Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Chirk Aqueduct

Camlas Llangollen

Mae Camlas Llangollen yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae ei chyfuniad o gefn gwlad ysblennydd a pheirianneg anhygoel yn denu ymwelwyr o bell ac agos – gyda llawer ohonynt mae’n debyg ddim yn sylweddoli i’r gamlas hardd hon bron â chau ar un adeg.

Mae Camlas Llangollen yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae ei chyfuniad o gefn gwlad ysblennydd a pheirianneg anhygoel yn denu ymwelwyr o bell ac agos – gyda llawer ohonynt mae'n debyg ddim yn sylweddoli i'r gamlas hardd hon bron â chau ar un adeg.

Mae Dyfrbont Pontcysyllte, y ddyfrbont deithio uchaf ym Mhrydain, sy'n cludo'r gamlas fry uwchben afon Dyfrdwy, yn gampwaith peirianyddol ac yn eicon o'r Chwyldro Diwydiannol. Yn 2009 cafodd y ddyfrbont ac 11 milltir o gamlas a'i strwythurau cysylltiedig statws Safle Treftadaeth y Byd.

Mae'r ddyfrbont yn 126 troedfedd o uchder ac mae ganddi 19 bwa sy'n cwmpasu 1007 troedfedd i gyd. Waeth a ydych chi'n croesi ar droed neu ar gwch, mae'r gwymp yn un dramatig. Dŵr Rhaeadr y Bedol gerllaw sy'n bwydo'r ddyfrbont ac mae'n dal 1.5 miliwn litr o ddŵr, sy'n aruthrol.

Mae Camlas Llangollen a'r ardal oddi amgylch wedi denu ymwelwyr ers 200 mlynedd. Beth am gerdded o'r dref i Raeadr y Bedol yn Llantysilio neu ymweld â'r Waun gyda'i dyfrbont a thraphont a thwnnel byr ond syndod o dywyll.

Dod o hyd i ataliadau, cyfyngiadau a chyngor arall ar fordwyo ar gyfer y ddyfrffordd hon (Saesneg yn unig)

Teithiau

Rydym wedi paratoi canllaw am ddim sy'n cynnwys popeth sydd angen i chi ei wybod i gael diwrnod gwych gyda'r teulu yn Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Pontcysyllte.

Lawrlwythwch ein canllaw

Yr hanes

Cynlluniwyd camlas Llangollen gan ddau ŵr eithriadol yn hanes peirianneg sifil, William Jessop a Thomas Telford, a ddefnyddiodd dechnegau newydd i dorri trwy dir garw a chroesi dau ddyffryn.

Roedd eu dyfrbontydd, twneli, pontydd, trychiadau ac argloddiau gwych, y rhan fwyaf i'w gweld o hyd, yn dynodi cam arwyddocaol yn esblygiad cludiant. Roedd hon yn gamp beirianyddol eithriadol yn ei dydd ac fe gymerwyd dros ddeng mlynedd i adeiladu Dyfrbont Pontcysyllte ei hun, gyda'r garreg olaf yn cael ei gosod ym 1805 gyda chyfanswm y gost yn £38,499 (£38 miliwn erbyn heddiw).

Mae'r gamlas a welwn heddiw yn dra gwahanol i'r hyn roedd yr hyrwyddwr gwreiddiol wedi'i fwriadu. Bwriad Deddf Camlas Ellesmere 1793 oedd cysylltu Afon Mersi i Afon Hafren yn Amwythig, heibio'r Waun, Rhiwabon a Wrecsam i afon Ddyfrdwy yng Nghaer, yna parhau i Afon Mersi i'r fan a fyddai'n datblygu i fod yn Ellesmere Port.

Roedd bwriad hefyd i ddatblygu canghennau i chwareli calchfaen Llanymynech a thref Eglwys Wen. Y nod oedd bod yn brif lwybr i uno'r tair afon, darparu llwybr allanol i ddiwydiannau glo a haearn Sir Ddinbych, a bod yn fodd i wasgaru calchfaen i ffrwythloni tiroedd fferm yng ngogledd Swydd Amwythig.

Anawsterau ariannol

Y rhan i'r gogledd o Gaer gafodd ei hadeiladu gyntaf. Yna, adeiladwyd rhai o'r camlesi a gynlluniwyd i'r de o'r fan lle'r oedd Dyfrbont Pontcysyllte i groesi Afon Ddyfrdwy, yn cynnwys y gangen i Lanymynech a rhan helaeth o'r gangen tuag at yr Eglwys Wen - ond doedd dim arian yn y coffrau i gwblhau'r gwaith. Roedd rhaid newid y cynlluniau.

Rhoddwyd y gorau i'r rhan o Riwabon i Gaer, a'r gamlas i Amwythig; yn hytrach, estynnwyd cangen yr Eglwys Wen i gyfarfod Camlas Caer yng Nghyffordd Hurleston. Roedd angen ffynhonnell ddŵr newydd, felly adeiladwyd cyflenwydd y gellid mordwyo arno o ben gogleddol Dyfrbont Pontycysyllte, heibio Llangollen i Afon Ddyfrdwy yn Rhaeadr y Bedol.

Defnyddiwyd y gamlas yn bennaf i gludo calchfaen o Lanymynech a Phontcysyllte i odynau calch ar hyd y gamlas ac i gangen Prees. Yn ddiweddarach, ar ôl agor Camlas Birmingham a Chyffordd Lerpwl cludwyd calchfaen i waith haearn Dwyrain Swydd Amwythig.

Daeth y grŵp hwn o gamlesi'n rhan o Gamlas y Shropshire Union ym 1845, ac yn fuan wedyn cafodd ei brydlesu i'r London & North Western Railway. Roedd y gamlas yn ei hanterth yn y 1860au, ond gydag amser gwelwyd ei defnydd yn arafu a daeth y cyfan i ben yn y 1930au.

Dyfodol disglair

Caewyd Camlas Llangollen gan Ddeddf Seneddol ym 1944. Ar ôl pasio ail ddeddf llwyddodd i aros ar agor am ddeng mlynedd arall i gyflenwi dŵr i wahanol ddiwydiannau. Bu rheolwr mentrus yn trafod gyda'r cwmni dŵr a oedd yn gwasanaethu de Swydd Gaer fel y gallent gael eu dŵr o Afon Ddyfrdwy, gan ddefnyddio'r gamlas fel piblinell agored. Erbyn i hyn ddigwydd ym 1959 roedd y gamlas wedi dod yn boblogaidd ymhlith ymwelwyr ac roedd dyfodol y gamlas yn sicr.

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration