Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Arosfa 2: Trigolion brith y gamlas

O ystlumod sy’n hongian o dan bontydd i blanhigion go ryfedd ar gerrig, mae bywyd gwyllt wedi meddiannu’r hen adeiladau ar lan y gamlas

White lichen on stone

View this page in English

Ymwelwyr min nos

Yn y gwanwyn a'r haf, mae'r ystlumod yn gwledda ar bryfed dros y gamlas fin nos. Mae ystlumod lleiaf ac ystlumod y dŵr yn byw ym mhob twll a chornel yma, mewn hen adeiladau, pontydd, coed ac eiddew.

Cuddfan yr eiddew

Mae'r eiddew neu'r iorwg sy'n glynu wrth y waliau cerrig yn cynnig llefydd nythu diogel i'r adar, ac mae'r aeron yn ffynhonnell fwyd bwysig dros y gaeaf. Mae ei flodau'n llawn neithdar i wenyn a phryfed eraill.

Graffiti natur

Mae cennau, cymysgedd o algâu a ffyngau, fel sblash o baent ar y cerrig. Maen nhw'n gallu byw am gannoedd o flynyddoedd, felly mae rhai ohonynt cyn hyned â'r gamlas ei hun.

Mae'r waliau hefyd yn frith o fwsoglau, llysiau'r afu a rhedyn, ac maen nhw'n gallu goroesi hyd yn oed pan fo'r wal yn sych grimp.

Dan y dŵr

O dan y dŵr, mae'r gwaith cerrig yn gynefin i greaduriaid fel cimwch afon crafanc wen - sy'n perthyn i'r cimwch, a sbyngiau dŵr croyw.

Gofal piau hi

Gan fod y gwaith cerrig mor bwysig i fywyd gwyllt, mae staff yr Ymddiriedolaeth yn gofalu nad ydynt yn aflonyddu arnynt wrth wneud gwaith trwsio.

Clywch

Y ffordd orau o glywed ystlumod yw trwy ddefnyddio synhwyrydd ystlumod. Mae'r peiriant hwn yn trosi eu crïoedd ecoleoli yn sain clir a chlywadwy - dyma sŵn yr ystlum lleiaf.

Ble nesaf?

Cerddwch ar hyd y llwybr tynnu at y loc. Ar ôl croesi'r bont, mae'r arosfa nesaf ger y llifddorau ar ochr arall y gamlas.

Last Edited: 17 July 2015

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration