ein meysydd parcio. Does dim hawl parcio dros nos a bydd y gatiau'n cael eu cloi y tu allan i'n hamseroedd agor.
Ar y trên- gorsafoedd Rhiwabon neu'r Waun sydd agosaf, ac er eu bod nhw braidd yn bell i gerdded i Bontcysyllte, gallech feicio o'r gorsafoedd hyn yn ddigon hawdd.
Ar y bws- mae bysiau rheolaidd yn mynd a dod o Wrecsam drwy orsafoedd Rhiwabon a Trefor. Mae bysiau hefyd yn rhedeg o'r Waun drwy Froncysyllte.
Ar gwch - mae cyfleusterau angori a throi ar gyfer cychod camlas ym Masn Trefor, i'r gogledd o Ddyfrbont Pontcysyllte. Mae toiledau cyhoeddus ac angorfeydd ymwelwyr yn ein canolfan ymwelwyr. Am fwy o gyfleusterau, gweler taflen gyfleusterau Gogledd Cymru
Last Edited: 1 October 2025