Derbyniad y Senedd yn nodi deng mlynedd elusen sy’n gofalu am ddyfrffyrdd Cymru
Ymunodd Aelodau o’r Senedd, sefydliadau partner a gwirfoddolwyr â Glandŵr Cymru - yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru – â derbyniad ddydd Mercher 26 Hydref. Roedd yr achlysur, i ddathlu degfed pen-blwydd yr elusen, yn gyfle i gyflwyno diweddariad ar y gwaith o ddiogelu ac amddiffyn dyfrffyrdd Cymru a hyrwyddo’r rôl hanfodol sydd ganddyn nhw er lles y genedl.
Yn y derbyniad cafwyd cyfle i weld sut mae camlesi Cymru yn cael eu defnyddio'n fwy nag erioed o'r blaen, gan fwy o bobl nag ar unrhyw adeg mewn hanes, ac roedd yn ddathliad o ddadeni'r camlesi.
Clywodd y rhai a oedd yn bresennol am y cynnydd y mae Glandŵr Cymru wedi ei wneud yn ystod ei deng mlynedd gyntaf fel elusen, gan gyflawni ei gweledigaeth ar gyfer dyfrffyrdd byw sy'n gallu trawsnewid lleoedd a chyfoethogi bywydau, darparu coridorau glas-gwyrdd sy'n hyrwyddo adferiad natur a chynnal economïau lleol, yn ogystal â sut mae'r dyfrffyrdd yn ffynhonnell iechyd a lles nid yn unig i drigolion lleol ond hefyd i'r nifer helaeth o ymwelwyr y maen nhw'n eu denu. Fel elusen sy'n canolbwyntio ar wneud bywyd yn well wrth y dŵr, clywodd y derbyniad hefyd am y nifer fawr o wirfoddolwyr a grwpiau partner lleol sy'n chwarae rôl hollbwysig i wneud hyn yn bosib.
Bu Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn annerch yn y digwyddiad, gan sôn gydag angerdd am y ffordd yr oedd hi a'i theulu yn trysori'u hatgofion o'r mwynhad a gawsant ar y rhwydwaith camlesi, a'u gwerth yn darparu cyfleoedd i gymunedau Cymru gysylltu â natur a hyrwyddo eu hiechyd a'u lles. Dywedodd ei bod yn dymuno gweld y camlesi yng Nghymru yn parhau i ffynnu.
Meddai Steve Thomas CBE, Cadeirydd Bwrdd Glandŵr Cymru : “Lansiwyd Glandŵr Cymru yn 2012, gydag asedau cyhoeddus yn cael eu trosglwyddo i ofal Ymddiriedolaeth elusennol newydd, ac rydym wedi gweld pa mor llwyddiannus y gall hyn fod.
“Mae Glandŵr Cymru yn darparu gofodau rhad ac am ddim a hygyrch i gymunedau ledled Cymru, tra hefyd yn hybu economi twristiaeth gref Cymru trwy ddarparu atyniad i ymwelwyr.
“Roedd ein derbyniad yn gyfle pwysig i siarad ag Aelodau o'r Senedd a phartneriaid eraill am fygythiad newid hinsawdd i'n seilwaith hanesyddol, a'r angen i sicrhau bod buddsoddi yn ein dyfrffyrdd yn parhau i osgoi'r perygl eu bod yn dirywio.
“Hoffwn ddiolch i bawb a fynychodd y dathliad hwn ac edrychaf ymlaen i weithio i sicrhau dyfodol llewyrchus i'r dyfrffyrdd am y deng mlynedd nesaf a thu hwnt.”
Last Edited: 09 August 2023
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration