Glandŵr Cymru a Chymdeithas Camlas Abertawe yn dathlu pen-blwydd Camlas Abertawe
Mae Glandŵr Cymru, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, a Chymdeithas Camlas Abertawe’n dathlu 225 mlynedd ers sefydlu Camlas Abertawe gyda nifer o ddigwyddiadau trwy gydol 2023.
Fel camlas ddiwydiannol a adeiladwyd i wasanaethu pyllau glo, gweithfeydd haearn a gweithfeydd copr yng nghwm Tawe, am ddwy ganrif a mwy mae'r gamlas wedi chwarae rhan allweddol yn hanes y ddinas ac mae'n parhau i fod yn hafan i fywyd gwyllt ac yn dirnod yn nhreftadaeth gyfoethog Abertawe heddiw.
Ym 1981 ffurfiwyd Cymdeithas Camlas Abertawe i weithio tuag at adfer y gamlas, ac mae Glandŵr Cymru'n gweithio mewn partneriaeth â'r gymdeithas, gan reoli'r pum milltir sy'n agored i deithio ar eu hyd erbyn hyn o ddyfrffordd a fu unwaith yn 16 milltir o hyd.
Dros gyfnod o flwyddyn, mae cyfres o ddathliadau pen-blwydd yn cael eu cynnal, gyda'r prif ddathliad yn digwydd rhwng mis Ebrill a mis Medi yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe lle mae arddangosfa sy'n bwrw golwg ar hanes y gamlas.
Prosiect ffilm sy'n cynnwys pedair ysgol gynradd yn ardal y gamlas sy'n adrodd ei hanes yw un o nodweddion yr arddangosfa. Mae mynediad i'r arddangosfa a'r amgueddfa'n rhad ac am ddim.
Wrth sôn am yr arddangosfa, dywedodd Mark Evans, cyfarwyddwr rhanbarthol Glandŵr Cymru: "Rydym yn falch iawn o ddathlu 225 mlynedd ers sefydlu Camlas Abertawe, gydag arddangosfa mewn partneriaeth â Chymdeithas Camlas Abertawe yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
"Mae'r arddangosfa'n gyfle cyffrous i ymwelwyr ddarganfod rôl bwysig Camlas Abertawe dros y 225 mlynedd diwethaf. O'i gwreiddiau fel camlas ddiwydiannol a adeiladwyd i wasanaethu glofeydd, gweithfeydd haearn a gweithfeydd copr yng nghwm Tawe, i'r prosiect parhaus i adfer gweddill y gamlas, a sut, dros y cyfnod hwnnw, mae wedi bod o fudd i fywyd gwyllt a lles y bobl sy'n byw yn ei chyffiniau."
Ymhlith y digwyddiadau eraill sy'n cael eu cynnal gydol y flwyddyn i ddathlu'r pen-blwydd mae prosiect hanes llafar sy'n cynnwys atgofion o'r gamlas, teithiau cerdded treftadaeth gyda pherfformiadau gan gwmni theatr ym mis Awst, tra bydd Parc Coed Gwilym yn cynnal Parti yn y Parc ym mis Mai.
Gallwch ddarganfod mwy am y pen-blwydd drwy gydol y flwyddyn yn adran 225 mlwyddiant Abertawe ar wefan Glandŵr Cymru a gwefan Cymdeithas Camlas Abertawe.
Last Edited: 09 August 2023
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration