Pwy ydym ni?
Glandŵr Cymru yw’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru. Ni yw perchnogion a’r sawl sy’n gofalu am Gamlesi Llangollen, Maldwyn, Mynwy & Aberhonddu ac Abertawe.
Mae hyn yn cynnwys perchenogaeth o un o'r tri Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru, Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte, a rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon. Mae Camlas Maldwyn yng Nghymru yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae ganddi'r boblogaeth fwyaf yn y byd o lyriaid-y- dŵr arnofiol a 90% o boblogaeth y DU o Ddyfrllys Camleswellt.
Dyma'r tro cyntaf mewn trigain mlynedd i bob un o'r camlesi beidio â chael eu rheoli gan Lywodraeth y DU, ac mae hyn yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i Gymru nid yn unig i sicrhau bod potensial ein dyfrffyrdd ein hunain yn cael ei wireddu'n llawn, ond hefyd er mwyn gwireddu potensial holl ddyfrffyrdd ac ardaloedd dŵrCymru.
Does dim dwywaith bod gan ddyfrffyrdd Cymru gyfraniad i'w wneud i wella bywydau, ffyniant ac iechyd pobl. Dim ond trwy weithio ochr yn ochr ag unigolion, sefydliadau a'r llywodraeth ar bob lefel, y gallwn gyflawni'r potensial hwn.
Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae nifer y gwirfoddolwyr ar y dyfrffyrdd eu hunain ac yn y swyddfeydd wedi bod yn cynyddu'n sylweddol. Mae cymunedau'n mabwysiadu eu darnau eu hunain o gamlas ac mae cefnogwyr a Chyfeillion yn mynd i'w pocedi'n gyson.
Rydym am weithio gyda chi i sicrhau bod dyfrffyrdd Cymru'n cyfrannu'n llawn at les y wlad.
Last Edited: 12 April 2022
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration