Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Dathlu Treftadaeth, Cymuned a'r Amgylchedd yn Safle Treftadaeth y Byd

Mae gŵyl sy’n defnyddio celf a diwylliant i ddathlu cymunedau a threftadaeth y pentrefi o amgylch Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Dyfrbont Pontcysyllte.

A multi-arched aqueduct crosses the valley floor

Mae cymunedau Trefor, Froncysyllte, Cefn Mawr, a’r Waun i gyd yn cael eu dathlu fel rhan o brosiect celf cymunedol creu lleoedd blwyddyn o hyd sy’n cael ei redeg gan Glandŵr Cymru, sef y Canal and River Trust yng Nghymru. Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin. drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae 'Y Bont sy'n Cysylltu' wedi bod yn archwilio treftadaeth ddiwylliannol fywiog y cymunedau sy'n amgylchynu Dyfrbont eiconig Pontcysyllte, gan adrodd straeon y bobl sy'n byw yno a'r rolau y maent wedi'u chwarae mewn hanes trwy gelf, adrodd straeon a ffilm.

Bydd penwythnos o ddathlu yn annog pobl i ymweld â'r cymunedau er mwyn darganfod mwy amdanynt a darganfod mwy am y lleoedd lleol sy'n gwneud Safle Treftadaeth y Byd yn llawer mwy na’r Ddyfrbont ar ei phen ei hun.

Dywedodd Mark Evans, cyfarwyddwr rhanbarthol Cymru yn Canal & River Trust: “Mae’r cymunedau hyn yn eistedd o fewn Safle Treftadaeth y Byd ac maent yn dyst i ddyfeisgarwch diwydiannol yr ardal, sy’n denu hyd at 500,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

“Mae Glandŵr Cymru yn gwerthfawrogi pŵer trawsnewidiol celf ac adrodd straeon fel modd o danio treftadaeth a dathlu hunaniaeth. Mae’r Bont sy’n Cysylltu wedi bod yn archwilio’r tapestri cyfoethog o straeon, pobl, a hanes sy’n cysylltu’r cymunedau hyn ac mae’n gyfle gwych i bobl leol, o bob rhan o Gymru a thu hwnt ddod i ddarganfod mwy amdanynt a’r rolau y maent wedi’u chwarae yn y rhan arbennig hon o Ogledd Cymru.”

Chirk Aqueduct across to Wales

Bydd y penwythnos yn fwrlwm o gelf awyr agored, perfformiadau a barddoniaeth, gan roi blas o’r gwytnwch, yr hiwmor a’r ymdeimlad cryf o gymuned sy’n ffynnu yn y pentrefi.

Ddydd Sadwrn 23 Tachwedd, yn Nhrefor a Froncysyllte, bydd Basn Trefor, sydd ar Gamlas Llangollen, yn cynnal ei farchnad ddŵr gyntaf. Gallwch ddod o hyd i osodiadau celf awyr agored dros dro, arddangosfeydd dros dro, gweithgareddau celf a chrefft i’r teulu a gallwch hyd yn oed fynd ar daith cwch ar draws Dyfrbont Pontcysyllte ar fwrdd y Seren Fach. Bydd y grŵp theatr Dirty Protest o Wrecsam hefyd yn perfformio.

Yn y Waun, bydd arddangosfa o gelf lleol, gweithdai, sgyrsiau gan haneswyr lleol, a lansiad o waith celf o’r ardal sydd wedi’i gynhyrchu dros ddegawdau lawer gan yr artist lleol Jim Heath. Bydd Eglwys y Santes Fair yn cynnal ffair Nadolig, mae ffair grefftau yng Nghaffi Wylfa ac mae’n gyfle i ymweld â’r Waun a darganfod ei dyfrbont a’i thraphont ryfeddol.

Ddydd Sul 24 Tachwedd, bydd Cefn Mawr yn cynnal dathliad o gelf awyr agored, barddoniaeth, llwybr treftadaeth ag arwyddion, gosodiadau celf a pherfformiadau stryd. Bydd Capel Ebenezer yn cynnal arddangosfa, a bydd Neuadd George Edwards yn cynnig gweithgareddau crefft i’r teulu. Bydd Amgueddfa Gymunedol Cefn Mawr hefyd ar agor ar gyfer y digwyddiad.

Dywedodd Claire Farrell, cyfarwyddwr prosiect Y Bont sy’n Cysylltu: “Mae rhaglenni diwylliannol fel y rhain mor werthfawr o ran rhoi lle ac amser i ymgysylltu â’r cymunedau hyn a deall beth sy’n gwneud y cymunedau hyn mor arbennig, a beth sy’n bwysig iddyn nhw. Mae treftadaeth yn llawer mwy na phensaernïaeth a henebion, hanner y stori yn unig yw hyn.

“I wir ddod â safleoedd treftadaeth yn fyw, mae angen i ni gadw a rhannu’r hanesion bywyd sy’n rhychwantu cenedlaethau o deuluoedd yma, a’r entrepreneuriaeth a’r creadigrwydd sydd wedi dilyn, ac sydd i’w weld yn amlwg heddiw. Wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol er mwyn cefnogi datblygiad economaidd, diwylliannol a chymdeithasol cynaliadwy, mae angen i ni ddatgloi a dyrchafu yn hytrach nag ailddyfeisio, mae’r atebion yno yn y cymunedau’n barod.”

Dywedodd Richard Nicholls, is-gadeirydd bwrdd Wrecsam2029: “Llongyfarchiadau ar y prosiect arloesol hwn sy’n asio treftadaeth ddiwydiannol gyda chelf gyfoes a gyd-grewyd gyda chymunedau Cefn Mawr, Fron ac Acrefair.

“Mae’n enghraifft wych o weithwyr proffesiynol yr amgylchedd hanesyddol ac artistiaid cyfoes yn dod at ei gilydd i arddangos y diwylliant a’r hanes yr ydym yn eu rhannu er mwyn siapio ein dyfodol trwy ail-ddychmygu ac ailddehongli tirweddau diwydiannol.”

Anogir ymwelwyr i barcio ym Maes Parcio Ymwelwyr Basn Trefor lle bydd modd i chi fwynhau rhai o'r gweithiau celf awyr agored a’r llwybrau cyntaf, byddwch yn cael eich cyfarch gan staff y digwyddiad ac yn cael gwybodaeth am raglen y ddau ddiwrnod.

Last Edited: 27 November 2024

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration