Rydym yn galw am gefnogaeth i sicrhau dyfodol Camlas Mynwy ac Aberhonddu
Rydym yn galw ar gefnogaeth i helpu i sicrhau dyfodol Camlas Mynwy ac Aberhonddu ar ôl i ddeddfwriaeth gael ei deddfu sy'n cyfyngu'n ddifrifol ar y cyflenwad o ddŵr sy'n bwydo'r gamlas.
Mae'r gamlas wedi bod yn rhan o dirwedd Cymru ers 225 mlynedd. Ers ei hadeiladu, mae prif ffynhonnell dŵr y gamlas wedi dod o afon Wysg gerllaw. Ond nawr mae newidiadau mewn deddfwriaeth, sy'n gosod cyfyngiadau llym ar y dŵr y gellir ei dynnu o afon Wysg, yn dod â'r posibilrwydd y gallai'r gamlas sychu ar ôl mwy na dwy ganrif.
Mae sicrhau bod gan y gamlas ddigon o ddŵr nid yn unig yn hanfodol i ddefnyddwyr cychod, ond hefyd i gynnal y nifer o swyddi yn y sector cychod a thwristiaeth eraill yn Ne Cymru sy'n dibynnu arno. Bydd y posibilrwydd y bydd y gamlas yn sychu am gyfnod ar unrhyw adeg y bydd lefelau'r afon yn gostwng yn drychinebus hefyd i amgylchedd y gamlas gan gynnwys pysgod, infertebratau, mamaliaid ac adar.
Apeliodd Glandŵr Cymru yn erbyn y deddfiad ond ni lwyddodd i newid penderfyniad i osod cyfyngiadau ar y dŵr sy'n cael ei dynnu o afon Wysg. Roedd hyn oherwydd nad oedd y broses gyfreithiol gul yn gallu ystyried yr effeithiau ar gamlesi er gwaetha’r niwed economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol a fydd yn cael ei wneud. O ganlyniad, mae Glandŵr Cymru bellach yn wynebu'r posibilrwydd na fydd digon o ddŵr i gadw'r gamlas ar agor yn ystod y misoedd nesaf.
Eglurodd Mark Evans, cyfarwyddwr rhanbarthol Glandŵr Cymru: "Ers i'r gamlas gael ei hadeiladu ar ddiwedd y 18fed ganrif, mae wedi tynnu'r rhan fwyaf o'i dŵr o afon Wysg.
"Fodd bynnag, mae cymhwyso newidiadau yn y ddeddfwriaeth yn yr 21ain Ganrif yn golygu bod cyflenwad dŵr bellach yn gyfyngedig iawn. Mae blaenoriaethu afon Wysg, heb fod cyflenwad arall o ddŵr ar gael, yn mynd i gael canlyniadau difrifol i’r gamlas, gan effeithio ar ddefnyddwyr cychod, swyddi a bywyd gwyllt ar hyd y ddyfrffordd ecolegol-gyfoethog hon.
"Mae hyn yn peri risg hirdymor difrifol i ddyfodol Camlas Mynwy ac Aberhonddu ac rydym yn wynebu'r dewis diangen rhwng cyfyngu'n ddifrifol ar ddefnydd o’r gamlas neu, os gellir cyflenwi dŵr o rywle arall, gorfod talu costau uchel am ffynhonnell ddŵr amgen."
Mae Glandŵr Cymru mewn trafodaethau gyda Dŵr Cymru i ymchwilio i opsiynau cyflenwi dŵr amgen posibl, ond heb unrhyw ateb yn fforddiadwy i'r elusen, mae'n galw am gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i feddwl am ddatrysiad sy'n cefnogi afon Wysg a'r gamlas boblogaidd fel ei gilydd.
Aeth Evans ymlaen: "Rydym yn annog pobl i siarad â'u gwleidyddion lleol er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd y gamlas iddyn nhw, ein hamgylchedd, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a'r economi leol. Mae'r gamlas yn gyrchfan bwysig ac yn dod â miliynau o bunnoedd i'r ardal leol.
"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau dyfodol y gamlas ond mae angen cefnogaeth arnom fel y gall camlas Mynwy ac Aberhonddu barhau i chwarae rhan bwysig yn y rhan hon o’r de, fel y mae wedi gwneud ers dros 200 mlynedd."
Last Edited: 04 April 2025
Stay connected
Sign up to our newsletter and discover how we protect canals and help nature thrive