Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Rhan allweddol o'r prosiect oedd ymgysylltu â gwirfoddolwyr a'u helpu i hogi sgiliau newydd mewn gwaith trwsio cerrig traddodiadol fel pwyntio morter calch.
Roedd yr odynau calch yn Watton Llangatwg ac yn Goetre yn rhan hanfodol o hanes diwydiannol ein gwlad, ac yn cael eu defnyddio i gynhyrchu morter calch ar gyfer y byd amaeth a'r fasnach adeiladu. Cafodd deunyddiau crai fel glo a chalchfaen eu cario ar gychod camlas i'r odynau. Yna, roedd y cynnyrch gorffenedig, calch llosg, yn cael ei gludo gyda cheffyl a throl i ffermydd lleol ac ar dramffyrdd yn cael eu tynnu gan geffylau cyn belled â'r Gelli Gandryll a Threfyclo.
Prif bwyslais y prosiect oedd cadwraeth dwy odyn galch restredig Gradd II yn Watton a Goetre, ac un odyn restredig Gradd II* yn Llangatwg. Dyma'r enghreifftiau gorau o odynau calch sydd mewn cyflwr da ac ar gael i'r cyhoedd i'w gweld yn yr ardal, ac mae angen gwaith cynnal a chadw i raddau amrywiol ar bob un ohonynt. Cyflawnwyd y gwaith gan gyfuniad o gontractwr arbenigol a chymorth gwirfoddolwyr, a darparwyd hyfforddiant fel rhan o becyn y prosiect. Ar ôl cwblhau'r gwaith, bydd llwybr yr odynau calch yn ategu'r llwybrau canŵ, hanesyddol a bwyd sydd eisoes wedi'u datblygu ar hyd y gamlas mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Fel y gwelwch o'r fideo, roedd y prosiect yn bosib diolch i £60,700 o nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a £30,000 gan Ymddiriedolaeth Bannau Brycheiniog. Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys creu llwybr dehongli, a fydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i ymwelwyr o dreftadaeth ddiwydiannol y dyfrffyrdd. Enwebwyd y prosiect ar gyfer Gwobrau'r Dyfrffyrdd Byw eleni.
Mewn partneriaeth ag Arts Alive Wales a Peak Art, fe wnaeth dau artist cyfoes gynnal arddangosiad goleuadau yn un o'r odynau yn Llangatwg.
Gweler y llun isod o ardal bicnic newydd uwchlaw odynau calch Llangatwg. Dyluniwyd y meinciau hyn i adlewyrchu'r hen dramiau a arferai gludo'r deunyddiau crai i'r safle, ar draws top yr odynau lle saif y meinciau heddiw.