Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Swansea Canal, by Alan Richards

Camlas Abertawe

Er mai dim ond 5 milltir o Gamlas Abertawe sy’n bosibl i’w mordwyo o Glydach i Bontardawe ac o Bontardawe i Ynysmeudwy, mae’n dal i fod yn llwybr cerdded a beicio gwyrdd a dymunol yng Nghwm Tawe, gyda llethrau serth ar bob ochr.

Mae Cymdeithas Camlas Abertawe'n gweithio'n galed i adfer y gamlas ac mae'n cynnal diwrnodau gwirfoddoli rheolaidd.

Mae'r gamlas nawr yn llwybr poblogaidd ac mae'r llwybr tynnu'n rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Er, os oes yn well gennych chi badlo na beicio, mae Cymdeithas Camlas Abertawe'n llogi canŵau a chaiacau o Barc Coed Gwilym, Clydach bob dydd Sul yn yr haf.

Os ydych chi yn yr ardal, mae taith i'r ganolfan dreftadaeth ym Mharc Coed Gwilym Clydach yn ffordd wych o ddysgu am hanes y gamlas. Oriau agor, dydd Sadwrn 11-3pm dydd Sul 12 – 3pm.

Mae byd natur wedi adfeddiannu sawl rhan o'r gamlas, gan greu cynefinoedd i lysywod ac adar dŵr. Felly, mae cynlluniau adfer wedi'u cynllunio mewn ffordd sy'n diogelu bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y gamlas.

Ar Draphont drawiadol Clydach Isaf, gallwch weld lle mae'r gamlas yn ymuno ag Afon Clydach Isaf ac Afon Tawe.

Os hoffech grwydro ymhellach ar hyd Afon Tawe, mae Ymddiriedolaeth Cychod Cymunedol Abertawe'n trefnu teithiau sy'n esbonio gorffennol diwydiannol cyfoethog Cwm Tawe a'r Copropolis.

Gelwid dinas Abertawe yn ‘Copropolis' yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Yn wir, ym 1820, roedd 90% o holl allu mwyndoddi copr Prydain wedi'i leoli o fewn ugain milltir i'r ddinas ac roedd yn cael ei hystyried yn ganolfan y byd ar gyfer mwyndoddi mwyn copr a gweithgynhyrchu metel ac yn un o'r canolfannau diwydiannol cynharaf yng Nghymru.

Dod o hyd i ataliadau, cyfyngiadau a chyngor arall ar fordwyo ar gyfer y ddyfrffordd hon (Saesneg yn unig)

Yr hanes

Adeiladwyd y gamlas ddiwydiannol hon i wasanaethu pyllau glo, gweithfeydd haearn a gweithfeydd copr yng Nghwm Tawe ac agorwyd rhan gyntaf y gamlas o Abertawe i Godre'r-Graig ym 1796, a chwblhawyd yr 16.5 milltir (26.6 km) cyfan erbyn mis Hydref 1798. Roedd y gwaith peirianneg sifil yn cynnwys 36 loc a phum dyfrbont i gludo'r gamlas dros brif lednentydd Afon Tawe, yng Nghlydach, Pontardawe, Ynysmeudwy, Ystalyfera a Chwmgïedd.

Roedd gan y gamlas un nodwedd hynod: roedd rhan ganolog a oedd tua milltir o hyd yn gamlas breifat a adeiladwyd gan Ddug Beaufort, oedd yn rhedeg o Nant Rhydyfiliast i Nant Felin, ac roedd gan y Dug hawl i godi toll ar y rhan hon. Gelwid rhan y Dug yn Gamlas Trewyddfa, ond roedd yn rhan o'r brif linell.

Roedd y lociau ar y brif ran yn 69 x 7.5 troedfedd (21.0 x 2.3 m), ond roedd y rhai ar ran y Dug ond yn 65 troedfedd (20 m) o hyd, ac roedd hyn yn cyfyngu ar gyfanswm hyd y cychod. Roedd y lociau'n codi'r gamlas o ochr lefel y môr yn Abertawe drwy 373 troedfedd (114 m) i gyrraedd Abercraf.

Yn Abertawe, adeiladwyd glanfeydd ar hyd yr afon er mwyn gallu trosglwyddo llwythi i longau glannau. Yn anarferol i brosiectau o'r fath, roedd y gost derfynol ymhell o fewn y gyllideb, gyda'r prosiect yn costio £51,602 hyd at ganol 1798.

Ar ôl i'r gamlas agor gwelwyd cynnydd yng ngweithgarwch diwydiannol y cwm, gyda nifer o gwmnïau gweithgynhyrchu yn sefydlu gweithfeydd ar ei glannau. Adeiladwyd pedair cangen fer o gamlas, a rhwydwaith o dramffyrdd i gysylltu mwynfeydd a chwareli'n raddol i'r gamlas.

Ychydig o gofnodion sydd i ddangos faint o lwythi a gludwyd ar y gamlas, ond mae amcangyfrifon yn seiliedig ar faint o lo a glo mân a gludwyd o Ddociau Abertawe yn awgrymu tua 386,000 tunnell ym 1839. Aethpwyd ati i wella glannau Camlas Abertawe yn sgil agor Camlas Tennant i Ddociau Abertawe ym 1824.

Prynwyd y gamlas gan y Great Western Railway ym 1873 am bris o £107,666 am brif Gamlas Abertawe, a £40,000 am Gamlas Trewyddfa Dug Beaufort a pharhaodd i fod yn broffidiol nes canol yr 1890au. Daeth cludo masnachol i ben ar y gamlas ym 1931, gyda chychod yn parhau i'w defnyddio wedi hynny ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn unig, gyda chychod yn cael eu tynnu â cheffyl i'w gweld am y tro olaf yng Nghlydach ym 1958.

Dirywiad

Mae llawer o'r gamlas wedi'i llenwi dros yr 50 mlynedd diwethaf. Effeithiodd y gwaith o adeiladu ffordd yr A4067 o amgylch Ystradgynlais ar y rhan ogleddol, ac roedd y rhan ddeheuol islaw Clydach wedi'i llenwi erbyn 1982. Ym mis Hydref 1998, gorlifodd y gamlas ei glannau yn dilyn glaw trwm gan achosi llifogydd difrifol ym Mhontardawe. Effeithiwyd ar drideg o dai, rhai unedau diwydiannol a siopau yng nghanol y dref, gyda'r dŵr hyd at 4 troedfedd (1.2 m) o ddyfnder mewn mannau.

Adfer

Ym 1981, sefydlwyd Cymdeithas Camlas Abertawe, ac maent wedi bod yn gweithio tuag at adfer gweddill y gamlas. Cwblhawyd llawer o waith i wella amgylchedd ffisegol y gamlas. Mae prosiect ar droed i garthu'r gamlas ac i gael gwared ar glymog Japan sy'n broblem fawr yng Nghwm Tawe.

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration