Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Arosfa 20 – Gwarchodfeydd Natur

Mae’r warchodfa natur ‘all-lein’ yma’n diogelu bywyd gwyllt os bydd y gamlas yn ailagor i gychod.

View this page in English

Mae Camlas Maldwyn yn cael ei hadfer yn barhaus ers blynyddoedd lawer. Fodd bynnag, gall adfer y gamlas a'i defnyddio'n sgil hynny effeithio ar les y fioamrywiaeth warchodedig, yn enwedig y planhigion dŵr prin sy'n arbennig o sensitif i ansawdd dŵr. I liniaru hyn a sicrhau dyfodol y gamlas, lluniwyd strategaeth fframwaith ar gyfer adfer y gamlas a'i defnyddio'n gynaliadwy yn y dyfodol. Fel rhan o'r strategaeth liniaru ecolegol hon, cafwyd cytundeb i greu nifer o warchodfeydd natur a fyddai'n diogelu bywyd gwyllt rhag effeithiau a ddeuai yn sgil adfer y gamlas a'i hailagor i gychod.

Ar hyn o bryd mae saith gwarchodfa natur ar hyd y gamlas. Mae tair o'r gwarchodfeydd hyn, Lociau Aston, Basn Rednal a Changen Weston, ar lan y rhan o'r gamlas sydd yn Lloegr. Mae gwarchodfeydd natur Pyllau Clai Wern, Cangen Cegidfa, Whitehouse a Brithdir wedi'u creu ar hyd y rhan sydd yng Nghymru.

Mae'r rhain yn cael eu dosbarthu fel gwarchodfeydd ochr ‘all-lein' sy'n aros yn gysylltiedig yn hydrolegol â'r gamlas drwy ffrwd gyflenwi. Cawsant eu datblygu i helpu i gadw'r cynefinoedd dŵr, coetir, glaswelltir a phrysgwydd gwerthfawr sy'n gysylltiedig â choridor y gamlas a'u cynllunio'n benodol i gadw poblogaethau'r macroffytau dŵr prin a sensitif, gan gynnwys dyfrllys cywasg a llyriad- y- dŵr arnofiol sy'n cael ei warchod o dan y gyfraith. Maen nhw hefyd yn ffurfio clustog amddiffynnol rhag digwyddiadau llygru mawr.

O dan ymosodiad gan filwyr estron!

Fodd bynnag, nid yw pob rhywogaeth ddŵr yn dda i fioamrywiaeth. Un o'r prif broblemau sy'n codi yn y gwarchodfeydd yw rheoli rhywogaethau goresgynnol. Yma yng ngwarchodfa natur Brithdir, achos pryder mawr yw presenoldeb milwr y dŵr. Planhigyn dŵr arnofiol yw hwn sy'n dod i'r wyneb yn yr haf ar ffurf blodigion mawr. Mae'n gynhenid yn rhai rhannau o'r DU ond nid yn y rhan yma o Gymru. Oherwydd ei natur ymosodol a chystadleuol, yn fuan iawn mae milwr y dŵr yn tueddu i gymryd drosodd a mynd yn drech na llawer o'r rhywogaethau cynhenid a phrinnach sy'n fwy sensitif i amodau amgylcheddol.

Mae'n bwysig rheoli'r mathau hyn o broblemau i gadw gwerth cadwraethol hirdymor y gwarchodfeydd natur hyn a sicrhau ein bod yn gwarchod ein poblogaethau o blanhigion dŵr gwerthfawr. Mae'r gwarchodfeydd natur hyn yn cael eu rheoli'n barhaus drwy baratoi cynlluniau rheoli, sy'n nodi'r presgripsiynau rheoli cywir i bob gwarchodfa i gadw'r cynefinoedd a rhywogaethau allweddol a sicrhau bod y gwarchodfeydd yn cyflawni eu pwrpas cadwraethol gwreiddiol.

Last Edited: 17 July 2015

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration