225 mlynedd o hanes camlesi yn Abertawe ar gof a chadw yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Mae pobl Abertawe a'r cylch yn cael eu gwahodd i ddysgu mwy am hanes 225 mlynedd eu camlas leol mewn arddangosfa arbennig yr haf hwn.
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe yn cynnal arddangosfa ar gyfer Glandŵr Cymru (yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru), mewn partneriaeth â Chymdeithas Camlas Abertawe, gan edrych yn ôl ar gyfraniad dylanwadol Camlas Abertawe i'r ddinas ers dwy ganrif a mwy.
Gan ddarparu llwybr trafnidiaeth gwerthfawr, ynghyd â dŵr a phŵer ar gyfer byd masnach a diwydiant, cafodd y gamlas 16 milltir ei hadeiladu i wasanaethu glofeydd, gweithfeydd haearn a gweithfeydd copr Cwm Tawe. Heddiw mae'n llwybr cerdded a beicio poblogaidd, ac mae cychod yn gallu mynd ar hyd 5 milltir ohoni. Mae Glandŵr Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Camlas Abertawe sy'n ymdrechu i adfer rhannau eraill o'r gamlas yn llawn.
I ddathlu'r arddangosfa, fe wnaeth Glandŵr Cymru a Chymdeithas Camlas Abertawe estyn croeso i'r Cynghorydd Graham Thomas, Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Chris Williams, Maer Castell-nedd Port Talbot, a Mike Hedges AS, ynghyd â gwesteion eraill i ddigwyddiad arbennig yn yr amgueddfa.
Roedd disgyblion o Ysgol Gynradd Gatholig Joseff Sant ac Ysgol Gynradd Trebannws hefyd yn bresennol ar ôl cyfrannu at fideo a gomisiynwyd yn arbennig i adrodd stori'r gamlas, sydd i'w weld yn yr amgueddfa. Cafwyd perfformiad o ganeuon am y gamlas gan y grŵp roc gwerin 'The Worried Men of Gower' hefyd.
Siaradodd Liz McIvor, cyflwynydd cyfres BBC 4 'Canals: The Making of a Nation' a noddwr Cymdeithas Camlas Abertawe yn y digwyddiad. Bu Cyfarwyddwr Glandŵr Cymru, Mark Evans, a'i gydweithiwr David Morgan ac Alan Tremlett o Gymdeithas Camlas Abertawe hefyd yn sgwrsio gyda gwesteion.
Dywedodd David Morgan, rheolwr datblygu Glandŵr Cymru: "Roedd hi'n wych dathlu 225 mlynedd ers sefydlu'r gamlas gyda'n gwesteion a oedd yn cynnwys aelodau o Gymdeithas Camlas Abertawe sydd wedi gweithio'n galed ers blynyddoedd lawer i adfer y gamlas.
“Gobeithio y bydd mwy o bobl yn mwynhau ymweld â'r amgueddfa a dysgu am gyfnod pwysig yn hanes lleol Abertawe a chamlas sy'n dal mor bwysig i'r ardal hyd heddiw."
Meddai Alan Tremlett o Gymdeithas Camlas Abertawe: "Mae'r arddangosfa yn ffordd wych o adrodd stori'r gamlas. Mae'n cael ei gweld gan gannoedd o ymwelwyr â'r amgueddfa bob wythnos, gan eu haddysgu am rôl y gamlas yn hanes Abertawe, sydd lawn mor bwysig heddiw i bobl leol a'r bywyd gwyllt sy'n ei galw'n gartref."
Gallwch ddysgu mwy am 225 mlwyddiant Camlas Abertawe, a'r holl ddigwyddiadau sy'n dathlu'r achlysur arbennig hwn, ar y we.
Roedd y dathliadau arbennig yn bosib diolch i gymorth ariannol hael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cymru.
Bydd yr arddangosfa rhad ac am ddim yn para tan 17 Medi.
Last Edited: 09 August 2023
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration