Fforwyr Glandŵr
Mae dysgu wrth wraidd popeth a wnawn.

View this page in English
Mae pob camlas ac afon yn unigryw ac yn ffordd wych o ddenu diddordeb eich disgyblion a dod â dysgu’n fyw. O’r dyfroedd i fyd natur, o draddodiadau celf i ddyfeisiau rhyfeddol, mae LLOND GWLAD o gyfleoedd ar gyfer astudiaethau allgyrsiol!
Mae ein gwirfoddolwyr yn defnyddio adnoddau ymarferol sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm Cenedlaethol neu fathodynnau grwpiau i arwain teithiau difyr ac ysbrydoledig – yn eich ystafell ddosbarth, eich man cyfarfod ac yn yr awyr agored.
Dewch i ni fforio ar y glannau gyda’n gilydd!
Chwiliwch drwy’n holl adnoddau dysgu AM DDIM
Mae camlesi ac afonydd yn cynnig cyfleoedd gwych i gyflwyno sawl agwedd ar y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 2. Hanes, gwyddoniaeth a daearyddiaeth yw’r prif feysydd astudio, ond mae modd trafod pynciau niferus eraill hefyd – cewch ysbrydoliaeth yn ein hadnoddau i’w lawrlwytho.