Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Arosfa 7: Gelynion y pysgod a’r llyffantod

Mae creaduriaid y dŵr angen llefydd diogel i guddio, gan fod ysglyfaethwyr yn ysu i’w dal

Frog with head out of water

View this page in English

Y da a'r drwg

Mae gweision y neidr a mursennod ymhlith ein pryfed prydferthaf – ond mae eu nymffau (y rhai bach) yn beryg bywyd.

Mae nymff yn byw yn y mwd am ddwy i bum mlynedd. Mae'n heliwr didostur, yn dal ysglyfaeth fel penbyliaid a physgod bach trwy eu trywanu gyda'r bachyn ar ei wefus isaf.

Bydd y nymff yn gadael y dŵr maes o law trwy gropian i fyny coesyn corsen, cyn troi'n bryfyn llawn dwf sy'n hedfan. Ond ychydig wythnosau'n unig fydd ei fywyd allan o'r dŵr.

Bachu broga

Yn aml, gwelir nadroedd y gwair yn nofio yng nghanol y chwyn â'u bryd ar fachu brogaod.

Pwll diogel

Ar yr ochr chwith, fe welwch chi bwll bach a grëwyd i dderbyn dŵr sy'n gorlifo o'r gamlas. Mae gweddillion y gatiau cored yno o hyd.

Mae'r pwll yn gynefin go debyg i ymylon y gamlas, ond heb y pysgod ysglyfaethus. Felly, mae'n hafan i frogaod, llyffantod a madfallod dŵr. Sylwch ar grifft llyffant a phenbyliaid yn y gwanwyn.

Clywch

Gwrandewch yn astud ar frogaod yn crawcian wrth iddyn nhw ddodwy yn y pwll rhwng mis Ionawr a mis Mawrth.

Ble nesaf?

Mae'ch arosfa nesaf gyferbyn â'r ‘mainc siâp pysgodyn' ar y mynegbost tri bar lle mae'r gamlas yn fforchio.

Last Edited: 17 July 2015

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration