Mae'r daith hon yn dilyn darn 1.2 milltir (2km) o Gamlas Maldwyn. Mae'n cynnwys 10 arosfa, pob un wedi'i marcio â chod QR.
Llwybr Camlas Maldwyn
Daw’r gamlas â bywyd gwyllt yn syth i ganol y Trallwng
Rydych angen darllenydd QR am ddim (neu ffôn NFC) i ddarllen cynnwys y cod. Chwiliwch am ‘QR reader' yn storfa/marchnad App eich ffôn deallus, neu ewch i www.i-nigma.com.
Yna wrth bob arosfa, sganiwch y cod QR i dderbyn ffeithiau difyr am y gamlas a'i bywyd gwyllt.
Hwyl i'r plant
Os ydych chi'n cerdded gyda phlant, lawrlwythwch daflenni gweithgareddau am ddim iddynt.
[link to PDF activity sheets, plus image of what they look like].
Maen nhw'n llawn ffeithiau difyr am bopeth o rywogaethau goresgynnol i amffibiaid anhygoel, adar annifyr a physgod ffyrnig.
Map
Diogelwch dŵr
Er bod hwyl i gael ar lan y gamlas, gall fod yn beryglus hefyd. Gair i gall:
- Cadwch draw o ymyl y gamlas - mae'r dŵr yn ddwfn
- Peidiwch byth â nofio yn y gamlas – mae pyllau nofio'n brafiach!
- Peidiwch â mentro ar iâ, rhag ofn i chi ddisgyn drwyddo
Mynediad i bawb
Mae'r rhan fwyaf o'r gamlas yn hwylus a hygyrch i bramiau a chadeiriau olwyn, ond er mwyn osgoi'r 12 gris i lawr o arosfa 1, efallai y byddai'n well i chi ddechrau'ch taith yn arosfa 2. Gallwch gyrraedd arosfa 2 o'r parc/man picnic ger y bont ffordd dros y gamlas yn Stryd Hafren.
Ar ôl arosfa 3, mae yna lwybr cul serth ar i lawr o'r bont droed – gyda graddiant o 1:5 am 6.5m. Gallwch osgoi hwn trwy fynd ar lôn gul ger y cae rygbi, am lai na 100m, a dychwelyd i'r llwybr tynnu drwy'r giât mochyn (arosfa 4).
Cofiwch
- Cadwch draw o ymyl y gamlas - mae'r dŵr yn ddwfn
- Peidiwch byth â nofio yn y gamlas – mae pyllau nofio'n brafiach!
- Peidiwch â mentro ar gamlas rewllyd, rhag ofn i chi ddisgyn drwyddo
Last Edited: 12 September 2023
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration