Bwrdd Glandŵr Cymru
Mae’r bwrdd yn cynghori uwch-reolwyr ar faterion allweddol a chyfleoedd sy’n codi o gamlesi Cymru, ac yn ystyried sut gallai’r dyfrffyrdd fod o fudd i iechyd, lles a chyfoeth Cymru a’i phobl, a sut y gallant gyfrannu fwyfwy i fywyd a diwylliant y genedl.
Er mwyn cydnabod y cyfleoedd unigryw i'r Ymddiriedolaeth yng Nghymru, mae'r bwrdd yn cael ei gadeirio gan ymddiriedolwr ac mae ganddo'r rôl uniongyrchol o ddarparu cyfeiriad strategol i ddyfrffyrdd hanesyddol Cymru, gan gynnwys camlesi Maldwyn ac Abertawe sy'n hafan i fywyd gwyllt, ysblander camlas Mynwy ac Aberhonddu a chamlas fythol boblogaidd Llangollen, sy'n cynnwys traphont ysblennydd unigryw Pontcysyllte sy'n Safle Treftadaeth y Byd.
Last Edited: 09 November 2022
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration